Lun yn dangos sut mae athrawon dan hyfforddiant yn dysgu drwy Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe. Chwith: Athrawon uwchradd dan hyfforddiant yn cynnal arbrofion gwyddoniaeth gan ddefnyddio tanau Bunsen. Dde: Grŵp o athrawon dan hyfforddiant yn defnyddio ystafell ddosbarth arsylwadol.

Un o'r ffyrdd y mae PYPA yn cefnogi ei hathrawon dan hyfforddiant yw drwy ddefnyddio ystafelloedd dosbarth arsylwadol. Mae'r mannau hyn yn rhoi cyfle diogel, dilys ac ysgogol i fyfyrwyr fyfyrio ar ddysgu ac addysgu a'u trafod.

Mae Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, wedi ysgrifennu adroddiad hynod galonogol ar Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA), gan ganmol y profiadau dysgu cyfoethog ac ysgogol a gyflwynir drwy ei rhaglenni Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR).

Meddai Dr Russell Grigg, Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae llwyddiant ein rhaglenni TAR yn seiliedig ar ansawdd yr addysgu a’r cymorth yn y brifysgol a'r ysgolion, sy'n helpu ein myfyrwyr i ddatblygu'n athrawon effeithiol, gofalgar ac ystyriol.

"Mae'n codi calon darllen bod 'bron pob un o’r myfyrwyr dan hyfforddiant yn dangos agweddau hynod gadarnhaol at ddysgu’. Mae hyn yn rhagorol, o ystyried natur ddwys rhaglenni TAR."

Yn yr adroddiad, a gyhoeddwyd ddydd Mercher 11 Medi, gwnaeth yr arolygwyr nodi bod "bron pob un o’r myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, [a’u] cefnogi’n dda".

Meddai Hannah Rees, myfyriwr graddedig TAR Uwchradd: "Mae diwylliant y rhaglen yn gadarnhaol, yn ymholgar ac yn hollol fywiog o ran yr addysgu. Roeddwn yn teimlo'n rhan o rywbeth. Mae hynny’n amhrisiadwy."

Gyda galw mawr am athrawon Cymraeg cymwysedig ar draws y DU, mae'r adroddiad hefyd yn canmol y Brifysgol am gynnig "profiadau dysgu gwerthfawr i fyfyrwyr ymarfer eu  Cymraeg mewn lleoliadau anffurfiol, fel y Clwb Cinio i fyfyrwyr cynradd, ac Eisteddfod y brifysgol."

Meddai Tami O’Neill, myfyriwr TAR Cynradd a enillodd y Goron yn Eisteddfod gyntaf PYPA: “Roedd dathlu diwylliant Cymru gyda fy nghyfoedion yn brofiad a wnaeth ddod â ni ynghyd."

Dywedodd yr arolygwyr fod partneriaeth gydweithredol gref rhwng y Brifysgol a rhwydwaith o 50 o ysgolion yn ne a gorllewin Cymru, gan nodi er bod y rhaglenni'n gymharol newydd, eu bod wedi'u sefydlu ar "ymddiriedaeth a pharch tuag at ei gilydd."

Nododd yr adroddiad: "Mae gweledigaeth glir, gytûn sy’n cael ei rhoi ar waith gan bob partner i ddatblygu athrawon dan hyfforddiant sy’n ymarferwyr myfyriol ac sydd wedi’u llywio gan ymchwil."

Mae'r pwyslais hwn ar ymchwil, a arweinir gan Ganolfan Ymchwil i Ymarfer yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, yn rhywbeth sy'n cael ei amlygu drwy gydol yr adroddiad ac mae'n cyd-fynd â blaenoriaethau addysgol Llywodraeth Cymru.

Meddai Estyn: "Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd cryf i athrawon dan hyfforddiant fyfyrio’n ddwfn ar sut mae eu harfer eu hunain yn elwa o’u hymgysylltiad â theori...trwy eu modiwlau academaidd, y diwrnodau Arfer a Theori a chyfleoedd niferus i gydweithio’n bwrpasol â’u cymheiriaid."

Meddai'r Athro Andy Townsend, Pennaeth yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod: “Mae ein hathrawon dan hyfforddiant, cydweithwyr o'r adran ehangach, partneriaid ysgol a'r plant oll yn rhan o'r hyn mae Estyn wedi'i gydnabod fel cymuned ymchwil gref.

"Un o'r prif gryfderau y mae arolygwyr wedi'u nodi yw natur gymhwysol ein hymchwil. Mae hyn yn golygu bod ein hathrawon dan hyfforddiant a’n hysgolion partner yn gallu gweld ei gwerth yn yr ystafell ddosbarth, boed hynny’n archwilio rôl deallusrwydd artiffisial, yn ymgysylltu â rhieni neu’n gwella lefelau ffitrwydd y plant. Mae chwilfrydedd yn rhan o'n DNA ar y cyd."

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Rydym wrth ein boddau bod Estyn wedi cydnabod ansawdd rhagorol yr addysgu a'r arferion sydd wedi'u gwreiddio yn ein rhaglenni PYPA. 

"Mae'r adroddiad gwych hwn yn adlewyrchu ymroddiad, brwdfrydedd ac arbenigedd arweinwyr y rhaglen a’n partneriaid. Mae hefyd yn dyst i ymroddiad ac angerdd ein hathrawon dan hyfforddiant, sy'n cynrychioli ysgogwyr newid y dyfodol mewn addysg."

Mae Estyn wedi gwahodd PYPA i ysgrifennu dwy astudiaeth achos fel enghreifftiau o arfer da, un i gefnogi lles myfyrwyr a'r llall ar bwysigrwydd integreiddio ymchwil ac ymholi drwy gydol ei rhaglenni.

Ar hyn o bryd, mae PYPA yn cynnig dwy raglen: TAR Uwchradd, a achredwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (EWC) yn 2020, a TAR Gynradd, a ddechreuodd yn 2022 ar ôl cael ei hachredu. 

Darllenwch adroddiad Estyn yn llawn.

Mwy o wybodaeth am Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori