Y ddau gampws o'r awyr

Unwaith eto mae Prifysgol Abertawe wedi'i henwi'n Brifysgol Orau Cymru, yn ôl The Guardian University Guide 2025.

Allan o 122 o sefydliadau yn y canllaw, cyrhaeddodd Abertawe safle 29 yn y DU yn gyffredinol.

Gwnaeth Prifysgol Abertawe hefyd ragori mewn safleoedd pwnc unigol, gan sicrhau safleoedd ymhlith y 10 gorau mewn naw maes:

  • Proffesiynau Iechyd - 1
  • Gwyddor Barafeddygol - 1
  • Gwyddor Chwaraeon - 5
  • Bydwreigiaeth - 5
  • Ieithoedd ac Ieithyddiaeth - 5
  • Peirianneg Fecanyddol - 7
  • Mathemateg - 7
  • Nyrsio Plant - 8
  • Anatomeg a Ffisioleg - 9

At hynny, roedd wyth pwnc arall ymhlith yr 20 gorau, ac 13 pwnc arall ymhlith y 30 gorau.

Mae'r Guardian University Guide yn helpu darpar fyfyrwyr a'u teuluoedd i ddewis ble i astudio, gan werthuso ffactorau megis ansawdd addysgu, boddhad myfyrwyr, maint dosbarthiadau a chanran y graddedigion sy'n cael swyddi lefel raddedig neu sy'n ymgymryd ag addysg bellach o fewn 15 mis o orffen eu gradd. 

Dywedodd yr Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymgysylltu Rhyngwladol: "Rydym yn falch iawn o gael ein henwi’n Brifysgol Orau Cymru a bod ymhlith y 30 o brifysgolion gorau yn y DU yn ôl The Guardian University Guide 2025. Mae'r safle hwn yn adlewyrchu angerdd, ymroddiad a doniau ein staff a'n myfyrwyr sy'n gweithio'n ddiflino i greu amgylchedd academaidd llawn ysbrydoliaeth. 

"Yr hyn sy'n gwneud y cyflawniad hwn hyd yn oed yn fwy arwyddocaol yw ein cryfder ar draws ystod o ddisgyblaethau, gan arddangos ein gallu i ddarparu rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil. Yn Abertawe, rydym yn ymrwymedig i wella profiad y myfyrwyr yn barhaus a sicrhau bod gan ein graddedigion y sgiliau i lwyddo mewn byd sy'n newid drwy'r amser."

Yn gynharach eleni, cafodd Prifysgol Abertawe ei safle uchaf erioed yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS 2025, gan ddringo i safle 298 yn fyd-eang a chael ei henwi ymhlith y 300 gorau am y tro cyntaf erioed.  Roedd Abertawe hefyd ymhlith y 100 o brifysgolion gorau yn Ewrop yn y safleoedd diweddaraf yn Nhablau  Prifysgolion y Byd QS: Ewrop 2025.

Rhannu'r stori