Tri ar ddeg o bobl yn sefyll dan do mewn llinell yn edrych ar y camera

Bydd Prifysgol Abertawe'n chwarae rhan allweddol mewn partneriaeth newydd ym maes gofal iechyd a gwyddor data rhwng y DU a Singapore.

Mae SeRP (Platfform e-ymchwil Diogel) a Banc Data SAIL, sy'n rhan o'r adran Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn rhan ganolog o gydweithrediad arloesol rhwng Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK) a Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol (NRF) Singapore. 

Mae Memorandwm o Ddealltwriaeth newydd gael ei lofnodi i ffurfioli'r bartneriaeth hon, gan gryfhau cysylltiadau rhwng y DU a Singapore yn ogystal ag arwain y ffordd ar gyfer ymchwil data iechyd a fydd yn cael effaith fyd-eang.

 Bydd y bartneriaeth yn archwilio ffyrdd arloesol o gasglu data ar gyfer gwella canlyniadau cleifion drwy ddefnyddio data iechyd diogel a dibynadwy. 

Meddai'r Athro Simon Thompson, Cyd-gyfarwyddwr SeRP a Banc Data SAIL: "Mae'r cydweithrediad hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddefnyddio data iechyd a thechnoleg fewnol uwch i gael effaith yn y byd go iawn. 

"Drwy gydweithio â phartneriaid rhyngwladol, gallwn gyflymu'r gwaith o ddatblygu atebion arloesol sy'n gwella canlyniadau gofal iechyd, yn y DU ac yn fyd-eang. Mae'r bartneriaeth hon rhwng y DU a Singapore yn enghraifft o bŵer gwybodaeth ac arbenigedd a rennir wrth fynd i'r afael â heriau iechyd pwysig. 

"Drwy rannu arferion gorau mewn llywodraethu data a meithrin cydweithredu ar draws ffiniau, gallwn sicrhau bod ein hymchwil yn cyflawni datblygiadau gwyddonol a hefyd yn cynnal y safonau uchaf o ran diogelwch data, cynhwysiant ac ymddiriedaeth y cyhoedd. Rydym yn llawn cyffro i barhau i gyfrannu at lwyddiant y bartneriaeth hon ac i helpu i lunio dyfodol gofal iechyd." 

Meddai'r Athro David Ford, Athro Gwybodeg, Cyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Chyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL: "Mae'r bartneriaeth hon yn enghraifft o sut y gallwn ni, drwy arbenigedd a rennir a chydweithio, fanteisio ar rym gwyddor data i ysgogi arloesedd gofal iechyd sy'n cael ei lywio gan ddata a gwella canlyniadau iechyd i bawb. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn droi data yn fewnwelediadau ystyrlon sy'n achub bywydau, sydd o fudd i boblogaethau'n fyd-eang."

 

Bydd prosiectau allweddol dan arweiniad Abertawe, gan gynnwys defnyddio amgylcheddau ymchwil dibynadwy a dadansoddeg data trawsffiniol, yn rhan annatod o'r bartneriaeth. Bydd rôl Abertawe yn gwella diogelwch data, cynhwysiant ac ymddiriedaeth y cyhoedd, gan sicrhau bod data iechyd yn cael eu ddefnyddio'n foesegol ac yn effeithlon i fynd i'r afael â heriau iechyd hollbwysig. 

Mae'r cydweithio yn bartneriaeth rhwng sawl sefydliad ochr yn ochr ag Abertawe - Prifysgol Nottingham, yr Asiantaeth ar gyfer Technoleg Gwyddoniaeth ac Ymchwil (A*STAR) a Swyddfa TRUST (Trusted Research and Real-world Utilisation and Sharing Tech), a Gweinyddiaeth Trawsnewid Iechyd Singapore (MOHT). 

Bydd yn canolbwyntio ar nifer o feysydd blaenoriaeth ar gyfer cydweithio, gan gynnwys:

  • Cyflymu'r defnydd dibynadwy o ddata: Drwy ddatblygu a rhannu arferion gorau mewn llywodraethu gwybodaeth, amgylcheddau ymchwil dibynadwy, ac ymgysylltu â'r cyhoedd, nod y bartneriaeth yw hyrwyddo defnydd diogel a dibynadwy o ddata iechyd i feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd;
  • Ymchwil ar raddfa ryngwladol: Bydd mentrau ymchwil trawsffiniol yn cael eu blaenoriaethu, gan ddefnyddio safonau data agored a dadansoddiad cyfunedig i fynd i'r afael â heriau iechyd byd-eang, gan ddangos potensial cydweithrediadau gwyddoniaeth data ar raddfa fawr rhwng gwledydd;
  • Llunio dyfodol ymchwil data iechyd: Bydd y bartneriaeth yn ysgogi arloesedd mewn ymchwil data iechyd drwy gyhoeddiadau ar y cyd, cyflwyniadau mewn cynadleddau a mentrau addysgol, gan annog arweinyddiaeth meddwl, hyfforddiant a chyfnewid gwybodaeth; a
  • Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant: Bydd yn canolbwyntio ar feithrin diwylliannau ymchwil cadarnhaol a sicrhau bod allbynnau ymchwil yn helpu i adeiladu ecosystem iechyd fyd-eang fwy cynhwysol.

Llofnodwyd y memorandwm o ddealltwriaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol dros Ymchwil a Datblygu Cenedlaethol yr Athro Tan Chorh Chuan, a Chyfarwyddwr Ymchwil Data Iechyd y DU, yr Athro Andrew Morris, yng nghwmni Dirprwy Brif Weinidog Singapore a Chadeirydd y Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol Heng Swee Keat. 

Meddai'r Athro Morris: "Mae'r bartneriaeth hon yn cynrychioli ein hymroddiad ar y cyd i ddatgloi potensial helaeth data iechyd. Mae'n sicrhau y bydd ein datblygiadau ar y cyd yn sicrhau manteision diriaethol a byd-eang, gan osod safonau newydd ym maes ymchwil feddygol ac arloesi." 

Meddai John Lim, Prif Swyddog Gweithredol  Sefydliad Ymchwil Cenedlaethol, Singapore: "Mae potensial aruthrol i'r defnydd diogel a chyfrifol o ddata cleifion drawsnewid systemau gofal iechyd a galluogi poblogaeth iachach drwy ganfod a thrin clefydau a salwch cronig yn gynnar. Bydd y cydweithrediad hwn yn helpu i ddatblygu'r defnydd o wyddor data i wella gofal iechyd ar raddfa, gan ddod â manteision i Singapore, y DU a thu hwnt." 

Hwyluswyd y bartneriaeth gan ymdrechion cydweithredol y tîm Gwyddor Data Poblogaeth dan arweinyddiaeth yr Athro David Ford a chyda cyfraniadau sylweddol gan yr Athro Thompson, Chris Orton, Dr Stephanie Lee, yr Athro Adam Chee, yr Athro Sinead Brophy, yr Athro Ashley Akbari, a Chris Roberts.

 

Rhannu'r stori