Ffotograff o Paul Wooderson.

Mae un o beirianwyr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes seiberddiogelwch modurol wedi ymuno ag Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe fel rhan o Gynllun Athrawon Gwadd yr Academi Frenhinol Peirianneg ar gyfer 2024/25.

Am y tair blynedd nesaf, bydd Paul Wooderson, Prif Beiriannydd Seiberddiogelwch yn HORIBA MIRA, yn ymgymryd â rôl Athro Gwadd mewn Seiberddiogelwch a Gwydnwch Modurol.

Mae'r Cynllun Athrawon Gwadd yn fenter rhwng byd diwydiant a'r sector academaidd sy'n galluogi peirianwyr diwydiannol profiadol ac entrepreneuriaid i helpu i sicrhau bod cwricwla yn adlewyrchu galwadau diwydiant modern yn gywir, gan gynyddu cyflogadwyedd graddedigion.

Bydd Paul yn helpu i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiberddiogelwch sy'n astudio yn y Brifysgol, gan gyfoethogi a dylanwadu ar ei rhaglenni cyfrifiadureg, wrth gryfhau partneriaethau allanol â diwydiant Prifysgol Abertawe.

Mae Paul yn beiriannydd siartredig a chanddo dros 20 mlynedd o brofiad mewn diogelwch systemau corfforedig a seiber-ffisegol yn y sectorau modurol a, chyn hynny, ym maes cardiau clyfar.

Ac yntau wedi arwain cyflwyniad a datblygiad technegol atebion seiberddiogelwch, peirianneg, profi a sicrwydd HORIBA MIRA, mae Paul yn aelod arbenigol o'r gweithgorau rhyngwladol sy'n datblygu safonau a rheoliadau seiberddiogelwch modurol.

Y tu hwnt i ymarfer ymchwil ac ymgynghori sylweddol, mae wedi darparu hyfforddiant ar seiberddiogelwch modurol, gan ymdrin yn helaeth â maes sgiliau allweddol ar gyfer y diwydiant modurol.

Mae wedi chwarae rôl allweddol mewn nifer o brosiectau cydweithredol a ariannwyd gan lywodraeth y DU, ac wedi cyhoeddi sawl darn o waith am beirianneg seiberddiogelwch. Mae Paul hefyd yn aelod o Goleg Arbenigwyr Adran Drafnidiaeth y DU.

Wrth sôn am ei rôl newydd ym Mhrifysgol Abertawe, meddai Paul: "Gan fod seiberddiogelwch bellach yn rhan bwysig o'r broses beirianneg, mae angen i beirianwyr y dyfodol feddu ar yr wybodaeth a'r sgiliau  perthnasol. Fel Athro Gwadd yr Academi Frenhinol Peirianneg, rwy'n edrych ymlaen at helpu i ddiwallu'r angen hwn drwy ysbrydoli myfyrwyr a dylanwadu ar gynnwys cyrsiau'r dyfodol drwy gynnig craffter o ymarfer y diwydiant seiberddiogelwch modurol."

Yr Athro Siraj Shaikh fydd yr Hyrwyddwr Academaidd ar gyfer yr Athrawiaeth Wadd hon, gan groesawu Paul i'r Adran sydd wedi cydweithredu ar fentrau amrywiol dros y degawd diwethaf.

Meddai'r Athro Shaikh, sy'n arwain y Grŵp Systemau Diogelwch yn yr Adran Gyfrifiadureg: "Mae'n bleser mawr gennym groesawu Paul i Brifysgol Abertawe. Bydd ei gyfraniad at feysydd addysgu penodol yn cyfoethogi profiad y myfyrwyr a'u dealltwriaeth o broblemau seiberddiogelwch mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys y sector modurol, electroneg, systemau meddalwedd corfforedig a risg a sicrwydd diogelwch.”

Dysgwch fwy am Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori