Mae ffilm yn amlygu'r anawsterau a wynebir gan ffoadur Affricanaidd yn Sbaen, a gafodd ei hysbrydoli gan straeon go iawn ffoaduriaid yn Abertawe, wedi cael ei darlledu yn Theatr y Grand, Abertawe, i gynulleidfa a oedd yn cynnwys rhai o'r bobl y defnyddiwyd eu straeon.
Mae 'Dystopia' yn ffilm gan y cyfarwyddwr o Sbaen, Samuel Sebastian, wedi’i chynhyrchu ar y cyd â'r Athro Sergei Shubin o Brifysgol Abertawe, pennaeth y Ganolfan Ymchwil Polisi Ymfudo (CMPR).
Mae'r ffilm eisoes wedi cael ei dangos yn yr Eidal, Sbaen a Bwlgaria, gan ddenu cyhoeddusrwydd yn y gwledydd hynny, er bod gan y ffilm ddimensiwn Cymreig cryf, gyda'r gerddoriaeth wedi’i chynhyrchu gan gyfansoddwr o Gymru, isdeitlau yn y Gymraeg a rhan o'i hôl-olygu wedi'i gwneud gan Telesgop, cwmni o Gymru.
Dyma'r tro cyntaf i'r ffilm gael ei darlledu yng Nghymru. Roedd y digwyddiad, a oedd yn rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol, wedi'i drefnu ar y cyd gan Kristina Krasnova, gyda chymorth Harrison Rees a phobl sy'n dod o gefndiroedd ffoaduriaid. Ar ôl i'r ffilm gael ei dangos, cafwyd trafodaeth â'r cyfarwyddwr, Samuel Sebastian.
Mae 'Dystopia' yn adrodd hanes dynes Affricanaidd sy'n ffoadur yn ninas Valencia yn Sbaen tra bod y ddinas yn dathlu Gŵyl Fallas. Pabell blastig dan bont yw ei chartref, ac mae'r ffilm yn cofnodi ei bywyd pob dydd, y peryglon y mae hi'n eu hwynebu a'r ffrindiau y mae hi'n eu gwneud, er enghraifft gyda ffoadur arall o America Ladin.
Er bod y ffilm wedi ei lleoli'n Sbaen, mae'r stori'n seiliedig ar gyfweliadau a darluniadau a gynhyrchwyd gan rai ceiswyr lloches yn Abertawe.
Un o'r unigolion hynny yw Carlos, ceisiwr lloches o Venezuela sydd bellach yn byw yn Abertawe. Mae ei fywyd yn llawn dioddefaint emosiynol ac ofn alltudiaeth, ac mae'n atseinio profiadau'r prif gymeriad yn 'Dystopia'.
Mae Amina, a lwyddodd i ddianc o Iran yn ofni erlyniad, yn disgrifio'r dryswch a deimlodd yn amgylchedd anghyfarwydd Cymru.
Mae'r ffilm yn adlewyrchu'r themâu hyn, yn ogystal â themâu eraill sy'n dod i'r wyneb yn straeon yr ymfudwyr, megis ansicrwydd, pryder, colled ac unigrwydd.
Roedd rhai o'r bobl roedd eu straeon wedi ysbrydoli'r ffilm hon yn bresennol yn y gynulleidfa pan ddangoswyd y ffilm.
Dywedodd y cyfarwyddwr, Samuel Sebastian, a gymerodd ran yn y drafodaeth ar ôl darlledu’r ffilm:
"Cefais fy ysbrydoli gan y sgwrs â'r ffoaduriaid a'r ceiswyr lloches yn Abertawe a ddaeth i weld y ffilm. Diolchais iddynt am rannu eu straeon anodd o ymfudo ac anheddu. Darllediad y ffilm hon a'r drafodaeth a ddilynodd oedd un o'r sesiynau holi ac ateb fwyaf ysgogol a diddorol i mi gymryd rhan ynddi erioed".
Dywedodd yr Athro Sergei Shubin, pennaeth y Ganolfan Ymchwil Polisi Ymfudo, a oedd wedi cyd-gynhyrchu'r ffilm:
"Wedi'i hysbrydoli gan y straeon go iawn hyn, mae'r ffilm yn portreadu taith ymfudwyr, sydd bob tro'n ddi-ben-draw ac yn llawn ansicrwydd, gyda'r ymfudwyr yn methu gweithio neu ddewis lle i fyw, ac yn wynebu dyfodol anrhagweladwy.
Mae'r ffilm yn trosi canfyddiadau ymchwil i fformat sy'n eu gwneud yn hygyrch i gynulleidfaoedd ehangach, gan helpu i ddatblygu dealltwriaeth o faterion ymfudo y tu hwnt i'w cyd-destun diwylliannol gwreiddiol.
Mae'r digwyddiad hwn hefyd yn unol ag ymrwymiad Prifysgol Abertawe i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb, i ehangu ei gwaith cenhadaeth ddinesig yn y gymuned leol, a gyda'i chais i ddod yn Brifysgol Noddfa".
Cefnogwyd ac ariannwyd y darllediad hwn gan brosiect Horizon2020 yr Undeb Ewropeaidd, PERCEPTIONS (cytundeb grant 833870). Darlledwyd y ffilm fel rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol a oedd yn cynnwys digwyddiadau rhad ac am ddim i'r cyhoedd ar draws Abertawe. Mae'r Ŵyl yn ddathliad blynyddol o ymchwil a gwybodaeth am fodau dynol a chymdeithas, gyda digwyddiadau'n cael eu cynnal gan ymchwilwyr o brifysgolion y DU.