Adar

Gall un symudiad parasit o un rywogaeth letyol i'r llall sbarduno achosion o glefydau heintus trychinebus. Er gwaethaf hyn, mae gwyddonwyr yn parhau i drafod rôl amrywiaeth rhywogaethau mewn amgylcheddau naturiol yn ymlediad y parasitiaid hyn.

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y Journal of Biogeography yn datgelu bod nifer yr achosion o barasitiaid gwaed sy'n debyg i falaria mewn adar yn cynyddu yn gymesur â nifer y rhywogaethau sy'n bresennol mewn cymunedau adar lleol. Mae'r canfyddiadau'n dangos bod parasitiaid yn ffynnu pan allant fanteisio ar ystod eang o wahanol rywogaethau o adar.

Yn ddiddorol, mae'r astudiaeth hefyd yn dangos bod parasitiaid sy'n debyg i falaria yn ymledu'n gyflymach pan fyddant yn arbenigo mewn is-setiau o rywogaethau adar sy'n perthyn yn agos neu'n rhannu nodweddion gweithredol tebyg.

Meddai'r ecolegydd Dr Konstans Wells o Brifysgol Abertawe, a arweiniodd yr astudiaeth ochr yn ochr â thîm rhyngwladol o 11 cyd-awdur o'r Unol Daleithiau, Kenya ac Awstralia: "Mae'r astudiaeth hon yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar sut y gall mwy o gyfleoedd i barasitiaid heintio amrywiaeth o rywogaethau lletyol hwyluso eu hymlediad. Ar yr un pryd, gall parasitiaid hefyd elwa o arbenigo mewn rhywogaethau lletyol penodol i wella eu heffeithlonrwydd o ran trosglwyddo.

“Yng nghyd-destun newid byd-eang, ceir cynnydd mewn clefydau heintus ymhlith anifeiliaid, planhigion a phobl. Mae'r astudiaeth hon yn tynnu sylw at rôl mudo adar a chyflwyno rhywogaethau goresgynnol wrth gynyddu ymlediad parasitiaid, hyd yn oed wrth i newidiadau byd-eang gyfrannu at ddirywiad dramatig mewn poblogaethau adar gwyllt ledled y byd."

Casglodd y tîm ymchwil ddata ar dros 17,000 o adar gwyllt a ddaliwyd o wahanol ranbarthau ledled y byd. Ar gyfer pob aderyn unigol, roeddent yn defnyddio dadansoddiad moleciwlaidd i nodi rhywogaeth a llinach benodol unrhyw barasitiaid gwaed a oedd yn bresennol. Rhoddodd y dadansoddiad helaeth hwn gipolwg newydd ar amlder pob llinach parasit unigryw a geir mewn adar, gan wella'r canfyddiadau a gyflwynwyd yn y papur ymchwil.

Er i'r ymchwilwyr ganfod tystiolaeth gref yn cefnogi effaith gadarnhaol amrywiaeth adar ar risg heintiau, gwnaethant bwysleisio hefyd fod gwahanol fathau o barasitiaid gwaed yn ymddwyn yn wahanol gan ddibynnu ar yr hinsawdd ac argaeledd rhywogaethau lletyol. Mae'r cymhlethdod hwn yn dangos nad oes rheol syml sy'n rheoli ymlediad byd-eang y clefydau hyn.

Daeth Dr Wells i'r casgliad: "Mae angen mwy o ymchwil i ddeall ymlediad parasitiaid gwaed mewn adar. Fodd bynnag, gobeithiwn y bydd ein hastudiaeth yn cyfrannu at y dystiolaeth sy'n ategu polisïau rhyngwladol ar fioddiogelwch a diogelu amgylcheddau naturiol. Mae'r camau gweithredu hyn yn hanfodol ar gyfer diogelu bioamrywiaeth wrth hefyd fynd i'r afael ag effeithiau negyddol ymlediad clefydau heintus yn ein byd sy'n gynyddol fyd-eang."

Cyhoeddir yr astudiaeth 'Parasite Abundance-Occupation Relationships Across Biogeographic Regions: Joint Effects of Niche Breadth, Host Availability and Climate' yn y Journal of Biogeography ac fe'i hariannwyd gan y Gymdeithas Frenhinol a Chyngor Ymchwil Awstralia.

Rhannu'r stori