Casgliad o luniau o fyfyrwyr PhD o Brifysgol Abertawe'n ymgymryd â gwaith maes. Credyd: (Chwith) Nupur Kale; (Dde) Ruby George.

Ar y cyd â Phrifysgol Reading a sefydliadau uchel eu proffil, rydym yn edrych ymlaen at rymuso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwyddoniaeth amgylcheddol. Credyd: (Chwith) Nupur Kale; (Dde) Ruby George.

Mae Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) UKRI wedi dyfarnu  cyllid i Brifysgol Abertawe a'i phartneriaid i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr o safon fyd-eang i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol byd-eang.

Bydd y dyfarniad tirwedd ddoethurol yn cefnogi CROCUS (System Hinsawdd a Gwyddor Bioamrywiaeth ar gyfer Heriau, Risgiau a Chyfleoedd - Cydweithio wrth Feithrin Dealltwriaeth a Chreu Atebion), rhaglen hyfforddiant newydd a fydd yn ariannu pum carfan flynyddol o fyfyrwyr PhD gwyddor amgylcheddol o fis Hydref 2025. 

Mae CROCUS yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Reading a sawl sefydliad nodedig, gan gynnwys Arolwg Daearegol Prydain, y Sefydliad Sŵoleg, Gerddi Botanegol Brenhinol Kew, yr Amgueddfa Hanes Naturiol, y Ganolfan Cefnforeg Genedlaethol a'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg.

Drwy'r partneriaethau allweddol hyn, bydd gan fyfyrwyr fynediad at gyfleoedd hyfforddiant a lleoliadau gwaith gwerthfawr, gan feithrin y sgiliau ymarferol a'r rhwydweithiau y mae eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfaoedd ac ysgogi darganfyddiadau trawsnewidiol.

Bydd y cyllid, sy'n rhan o fuddsoddiad sylweddol newydd gan y llywodraeth o £500m mewn ymchwil ddoethurol a gyhoeddwyd yr wythnos hon, yn cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau, a bydd pob un ohonynt yn archwilio materion amgylcheddol unigryw a dybryd. O wydnwch hinsawdd, gwyddor atmosfferig ac ecosystemau morol a dŵr croyw i fioamrywiaeth a chadwraeth.

Dywedodd yr Athro Gert Aarts, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae’n wych gweld y dyfarniad tirwedd ddoethurol gan NERC yn cael ei ddyfarnu i Brifysgol Abertawe, Prifysgol Reading a'u partneriaid. 

“Mae'r amgylchedd yn berthnasol ac yn bwysig i bob un ohonom ac mae'n galonogol meddwl am yr effaith gadarnhaol y bydd yr hyfforddiant arloesol hwn yn ei chael ar fyfyrwyr gwyddor amgylcheddol.”

Mae'r dyfarniad yn cydnabod rhagoriaeth barhaus Prifysgol Abertawe mewn ymchwil amgylcheddol a'i hymroddiad i ddatblygu arweinwyr y dyfodol, ar ôl iddi ymrwymo, ar y cyd â Phrifysgol Reading, i roi arian cyfatebol sylweddol a fydd yn golygu y caiff mwy na 110 o fyfyrwyr PhD eu hyfforddi.

Dywedodd Dr William Allen, Cyd-gyfarwyddwr CROCUS ac Uwch-ddarlithydd yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae'r dyfarniad hwn yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer Prifysgol Abertawe. Bydd yn caniatáu i ni adeiladu ar ein harbenigedd presennol a chreu rhaglen hyfforddiant gadarn sy'n paratoi myfyrwyr i gyfrannu at ddealltwriaeth wyddonol a gwneud gwahaniaeth ystyrlon i'r amgylchedd naturiol.”

Ychwanegodd Dr Thorwald Stein, Cyd-gyfarwyddwr CROCUS ac Athro Cysylltiol mewn Meteoroleg ym Mhrifysgol Reading: “Drwy gyfuno gwybodaeth ac adnoddau sefydliadau ymchwil o safon fyd-eang a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau preifat ac yn y sector cyhoeddus, gallwn rymuso'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol mewn ffyrdd na allai unrhyw sefydliad unigol eu cyflawni ar ei ben ei hun. Mae'r bartneriaeth hon yn hanfodol ar gyfer creu atebion arloesol a fydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i'n planed."

Dywedodd yr Athro y Fonesig Ottoline Leyser, Prif Weithredwr UKRI: "Mae buddsoddiadau UKRI mewn Hyfforddiant Doethurol yn hanfodol ar gyfer ymdrechion ymchwil ac arloesi’r  DU.  Mae'r dyfarniadau'n darparu cyllid i brifysgolion ar draws y DU i feithrin carfan o bobl greadigol a dawnus i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth, i greu partneriaethau a rhwydweithiau ac i archwilio’r darganfyddiadau hynny a fydd yn trawsnewid yfory, gan gynnig buddion amrywiol ar gyfer cymdeithas a thwf economaidd.”

Rhannu'r stori