Hen ddyn mewn campfa: mae'r rôl Dr Christopher yn gyfle unigryw i lywio sut mae systemau gofal iechyd byd-eang yn deall ac yn ymateb i anghenion poblogaethau sy'n heneiddio

Hen ddyn mewn campfa: mae'r rôl Dr Christopher yn gyfle unigryw i lywio sut mae systemau gofal iechyd byd-eang yn deall ac yn ymateb i anghenion poblogaethau sy'n heneiddio

Mae arbenigwr mewn heneiddio ac iechyd o Abertawe wedi'i benodi i rôl allweddol yn cydlynu prosiect rhyngwladol i wella'r ffordd y mae systemau gofal iechyd yn rheoli cyflyrau sy'n gysylltiedig ag oedran. 

Mae Dr Gary Christopher, uwch-ddarlithydd yng Nghanolfan Heneiddio a Dementia Prifysgol Abertawe, yn un o ddau gydlynydd y Consortiwm Rhyngwladol i Ddosbarthu Patholegau sy'n Gysylltiedig â Heneiddio (ICCARP). 

Mae Dr Christopher yn gerontolegydd sy'n gweithio yn CADR ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar wybyddiaeth a rheoli emosiynau yn hwyrach mewn bywyd, gan gynnwys dementia. 

Mae prosiect ICCARP yn fenter fyd-eang arloesol sy'n cynnwys mwy na 300 o arbenigwyr ar draws 16 o weithgorau arbenigol. Mae'n mynd i'r afael â'r angen brys am systemau gofal iechyd byd-eang i addasu i boblogaethau sy'n heneiddio. Mae'r ffocws ar reoli clefydau sy'n gysylltiedig ag oedran yn effeithiol a gwella ansawdd bywyd i oedolion hŷn.

Sefydlwyd y prosiect mewn ymateb i Ddosbarthiad Rhyngwladol Clefydau (ICD-11) Sefydliad Iechyd y Byd a'i nod yw creu fframwaith cynhwysfawr sy'n ymgorffori amryw newidiadau sy'n gysylltiedig â heneiddio, gan gynnwys newidiadau mewn meinweoedd, newidiadau  metabolig, cellol ac ar lefel organau. 

Bydd y fframwaith newydd hwn yn cynnig dull gwell ar gyfer dosbarthu patholegau sy'n gysylltiedig ag oedran. Bydd yn mynd y tu hwnt i fodelau traddodiadol drwy integreiddio sawl safbwynt ar heneiddio. Bydd yn uno ymchwil ar draws meysydd, gan helpu systemau gofal iechyd i fabwysiadu ymagwedd fwy cyfannol at heneiddio. Nod y fframwaith yw arafu, atal neu wrthdroi cynnydd clefydau, gan gefnogi iechyd ac ansawdd bywyd unigolion wrth iddynt heneiddio. 

Bydd yn rhoi sylfaen i ddarparwyr gofal iechyd a llunwyr polisi a fydd yn eu galluogi i ddylunio ymyriadau effeithiol ar gyfer cyflyrau sy'n gysylltiedig ag oedran, gan sicrhau gofal gwell a'r defnydd gorau o adnoddau.

O ran y cyhoedd, mae buddion posib gwaith ICCARP yn drawsnewidiol.  Gall helpu i sicrhau bod oedolion hŷn yn derbyn gofal amserol penodol, gwella canlyniadau iechyd unigolion a gwella cymorth ar gyfer heneiddio’n iach mewn cymunedau.

Ymhlith camau nesaf y consortiwm y mae mireinio'r meini prawf dosbarthu a gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod y fframwaith yn bodloni safonau rhyngwladol.

Dywedodd Dr Gary Christopher o Brifysgol Abertawe, Cydlynydd prosiect ICCARP:

"Mae'r rôl hon yn gyfle unigryw i lywio sut mae systemau gofal iechyd byd-eang yn deall ac yn ymateb i anghenion poblogaethau sy'n heneiddio.  Drwy greu system dryloyw a hygyrch i ddosbarthu materion iechyd sy'n gysylltiedig ag oedran, gallwn lywio gofal iechyd tuag at ymyriadau sy'n gwella bywydau oedolion hŷn."

Ariennir prosiect ICCARP drwy grant USD 253,200 gan Longevity Impetus Grants. Fe'i harweinir gan Dr Barry Bentley o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Dr Stuart Calimport o Goleg Prifysgol Llundain.

Rhannu'r stori