A yw'n iawn i blant bach fod yn defnyddio technoleg? A all eich plant helpu i ddylunio'r gymdogaeth berffaith? Sut mae codio cyfrifiadurol yn gweithio? Mae gan y cyhoedd yn Abertawe ac ar draws y rhanbarth gyfle i ddysgu rhagor am yr holl gwestiynau hyn a mwy, drwy weithgareddau ar gyfer pob oedran, mewn cyfres o ddigwyddiadau am ddim rhwng 27 Hydref ac 8 Tachwedd.
Mae'r digwyddiadau'n rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol, sef dathliad blynyddol o ymchwil a gwybodaeth am bobl a chymdeithas.
Mae'n gyfle i bawb archwilio'r gwyddorau cymdeithasol, o iechyd, maeth a lles i seicoleg, chwaraeon ac ymarfer corff, troseddu, cydraddoldeb, technoleg, addysg a hunaniaeth, drwy ddigwyddiadau a gynhelir gan ymchwilwyr o brifysgolion y DU.
Thema’r ŵyl eleni yw 'Ein Bywydau Digidol', gydag amryw o ddigwyddiadau hefyd yn cynnwys pynciau gwyddorau cymdeithasol eraill.
Cynhelir gweithgareddau Prifysgol Abertawe rhwng 27 Hydref, yn ystod hanner tymor mis Hydref, ac 8 Tachwedd.
Byddant yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau gan gynnwys Theatr y Grand Abertawe, Oriel Science (Stryd y Castell), Canolfan Treftadaeth Gŵyr, a Noah's Yard (Uplands). Bydd gweithgareddau galw heibio drwy gydol yr wythnos, yn ogystal â gweithdai gyda lleoedd y gallwch eu harchebu.
Mae pob digwyddiad am ddim ac mae croeso i bawb. Mae'r rhestr o ddigwyddiadau'n cynnwys cyngor ar gyfyngiadau oedran ar gyfer rhai digwyddiadau.Gellir archebu tocynnau i'r digwyddiadau drwy ddolenni'r gweithgareddau isod.
Mwy o wybodaeth
Caiff yr ŵyl ei harwain a'i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n cefnogi ymchwil a hyfforddiant ym mhynciau'r gwyddorau cymdeithasol.
Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:
Toddlers, Tech, Talk (gweithdy)
Dydd Sadwrn 2 Tachwedd, Oriel Science, Stryd y Castell, 10am-2pm
Yn y gweithdy ymarferol, rhyngweithiol hwn, bydd rhieni a gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar yn cael yr wybodaeth a'r cymorth diweddaraf. Bydd hefyd yn darparu awgrymiadau ac argymhellion defnyddiol i rieni ac ymarferwyr ar y defnydd o dechnoleg ymhlith phlant.
CTRL + ALT + Critique: Computers, Society and South Wales
Dydd Mawrth 29 Hydref, CoSMOS Campws Singleton, 10am–2pm
Gan weithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Technocamps, bydd y digwyddiad ymarferol hwn yn mynd â chi ar daith drwy orffennol, presennol a dyfodol cyfrifiadura. Byddwch yn archwilio effeithiau cudd technoleg ar ein bywydau pob dydd, yn dysgu codio, a hyd yn oed yn dylunio eich atebion digidol eich hun i heriau cymunedol go iawn. Ymunwch â ni am y cyfle i drawsnewid sut rydych chi'n gweld y byd digidol o'ch cwmpas.
Design Your Perfect Neighbourhood
Dydd Mercher 30 Hydref, Oriel Science, Stryd y Castell, 11am-1pm
Gweithgareddau llawn ysbrydoliaeth a fydd yn rhoi cyfle i rieni a'u plant gyfrannu at ddylunio eu 'cymdogaeth ddelfrydol' yn ysbryd cydweithredu cymunedol a dysgu sut gallwn fynd i'r afael â heriau mawr fel newid yn yr hinsawdd ac iechyd drwy gydweithio.