Ystafell y tu mewn i oriel gydag arddangosion ar wal ac mewn casys

Bydd ymwelwyr ag amgueddfa boblogaidd yn Abertawe yn y dyfodol yn gallu profi synau ac arogleuon yr hen Aifft, diolch i gymorth gwerth £300,000 gan Lywodraeth Cymru.

Bydd Canolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe yn ailwampio ac yn gwella ei horiel, y Tŷ Marwolaeth, ar ôl sicrhau cymorth gan y Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid Diwylliannol.

Y Ganolfan arobryn ar Gampws Singleton yw'r unig amgueddfa wedi'i hymroddi i hynafiethau'r Hen Aifft yng Nghymru ac mae'n denu tua 20,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae'n gartref i nifer o gasgliadau o bwys rhyngwladol ac yn fwyaf diweddar cymerodd feddiant o arch wedi'i hadfer sy'n dyddio'n ôl dros 2,000 o flynyddoedd.

Nid yw oriel y Tŷ Marwolaeth wedi cael ei hailddatblygu ers i'r amgueddfa agor dros 25 mlynedd yn ôl. Dywed staff y bydd y cyllid yn eu galluogi i wella'r Ganolfan Eifftaidd i fodloni safonau presennol y sector, gwella mynediad at y casgliad, a denu cynulleidfaoedd newydd ac amrywiol â chymorth gwirfoddolwyr, ysgolion a sefydliadau cymunedol.

Bydd y gwelliannau yn golygu:

  • Creu mwy o fannau ar gyfer profiadau rhyngweithiol gan gynnwys tirweddau arogl a seinweddau;
  • Gosod drysau awtomatig i'r orielau i'w gwneud yn fwy hygyrch i gadeiriau olwyn;
  • Cistiau gwell newydd i arddangos mwy o wrthrychau ac o dan amgylchiadau amgylcheddol/goleuadau gwell; a
  • Phaneli dehongli a labeli newydd i adlewyrchu ymchwil gyfredol.

Meddai Dr Ken Griffin, y curadur: "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cael y grant hwn. Mae ailddatblygu oriel y Tŷ Marwolaeth wedi bod yn uchelgais hirdymor y Ganolfan Eifftaidd a bydd y cyllid hwn yn ein helpu i gyflawni hynny.  

"Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth, ac rydym yn llawn cyffro i rannu ein cynlluniau ailddatblygu wrth i'r gwaith fynd rhagddo."

Roedd y prosiect yn y Ganolfan Eifftaidd yn un o chwe chynllun diwylliannol i gael cyllid yn 2024/25 o'r Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid Diwylliannol sy'n helpu sefydliadau i gadw casgliadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, yn ogystal â gwella hygyrchedd a chynaliadwyedd.

Dywedodd Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: "Mae'n newyddion gwych y bydd oriel y Tŷ Marwolaeth ar ei gwedd newydd yn hygyrch i lawer mwy o bobl am flynyddoedd i ddod. Mae'r Ganolfan Eifftaidd yn adnodd gwych ar gyfer dysgu ac ymgysylltu, ac rwy'n falch iawn bod y cyllid wedi galluogi Prifysgol Abertawe i ailddatblygu'r oriel hon am y tro cyntaf, gan wneud mwy o'i chasgliadau'n hygyrch."

Bydd y gwaith yn yr oriel yn cael ei gyflawni tua diwedd 2025 a meddai Dr Griffin y bydd y Ganolfan Eifftaidd yn parhau i edrych tuag at y dyfodol. Ar hyn o bryd mae'n gwneud cais am grantiau ychwanegol i sicrhau tua £800,000 tuag at gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu cyfleusterau'r amgueddfa.

 

Rhannu'r stori