O'r chwith: Dr Daniel Rees a'r Athro Nick Rich (Prifysgol Abertawe), Chelsea Davies a Andrew Sandrook (CPR GlobalTech), a Dr Clive Thomas (Prifysgol Abertawe).

O'r chwith:  Dr Daniel Rees a'r Athro Nick Rich (Prifysgol Abertawe), Chelsea Davies a Andrew Sandrook (CPR GlobalTech), a Dr Clive Thomas (Prifysgol Abertawe). 

Mae cydweithrediad ag arbenigwyr o Brifysgol Abertawe wedi helpu cwmni technoleg gofal iechyd lleol i symud gam ymhellach at eu nod o drawsnewid gofal cleifion, drwy wella eu hymchwil a'u gallu i arloesi, a sicrhau dyfarniad £50,000 pellach i wella technolegau presennol.

Mae CPR Global Tech Ltd, cwmni a leolir yn Abertawe, yn cynhyrchu dyfeisiau gwisgadwy sy'n galluogi staff y GIG a gofal cymdeithasol i fonitro cleifion o bell.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf maen nhw wedi cydweithio â thîm o'r Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Sefydlwyd y cyswllt drwy Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP), sef ffordd o bontio'r bwlch rhwng ymchwil academaidd ac arloesi’r byd go iawn.

Roedd CPR yn stori o lwyddiant lleol eisoes, ar ôl iddynt ennill Gwobr o fri'r Frenhines am Fentergarwch ar ddau achlysur. 

Mae eu dyfeisiau gwisgadwy yn helpu i ddiogelu pobl sy'n agored i niwed a thawelu meddyliau eu gofalwyr a'u perthnasau. Maen nhw'n helpu i gadw pobl allan o'r ysbyty a gofal preswyl, sy'n rhoi'r urddas o fywyd annibynnol gartref iddynt. Mae’r cwmni hefyd yn creu rhwystrau galwadau i gadw sgamwyr i ffwrdd.

Maen nhw'n gweithio'n agos gyda darparwyr gofal iechyd a chartrefi gofal.  Mae eu cynnyrch hefyd yn helpu'r heddlu a sefydliadau cymorth i chwilio am bobl sydd ar goll, yn ogystal â gweithwyr unigol a all roi gwybod am eu lleoliad a galw am gymorth yn ddisylw os oes angen.

Yn debyg i bob sefydliad llwyddiannus, mae CPR yn chwilio am ffyrdd o wella bob amser, a dyma beth yw nod y cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe.

Dan arweiniad Dr Daniel Rees a'r Athro Nick Rich, cyfrannodd tîm Abertawe arbenigedd helaeth mewn rheoli, arweinyddiaeth ac arloesedd. Gan weithio'n agos gyda'r cwmni, roedd modd iddynt asesu syniadau CPR o safbwynt allanol.  Roedd modd iddynt hefyd gynnig gwybodaeth am isadeiledd technolegol newidiol - sy'n hollbwysig ar gyfer eu cynnyrch - yn ogystal â marchnadoedd presennol a'r dyfodol y gallent eu harchwilio, megis y trydydd sector ac awdurdodau lleol. Mae Dr Clive Thomas wedi chwarae rôl allweddol wrth drosglwyddo gwybodaeth rhwng Prifysgol Abertawe a’r partner diwydiant.

Ar ben hyn, cynghorodd tîm Abertawe ar agweddau diwylliannol sy’n hollbwysig ar gyfer llwyddiant cwmni, megis arddulliau arweinyddiaeth a strwythur mewnol y sefydliad.

Mae canlyniadau llwyddiannus y cydweithrediad yn cynnwys:

  • £50,000 wedi'i sicrhau gan Lywodraeth y DU i gydweithio â'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol, sy'n datgloi potensial dadansoddeg data ar gyfer Larwm Personol Guardian III CPR.
  • Cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwerthusiad aml-safle o'r un cynnyrch gyda sefydliadau'r GIG ac awdurdodau lleol yng Nghymru.
  • Gwelliannau i strategaethau marchnata ac ymchwil a datblygu CPR
  • Proffil ar gyfer y cwmni a'r cydweithrediad drwy gyflwyniadau mewn cynadleddau a chyfarfodydd yn y sector
  • Cyflogaeth ar gyfer pedwar aelod o staff a thri intern, gan wella eu profiad a chryfhau rhwydweithiau lleol
  • Adnoddau addysgu, papurau gwyn ac astudiaethau achos y gellir eu defnyddio i wella dysgu academaidd a busnes.

Meddai Dr Daniel Rees o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe:

"Ymgysylltais yn gyntaf â CPR Global Tech yn ystod fy amser fel Technolegydd arloesi gan gefnogi gweithgareddau ymchwil ac arloesi rhwng yr Ysgol Reolaeth a'r Ysgol Feddygaeth.

Yn dilyn fy mhrosiect cyntaf gyda nhw, roeddwn i'n gwybod ein bod wedi dod ar draws cyfle gwych i fyd diwydiant a'r byd academaidd gydweithredu ar ymchwil ac arloesi.

Mae'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth hon yn esiampl wych o sut gallwn bontio'r bwlch rhwng ymchwil ac arloesi’r byd go iawn. Drwy weithio'n agos gyda CPR Global Tech, rydym yn archwilio datrysiadau diriaethol a all weddnewid y ffordd y caiff gofal iechyd ei ddarparu drwy dechnoleg. Mae llwyddiant y prosiect hwn yn dyst i bŵer cydweithio ar draws sectorau."

Meddai Chelsea Davies, Prif Swyddog Gweithredu CPR Global Tech Ltd:

"Mae cydweithio ag Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan a Phrifysgol Abertawe wedi rhoi gwybodaeth amhrisiadwy am y ffordd y gall technolegau gwisgadwy addasu i ddiwallu anghenion newidiol gofal iechyd. Mae’r bartneriaeth hon wedi gwella ein strategaethau ymchwil a datblygu a marchnata yn sylweddol, gan ddod â ni'n agosach at drawsnewid gofal cleifion."

Rhannu'r stori