Cwblhawyd 137 o fyfyrwyr y rhaglen Camu Ymlaen yn llwyddiannus. Yn y seremoni raddio, gwahoddwyd pob myfyriwr yn ei dro i'r llwyfan i raddio.

Cwblhawyd 137 o fyfyrwyr y rhaglen Camu Ymlaen yn llwyddiannus.  Yn y seremoni raddio, gwahoddwyd pob myfyriwr yn ei dro i'r llwyfan i raddio.

Mae dros 100 o bobl ifanc o ysgolion a cholegau ar draws de-orllewin Cymru wedi dathlu graddio o'r rhaglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe, mewn seremoni arbennig o flaen eu teuluoedd a'u ffrindiau yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.

Rhaglen ehangu mynediad yw Camu Ymlaen sy'n gweithio gyda grwpiau ar draws y rhanbarth sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ym myd Addysg Uwch (AU) ar hyn o bryd.  Y prif ffocws yw myfyrwyr Blwyddyn 12 a'i nod yw helpu i newid bywydau drwy wneud addysg uwch yn hygyrch i bawb, gan gynnwys pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal a gofalwyr ifanc.

Camu Ymlaen - mwy o wybodaeth 

Ymunodd y graddedigion newydd â'r rhaglen ym Mlwyddyn 12, aethant i ddigwyddiadau amrywiol yn ystod y flwyddyn ac yna gwnaethant gymryd rhan mewn cwrs preswyl wythnos o hyd yn y Brifysgol yn yr haf.

Cefnogir y rhaglen gan dîm o fyfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe sy'n gweithio gyda myfyrwyr y chweched dosbarth a cholegau drwy gydol y rhaglen ac sy'n rhannu eu profiadau eu hunain o fywyd myfyrwyr. Eleni, cymerodd wyth myfyriwr presennol o Brifysgol Abertawe ran yn y rhaglen a gwnaeth y myfyrwyr hyn gymryd rhan yn y rhaglen pan roedden nhw yn y chweched dosbarth neu'r coleg.

Cwblhawyd 137 o fyfyrwyr y rhaglen Camu Ymlaen yn llwyddiannus.  Golyga hynny, os byddant yn dymuno cyflwyno cais i astudio ym Mhrifysgol Abertawe, byddent yn elwa o ostyngiad yn y graddau y mae eu hangen ar gyfer mynediad i'r cwrs o'u dewis.

Yn y seremoni raddio, gwahoddwyd pob myfyriwr yn ei dro i'r llwyfan i raddio a dyfarnwyd tystysgrif iddo gan Jo Parfitt, Pennaeth y Gwasanaeth Bywyd Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Meddai Jay Keirl o Goleg Castell-nedd Port Talbot, sydd am astudio gradd gydanrhydedd mewn seicoleg/troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe,

“Mae pob un ohonom sydd ar y rhaglen hon yn dod o gefndiroedd sy'n wirioneddol amrywiol; er gwaethaf hynny, mae'r ffaith honno wedi ein galluogi i ddechrau ar y rhaglen gyda meddylfryd agored a heb ragfarn. Roedd yn oleuol dysgu ffyrdd newydd o feddwl a dysgu ffeithiau difyr newydd a ffyrdd newydd o fyw. Oherwydd y rhaglen hon, rwy'n sicr fy mod i am gyflwyno cais i'r Brifysgol, ac i Brifysgol Abertawe yn benodol, i astudio'r radd gydanrhydedd mewn Seicoleg/Troseddeg.” 

Meddai Casey Bolton o Goleg Gŵyr Abertawe, sydd am astudio'r Gyfraith yn Abertawe,

“Ar ôl i mi gwblhau'r rhaglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe, gallaf ddweud ei bod hi wedi rhoi ystod eang o wybodaeth werthfawr i mi am y Brifysgol yn gyffredinol ac am yr hyn y dylwn i ei ddisgwyl fel myfyriwr sy'n symud i fyd addysg uwch… mae'r rhaglen hon wedi fy ngwneud i'n fwy hyderus am fy mhenderfyniadau addysgol yn y dyfodol… mae cwrdd â phawb wedi fy ngwneud i'n fwy cyffrous am fynd i'r Brifysgol.”

Meddai Abigail Sekyere o Goleg Gŵyr Abertawe, sydd am astudio fferylliaeth,

“Rwy'n teimlo mai'r hyn rwyf wedi'i ennill yn bennaf o'r rhaglen Camu Ymlaen yw hyder. Rwyf wedi cael cyfle i dawelu fy meddwl ynghylch fy mhryderon ond rwyf hefyd wedi cael y cyfle i gwrdd â llawer o bobl newydd ar hyd y daith ac rwyf wedi gwneud ffrindiau agos, hyd yn oed. Rwyf wedi dysgu am amrywiaeth o wasanaethau cymorth gwahanol sy'n fy ngwneud i'n hyderus bod gennyf wasanaethau i droi atynt os bydd eu hangen arnaf drwy gydol fy astudiaethau.”

Meddai Rebecca Griffiths, Uwch-swyddog Datblygu'r Rhaglen Camu Ymlaen,

“Roedd hi'n hyfryd dod ynghyd i wir ddathlu gwaith carfan 2024.   Rydyn ni'n gobeithio ein bod ni wedi ysgogi ac ysbrydoli'r myfyrwyr hyn i gyflwyno cais am gwrs yn y brifysgol. 

“Byddwn ni'n parhau i gefnogi'r myfyrwyr hyn yn ystod Blwyddyn 13 drwy gynnig y cyfle iddyn nhw fod yn bresennol yn ystod darlithoedd blwyddyn gyntaf ac rydyn ni'n dymuno pob lwc i'n holl fyfyrwyr gyda'u hastudiaethau.”

Cyflwynwyd gwobrau arbennig yn ystod y seremoni raddio yn y categorïau canlynol hefyd:

  • Ymrwymiad i'r rhaglen: Lucie Edwards o Ysgol Maesteg, Raven Davies o Goleg Gŵyr Abertawe a Warrick Eynon-Davies o Goleg Gŵyr Abertawe
  • Cyflawniad academaidd uchaf: Isobel Gough o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Mae graddedigion Camu Ymlaen 2024 yn dod o'r ysgolion a'r colegau canlynol:

  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Coleg Sir Gâr
  • Coleg Sir Benfro
  • Coleg Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Harri Tudur
  • Ysgol Dyffryn Aman
  • Ysgol Maesteg
  • Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe
  • Ysgol Gyfun Cynffig
  • Coleg Cymunedol y Dderwen
  • Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd
  • Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan
  • Ysgol Gyfun Treforys
  • Ysgol Gatholig a Chanolfan y Chweched Dosbarth San Joseff
  • Ysgol yr Esgob Gore

Rhannu'r stori