Dr Aimee Grant yn gwenu wrth iddi afael yn ei gwobr wydr oddi wrth Autism CRC. Mae hi'n eistedd yn ei chadair olwyn.

Dr Aimee Grant 

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi'i chydnabod am ei harfer ymchwil cynhwysol sy'n mynd i’r afael â’r bwlch mawr o ran deall profiadau iechyd atgenhedlu pobl awtistig, sy'n faes gofal iechyd lle nad oes digon o ymchwil na chefnogaeth.

Mae Dr Aimee Grant, uwch-ymchwilydd iechyd y cyhoedd yn y Brifysgol, wedi derbyn y wobr ymchwil gan Autism CRC, ffynhonnell annibynnol Awstralia ar gyfer arferion gorau mewn perthynas ag awtistiaeth, am ei phrosiect Autism from Menstruation to Menopause Cafodd Dr Grant ei hun ddiagnosis o awtistiaeth yn 2019.

Nod y prosiect wyth mlynedd o hyd yw cael gwell dealltwriaeth o brofiadau iechyd atgenhedlu pobl awtistig drwy gydol eu bywydau. Bydd y prosiect yn cynnal hyd at 1,000 cyfweliad dan gydarweinyddiaeth cyngor cymuned o 11 o bobl awtistig sy'n chwarae rhan hanfodol wrth lywio'r broses ymchwil a sicrhau ei bod yn diwallu anghenion y gymuned.

Bydd y prosiect yn archwilio'r data i gael darlun clir o anghenion iechyd atgenhedlu pobl awtistig drwy ddeall y materion gynaecolegol, obstetreg, a chynllunio teulu sy'n effeithio arnynt. Gyda'r cyngor cymuned yn cymryd rhan weithredol, bydd pecyn cymorth gwella ansawdd ar gyfer pobl awtistig yn cael ei greu â'r nod o wella eu hiechyd atgenhedlu a'u gofal iechyd.

Meddai Dr Grant:

"Rwyf wrth fy modd bod ein hymdrechion wedi'u cydnabod gan Autism CRC am enghreifftio arferion gorau mewn ymchwil gynhwysol. Mae'r wobr yn cydnabod ymdrechion pawb sy'n rhan o'r astudiaeth - y Cyngor Cymuned, y tîm ymchwil a'r ymgynghorwyr sydd wedi chwarae rhan hanfodol. Rwy'n gobeithio bydd y prosiect hwn yn sefydlu gwell dealltwriaeth o anghenion iechyd atgenhedlu pobl awtistig a sut gall yr anghenion hyn gael eu diwallu’n well. Mae gan yr astudiaeth ethos o "dim byd amdanom ni, hebom ni", a hoffwn weld hyn yn yr holl ymchwil i awtistiaeth."

Meddai Dr Olivia Gatfield, Rheolwr Ymchwil ac Ymgysylltu â'r Gymuned gydag Autism CRC:

"Mae'r prosiect hwn sy'n cael effaith fawr yn mynd i’r afael â diffyg dealltwriaeth o brofiadau iechyd atgenhedlu pobl awtistig, yn benodol y misglwyf a'r menopos. Mae'n ymgorffori cyd-gynhyrchu pur ond hefyd yn manteisio ar gyfleoedd i sefydlu isadeiledd ar gyfer prosiectau cyd-gynhyrchu yn y dyfodol i gefnogi model parhaus a chynaliadwy."

Cafodd yr ymchwil ei chefnogi gan gyllid gan Wellcome.

Rhannu'r stori