Mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe hirddisgwyliedig yn dychwelyd, gan argoeli i fod yn daith wefreiddiol i fyd difyr gwyddoniaeth yn ystod hanner tymor mis Hydref.

Cynhelir gŵyl eleni gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Fe'i cynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau rhwng 27 a 27 Hydref rhwng 10am a 4pm a bydd hefyd yn cynnwys perfformiadau anhygoel yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin Abertawe.    

Cynhelir yr ŵyl dros y penwythnos a bydd yn cynnwys mwy nag 20 o arddangosiadau am ddim, gan arddangos ymchwil arloesol gan Brifysgol Abertawe. Nid oes angen cadw lle o flaen llaw a gall ymwelwyr alw heibio i archwilio ynni hydrogen, cwrdd â chathod a chŵn robot, darganfod sut y byddai'r hen Eifftwyr yn mymïo'r meirw a dysgu sut i ddwlu ar gynrhon!

Mae'r ŵyl yn dechrau gyda digwyddiad gwych a gynhelir cyn dechrau'r penwythnos yn Taliesin ddydd Gwener 25 Hydref, pan fydd ‘The Magical Mr West’ yn perfformio ei sioe gyfareddol, Crafty Fools. Daw'r ŵyl i ben ddydd Llun 28 Hydref, pan fydd y cyflwynydd teledu poblogaidd Andy Day yn diddanu cynulleidfaoedd gyda'i berfformiad gwefreiddiol, Andy’s Dino Rap.

Mae uchafbwyntiau eraill yr ŵyl yn cynnwys:

  • Y seren boblogaidd oddi ar TikTok, Big Manny, a fydd yn trafod ei lyfr sydd ar ddod o'r enw Science is Lit ac yn cynnig gwybodaeth am sut i ddechrau ar daith i fod yn wyddonydd bywyd go iawn.
  • Bydd yr awdur nodedig a'r cyflwynydd teledu Ray Mears, yn archwilio sut mae ei brofiadau gyda phobl a lleoedd amrywiol wedi trawsnewid ei bersbectif. Bydd hefyd yn myfyrio ynghylch arwyddocâd dwys diffeithwch gan amlygu ei bwysigrwydd hanfodol ar gyfer ein dyfodol.
  • Bydd Meghan McCubbin, y cyflwynydd teledu a'r cadwraethwr bywyd gwyllt nodedig sy'n adnabyddus am ei gwaith ar raglenni byd natur megis Springwatch ac Autumnwatch, yn cyflwyno sgwrs ddiddorol am ei hangerdd am fywyd gwyllt a chadwraeth.

Yn ogystal â’r arddangosiadau am ddim, gallwch archebu tocynnau am ddigwyddiadau amrywiol eraill, gan gynnwys gweithdai rhyngweithiol a sgyrsiau cyfareddol sy'n archwilio dirgelion y cefnfor, rhyfeddodau trydan a straeon rhyfeddol unigolion sy'n llunio ein byd.  Anogir ymwelwyr i archebu tocynnau'n gynnar ar gyfer y digwyddiadau hyn i osgoi cael eu siomi.

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe wedi cadarnhau ei statws fel digwyddiad blynyddol hynod boblogaidd ar galendr Abertawe, gan ddenu mwy na 10,000 o ymwelwyr yn ystod y blynyddoedd blaenorol.

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi: “Ers 2016, mae Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe wedi bod yn ddigwyddiad allweddol i'r ddinas, un sy'n dod â'r gymuned ynghyd â'n hacademyddion a'n hymchwilwyr drwy gariad cyffredin at wyddoniaeth.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pobl i'r safle am brofiad sy'n sicr o fod yn fythgofiadwy i bawb sy'n bresennol.”

Porwch raglen lawn Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe ac archebwch eich tocynnau.

Rhannu'r stori