Mae Prifysgol Abertawe wedi helpu i sicrhau cyllid gwerth £22.4m gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) - sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) - i gefnogi ymchwilwyr ac arloeswyr biowyddoniaeth sy'n dod i'r amlwg yn ne-orllewin Lloegr a Chymru.
Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y Biowyddorau De-orllewin Lloegr (SWBio DTP) yn rhaglen pedair blynedd a ariennir yn llawn sydd â'r nod o ddarparu hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil biowyddoniaeth arloesol o'r radd flaenaf.
Bydd y rhaglen yn cynnig ysgoloriaethau PhD dros bum carfan gan ddechrau ym mis Hydref 2025, a cheir gweledigaeth hirdymor i ddatblygu arweinwyr mewn ymchwil, arloesi, polisi gwyddoniaeth a chyfathrebu.
Yn seiliedig ar dechnolegau trawsnewidiol, bydd yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr ehangu ffiniau eu hymchwil drwy offer a dulliau arloesol.
Meddai'r Athro William Griffiths, arweinydd Prifysgol Abertawe ar gyfer SWBio DTP ac Athro mewn Sbectrometreg Màs: "Rydym yn falch iawn o weld UKRI yn cydnabod effaith anhygoel y rhaglen hon yr ydym yn falch iawn o fod yn rhan ohoni.
"Drwy'r cyllid sylweddol hwn, byddwn yn parhau i rymuso ein myfyrwyr biowyddoniaeth i feithrin arloesedd ac ysgogi ymchwil sy'n cael effaith ac sydd â'r potensial i fod o fudd i gymunedau lleol a byd-eang."
Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r rhaglen hyfforddi arloesol hon i gefnogi ymchwilwyr y dyfodol ym maes y biowyddorau. Mae gennym draddodiad hir o gydweithio â sefydliadau eraill, yn ogystal â phartneriaid diwydiannol, masnachol ac yn y sector cyhoeddus, ac edrychwn ymlaen at wneud y gorau o'r cyfle gwych hwn i gyflawni effeithiau yn y byd go iawn."
Mae SWBio DTP yn gydweithrediad rhwng prifysgolion y GW4 - Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg - ynghyd â Rothamsted Research a chwe phartner cyswllt, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, y Gymdeithas Fiolegol Forol, SETsquared Bristol, UCB Pharma, Prifysgol Gorllewin Lloegr, a Phrifysgol Plymouth.
Ychwanegodd yr Athro Jon Lane, Cyfarwyddwr SWBio DTP ac Athro Bioleg Celloedd ym Mhrifysgol Bryste: “Mae hyn yn newyddion gwych. Rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn y gymeradwyaeth hon ar gyfer ein gweledigaeth i hyfforddi ac ysbrydoli arweinwyr y dyfodol mewn ymchwil ac arloesi yn y biowyddorau. Mae'r wobr hon yn gymeradwyaeth enfawr i adrannau'r biowyddorau yn ein sefydliadau sy'n arwain y sector. Mae'n cydnabod ymchwil o'r radd flaenaf yn y biowyddorau a gynhelir yn Ne-orllewin Lloegr ac yng Nghymru."
SWBio DTP yw'r ail raglen sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe i elwa o fuddsoddiad newydd UKRI gwerth mwy na £500 miliwn mewn ymchwil doethurol.
Hefyd, mae Dyfarniad Tirwedd Ddoethurol wedi'i roi i CROCUS, rhaglen newydd i hyfforddi myfyrwyr gwyddor amgylcheddol.
Dywedodd yr Athro y Fonesig Ottoline Leyser, Prif Weithredwr UKRI: "Mae buddsoddiadau UKRI mewn Hyfforddiant Doethurol yn hanfodol ar gyfer ymdrechion ymchwil ac arloesi’r DU. Mae'r dyfarniadau'n darparu cyllid i brifysgolion ar draws y DU i feithrin carfan o bobl greadigol a dawnus i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth, i greu partneriaethau a rhwydweithiau ac i archwilio’r darganfyddiadau hynny a fydd yn trawsnewid yfory, gan gynnig buddion amrywiol ar gyfer cymdeithas a thwf economaidd.”
Rhagor o wybodaeth am SWBio DTP
Astudio'r Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe