Mae cwmni a sefydlwyd gan dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi dyfeisio monitor ansawdd aer sy'n gwirio am lefelau peryglus o garbon deuocsid ac sy'n gallu gweithredu'n barhaus gan ddefnyddio ynni glân a geir o olau dan do - heb angen newid batris hyd yn oed.
Mae ansawdd aer bellach yn bryder byd-eang o bwys, o ystyried pandemig COVID ac effaith enfawr llygredd aer ar iechyd. Enw'r monitor newydd yw AIR-sense-IQ ac mae’n addo bod yn declyn amhrisiadwy o ran helpu sefydliadau i ddiogelu iechyd pobl, wrth leihau eu hôl troed ynni ar yr un pryd.
Mae'r monitor yn mesur carbon deuocsid (CO2), gan ddarparu darlleniadau ansawdd aer byw drwy synhwyrydd uwch. Mae'r ddyfais yn rhybuddio pan fydd lefelau CO2 yn uchel.
Mae lefelau isel o CO2 yn bresennol yn naturiol yn yr aer. Ond pan fydd crynodiadau uwch o CO2 yn yr aer, gall achosi salwch neu farwolaeth hyd yn oed. Dyna pam mae wedi'i ddosbarthu'n sylwedd peryglus. Os aiff lefelau carbon deuocsid yn uwch na'r lefelau diogel, mae'n rhaid i gyflogwyr gymryd camau i leihau crynodiadau i lefel ddiogel.
Crëwyd y ddyfais newydd hon gan gwmni newydd o'r enw Reef-IOT, sy'n deillio o Brifysgol Abertawe. Cyd-sefydlwyd y cwmni gan Matt Carnie, Athro Gwyddor Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe a Zaid Haymoor sy'n fyfyriwr PhD mewn Peirianneg Electronig.
Defnyddir celloedd solar argraffedig, sy'n hynod hyblyg ac effeithlon, i bweru'r monitor. Mae'r celloedd hyn yn caniatáu i'r monitor weithredu hyd yn oed mewn amgylcheddau golau isel. Cawsant eu datblygu gan gwmni o'r enw Epishine o Sweden sydd â'r nod o ddal golau dan do i alluogi dyfeisiau electronig i'w pweru eu hunain, heb yr angen i ddefnyddio ceblau na batris tafladwy a heb orfod gwneud gwaith cynnal a chadw diangen mwyach.
Mae dyfeisiau electronig diwifr fel y monitor newydd, sy'n gallu eu pweru eu hunain drwy gynaeafu a defnyddio golau dan do, yn dod yn realiti o safbwynt masnachol.
Y rheswm dros hyn yw effeithlonrwydd gwell mewn dau faes: y dyfeisiau eu hunain, y mae angen ychydig o ficro-watiau neu fili-watiau o bŵer yn unig arnynt i weithio, yn ogystal â'r datblygiadau mewn deunyddiau ffotofoltäig - celloedd solar - sy'n golygu bod ganddynt rinweddau amsugno golau rhagorol a gorgyffwrdd sbectrol sylweddol â golau dan do.
Felly gallai'r dechnoleg sydd wrth wraidd AIR-sense-IQ fod yn arwydd o'r hyn sydd i ddod, gyda mwy o ddyfeisiau electronig hunan-bweru i ddilyn. Er enghraifft, mae'n bosib na fydd angen i fysellfyrddau cyfrifiaduron y dyfodol ddibynnu ar fatris neu geblau, gan weithredu'n gyfan gwbl gan ddefnyddio ynni glân o olau dan do.
Dywedodd yr Athro Matt Carnie o Brifysgol Abertawe, a arweiniodd yr ymchwil ac sy'n un o gyd-sefydlwyr Reef-IoT:
"Rydym yn falch o lansio AIR-sense-IQ, cynnyrch sy’n gwella ansawdd aer yn y gweithle ac sydd hefyd yn gweithredu'n gyfan gwbl gan ddefnyddio golau dan do. Rydym wedi creu dyfais sy'n hynod effeithlon ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd, gan ei gwneud hi'n haws i gwmnïau flaenoriaethu lles eu gweithwyr wrth leihau eu hôl-troed ynni ar yr un pryd. ”
Roedd yr ymchwil a arweiniodd at greu'r cynnyrch newydd yn rhan o raglen gwerth £6 miliwn o'r enw ATIP (Application Targeted and Integrated Photovoltaics). Ariennir ATIP gan UKRI, fe'i harweinir gan Brifysgol Abertawe a’i phartneriaid academaidd yng Ngholeg Imperial Llundain a Phrifysgol Rhydychen ac fe'i cefnogir gan 12 partner diwydiannol allweddol. Nod ATiP yw datblygu’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau ffotofoltäig, gan eu hintegreiddio mewn cymwysiadau megis technoleg amaethyddol, adeiladau di-garbon, a dyfeisiau'r “rhyngrwyd pethau” drwy ddulliau gweithgynhyrchu cost isel ar raddfa fawr.
Dywedodd Dr Silvia Villarroya Lidon, uwch-reolwr prosiect ATIP:
“Mae datblygu'r ddyfais hon a'i rhoi ar y farchnad yn cynrychioli cyflawniad sylweddol ar gyfer rhaglen ymchwil ATIP. Prif nod ATIP yw darparu'r wyddoniaeth a'r beirianneg sylfaenol angenrheidiol i hyrwyddo defnyddio’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau ffotofoltäig mewn cymwysiadau integredig sy'n mynd i'r afael ag anghenion technolegol clir. ”
Disgwylir y bydd Air-sense-IQ ar gael o ganol 2025.