Gwyddonydd mewn labordy

Mae BioHYB Cynhyrchion Naturiol Prifysgol Abertawe wedi sicrhau cyllid gwerth £4.5m fel rhan o fenter Cyflymu Economïau Gwyrdd UKRI.

Nod y BioHYB Cynhyrchion Naturiol yw arwain arloesi mewn defnydd o gynnyrch naturiol yn y diwydiannau amaethyddol, fferyllol a gweithgynhyrchu i ddod yn iachach, yn fwy gwyrdd ac yn fwy cynaliadwy.

Mae'r cyllid yn golygu mai’r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yw’r ganolfan gyntaf o'i bath yn y DU, sy'n rhoi sbotolau ar Brifysgol Abertawe a rhanbarth Bae Abertawe fel arweinwyr ym maes datblygu diwydiannau mwy gwyrdd ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.

Mae cynnyrch naturiol, megis gwrthfiotigau ac ethanol yn gyfansoddion a grëir gan organeddau byw. Maen nhw'n cynnig opsiynau mwy gwyrdd a chynaliadwy o'u cymharu â chyfansoddion synthetig, gyda llawer heb eu darganfod na'u datblygu'n fasnachol eto. Mae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn adeiladu ar lwyddiannau blaenorol, yn cynnwys prosiect a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Du a wnaeth gryfhau cydweithrediadau rhwng y byd academaidd a byd diwydiant.

Bydd y cyllid newydd hwn gan UKRI yn meithrin cyd-fuddsoddi gan ddiwydiannau byd-eang a llywodraethau ymhellach, gan yn arwain at fusnesau newydd a chreu swyddi yn yr ardal. Mae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn cynrychioli cydweithrediad arloesol rhwng y byd academaidd, byd diwydiant, a phartneriaid dinesig, yn cynnwys Prifysgol Abertawe, y Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddoniaeth Ryngwladol (CABI), a Chymdeithas Gwyddor Môr yr Alban (SAMS).

Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Dan Eastwood: "Mae'r cyllid hwn yn dyst i'n rhagoriaeth academaidd a’n buddsoddiad mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf i gefnogi arloesi mewn datrysiadau sy'n seiliedig ar natur. Mae'n amlygu ein hymrwymiad i ysgogi ymchwil effeithiol er budd cymdeithas a'r amgylchedd."

Ychwanegodd cyd-arweinydd y prosiect, Dr Farooq Shah: "Bydd y ganolfan yn meithrin ecosystem ar gyfer cyd-greu a chyflymu'r Economi Werdd. Mae'r cyllid hwn yn cyflwyno cyfleoedd anferth i fusnesau rwydweithio, ymgymryd ag ymchwil a datblygiad cydweithredol, ac uchafu eu hallbynnau. Trwy ddarparu platfform i’r byd academaidd a byd diwydiant weithio law yn llaw, bydd y Ganolfan BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn gatalydd ar gyfer arloesi a thwf, gan ysgogi atebion i ddatrys heriau amgylcheddol byd-eang."

Amlygodd Cyfarwyddwr y Ganolfan, Yr Athro Tariq Butt, arwyddocâd derbyn y cyllid drwy nodi: "Mae cydnabyddiaeth UKRI o’r BioHYB Cynhyrchion Naturiol fel Canolfan yr Economi Werdd yn garreg filltir a fydd yn atgyfnerthu ac yn datblygu ein cydweithrediad rhwng y byd academaidd a byd diwydiant ymhellach. Mae'r cyllid yn dilysu ein hymdrechion ond hefyd yn gwella ein capasiti i ysgogi newid ystyrlon. Trwy feithrin partneriaethau agos rhwng y byd academaidd a byd diwydiant, gallwn gyflymu datblygiad a gweithrediad datrysiadau sy'n seiliedig ar natur sy'n hanfodol ar gyfer datblygu cynaliadwy."

Rhannu'r stori