Cafodd myfyriwr o Brifysgol Abertawe y profiad unigryw o dynnu lluniau o aderyn prin yn ystod taith addysgol i Borneo.
Roedd y myfyriwr Sŵoleg, Lewis Ferguson, yn cymryd rhan mewn cwrs maes Ecoleg a Chadwraeth Drofannol eleni pan dynnodd luniau o bigwr blodau sbectolog.
Mae'r pigwr blodau sbectolog, sy'n un o rywogaethau endemig Borneo, yn aelod swil o'r genws pigwyr blodau, Dicaeum, a ddarganfuwyd am y tro cyntaf yn 2009 yn Ardal Gadwraeth Cwm Danum - lle roedd y cwrs Sŵoleg trydedd flwyddyn yn cael ei gynnal.
Ers hynny, cafwyd ychydig iawn o gofnodion o weld yr aderyn hwn ar draws yr ynys, gyda saith yn unig wedi'u cofrestru ar eBird, sef platfform rhyngwladol ar gyfer cofnodion adar.
Ni ddisgrifiwyd y rhywogaeth yn wyddonol tan 2019, pan lwyddodd aelodau o daith ymchwil i Warchodfa Bywyd Gwyllt Lanjak Entimau yn Sarawak, Borneo Malaysiaidd i ddal sbesimen. Daeth y sbesimen hwn yn holoteip ar gyfer y rhywogaeth newydd hon, a alwyd yn Dicaeum dayakorum er anrhydedd pobl Dayak yn Borneo.
Yr un cyntaf i weld yr aderyn oedd Dr Miguel Lurgi: un o'r darlithwyr ar y cwrs, a sylwodd ar aderyn prin yn ystod gweithgareddau maes ac roedd rhaid i'r tîm ymchwilio i wybod beth yn union oedd yr aderyn hwn. Ar ôl gweld yr aderyn yn y lle cyntaf, gofynnodd Dr Lurgi am gymorth Lewis a myfyriwr arall o'r enw Joseph Lidgett i ddod o hyd i'r aderyn a thynnu lluniau ohono.
Meddai Lewis: “Fel rhywun sydd â diddordeb brwd yn ymddygiad adar a thynnu lluniau o adar yn y DU, roedd yr aderyn hwn yn heriol iawn. Roedd hi'n anodd iawn tynnu lluniau o'r aderyn oherwydd ei gorff bach a'i symudiadau cyflym a'i arfer o lochesu ymysg coed trwchus.
“Diolch byth, ar ôl bod yn amyneddgar iawn a cholli llawer o gyfleoedd, roeddwn i'n gallu tynnu llun amlwg sy'n adnabod yr aderyn. Rwy'n ddiolchgar am arbenigedd Dr Lurgi am ddarparu profiad mor fythgofiadwy.”
Ar ôl gweld yr aderyn yn bwyta aeron uchelwydd epiffytig, sef planhigyn canopi coedwig yr iseldir sy'n un o'r prif adnoddau y gwelir y pigwr blodau'n eu bwyta, roedd y grŵp yn gallu cadarnhau'r canfyddiad.
Meddai Joe: “Ar ôl i ni glywed bod yr aderyn wedi cael ei weld o bosib, penderfynais i a Lewis ddechrau ar ein taith yn gynnar yn y bore i gadarnhau hyn. Ar ôl i ni aros wrth yr uchelwydd epiffytig, llwyddodd y ddau ohonon ni i gadarnhau presenoldeb y pigwr blodau o'r diwedd pan welon ni'r aderyn yn hedfan i lawr o'r canopi a bwyta ar y goeden uchelwydd gwpl o weithiau.”
Ychwanegodd Dr Lurgi: “Mae'r arsylwad hwn yn brawf o ganfyddiad diddorol a phrin sy'n ychwanegu at yr wybodaeth hollbwysig am rywogaeth nad oes digon o ddata amdani ar restr goch IUCN. Mae'r ymdrechion arsylwi hyn yn hollbwysig wrth ganfod eu statws cadwraeth.
“Rydyn ni ar ben ein digon am y ffaith y caiff ein canfyddiadau eu cyhoeddi yn rhifyn mis Rhagfyr BirdingASIA.”
Mae Borneo yn ganolbwynt bioamrywiaeth ac yn adnabyddus iawn am ei hecosystemau trofannol unigryw, megis coedwigoedd dipterocarp yr iseldir a'i digonedd o rywogaethau endemig. Cofnodwyd dros 600 o rywogaethau adar yn Borneo gan gynnwys tua 61 sy'n endemig i'r ynys.