Mae Dr Jeff Davies o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi derbyn Dyfarniad Ysgolhaig Holl Ddisgyblaethau Fulbright o fri, a fydd yn ei alluogi i gynnal ymchwil yn y gyfadran niwrowyddoniaeth fyd-enwog yn Sefydliad Salk yn San Diego, Califfornia.
Cafodd Dr Davies ei ddewis o bwll cystadleuol iawn o ymgeiswyr i ymchwilio'r cysylltiadau cymhleth rhwng endocrin, imiwnedd, a systemau nerfol, gan ganolbwyntio ar heneiddio a chlefyd. Nod ei waith yw dyfnhau ein dealltwriaeth o sut mae'r systemau hyn yn rhyngweithio, yn benodol yng nghyd-destun y cyflyrau niwroddirywiol, clefyd Parkinson a chelfyd Alzheimer.
Comisiwn Fulbright yr UD a’r DU sy'n darparu'r unig raglen ysgoloriaeth drawsatlantig ddwyochrog yn y DU, sy'n cynnig dyfarniadau i astudio neu ymchwilio mewn unrhyw faes, mewn unrhyw brifysgol achrededig yn yr UD neu'r DU. Mae'r Comisiwn yn dewis ysgolheigion drwy broses ymgeisio a chyfweld lym, wrth chwilio am ragoriaeth academaidd ochr yn ochr â chais â ffocws, chwilfrydedd diwylliannol, ystod o weithgareddau allgyrsiol a chymunedol, tystiolaeth o sgiliau llysgenhadol, awydd i wella cenhadaeth Fulbright a chynllun i roi'n ôl i'r DU wrth ddychwelyd.
Mae Dr Davies wedi bod yn Athro Cysylltiol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ers 2013, ac yn ystod ei amser mae wedi nodi rolau newydd ar gyfer hen hormonau, mewn prosiectau sy'n cysylltu ffactorau yn y gwaed â swyddogaeth yr ymennydd sy'n cael ei hamharu gan glefyd Parkinson a Dementia.
Mae'r Dyfarniad Fulbright, a fydd yn lleoli Dr Davies yn y Sefydliad Salk o fis Chwefror tan fis Mai, yn rhoi'r cyfle i Dr Davies integreiddio ei ddysgu o'r labordy a'r lleoliadau cymunedol i annog deialog well rhwng gwyddonwyr, pobl sydd â diagnosis o gyflyrau niwroddirywiol, cyfranogwyr astudiaethau, llunwyr polisi a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Wrth dderbyn y dyfarniad Fulbright, meddai Dr Davies: "Mae'n bleser gen i dderbyn yr Ysgoloriaeth Fulbright a fydd yn galluogi newid sylweddol yn y ffordd rydym yn astudio clefyd Parkinson a chlefydau cysylltiedig yn y labordy. Mae labordy'r Athro Fred Gage yn Sefydliad Salk, arweinydd byd-eang wrth ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r ymennydd, wedi datblygu dulliau arbrofol newydd i astudio celloedd sy'n bresennol yn system nerfol hen bobl.
"Rwy'n edrych ymlaen at ddysgu'r technegau hyn i astudio sut mae mathau penodol o gelloedd yn rhyngweithio yng nghyd-destun cyflyrau niwroddirywiol sy'n gysylltiedig ag oedran. Fel ysgolhaig Fulbright, rwy'n edrych ymlaen at greu cydweithrediadau newydd yn Salk ac yn ehangach, i wneud canfyddiadau biofeddygol ystyrlon a fydd yn cael effaith ar sut rydym yn cael diagnosis ac yn trin clefydau lle, ar hyn o bryd, does dim llawer o opsiynau i helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt."
Meddai Maria Balinska, Cyfarwyddwr Gweithredol, Comisiwn Fulbright yr UD a’r DU: "Ein nod yw byd lle nad oes unrhyw rwystrau at ddysgu, deall a chydweithio. Heddiw mae llawer o heriau byd-eang i’w horesgyn, ac mae' angen arweinwyr tosturiol ar y byd i fynd i'r afael â nhw. Bydd y garfan hon o enillwyr yn rhoi ymgysylltiad diwylliannol wrth wraidd eu profiadau wrth iddynt ymgymryd â rhaglenni astudio ac ymchwil uchelgeisiol yn yr UD: Rydw i'n llawn gobaith am y cydweithrediadau gwych a fydd yn digwydd."