Llun o fenyw yn derbyn therapi ymbelydredd gan ddefnyddio cyflymydd llinelol.

Mae astudiaeth newydd a arweinir gan Brifysgol Rhydychen ac sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe wedi canfod bod prinder ac anghysonderau mewn offer a staff yn cael effaith ar driniaeth canser mewn deuddeg o wledydd a fu'n rhan o'r Undeb Sofietaidd gynt.

Mae'r astudiaeth ART (Access to Radiotherapy Technologies), a gyhoeddwyd yn The Lancet Oncology, wedi tynnu sylw at fylchau hollbwysig o ran mynediad at dechnolegau delweddu diagnostig a radiotherapi (RT) mewn rhanbarth sy'n cynnwys rhanbarth y Baltig, Dwyrain Ewrop, Canol Asia a'r Cawcasws.

Drwy fynd i'r afael â'r bylchau hyn, gall gwasanaethau gofal iechyd gynyddu eu gallu i wneud diagnosis cyflym a thrin cleifion canser yn effeithiol, gan wella cyfraddau goroesi cleifion yn y pen draw.

Mae hen ranbarth yr Undeb Sofietaidd yn yr ail safle yn y byd am nifer y triniaethau canser radiotherapi a ddarperir yn bennaf â pheiriannau cobalt-60 'hen ffasiwn'.

Hyd yma, bu diffyg dealltwriaeth o'r rhwystrau sy'n atal y newid i gyflymyddion llinol mwy effeithiol (LINACs) ar gyfer therapi ymbelydredd pelydr allanol (EBRT).

Mae LINACs yn fwy manwl gywir ac effeithiol na pheiriannau cobalt-60; maent hefyd yn fwy diogel gan nad ydynt yn defnyddio deunyddiau ymbelydrol. Fodd bynnag, mae'r dyfeisiau hyn yn dibynnu ar staff medrus a gwaith cynnal a chadw rheolaidd, sy'n golygu ei bod hi'n ofynnol i ddarparwyr gofal iechyd wneud buddsoddiad sylweddol mewn isadeiledd a hyfforddiant.

Drwy ddata canser cenedlaethol a chyfuniad o arolygon a gweithdai gydag arbenigwyr a rheoleiddwyr canser, nododd y tîm ymchwil yr heriau y mae'r gwledydd hyn yn eu hwynebu a sut y gallai cyllid addas wella eu technolegau radiotherapi a gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â chanser.

Er bod nodweddion y gwledydd yn amrywio'n sylweddol o ran cyfanswm y boblogaeth, cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) y pen, achosion o ganser, a chymhareb marwolaethau-achosion (MIR), ceir sawl tuedd allweddol:

  • Yn gyffredinol, mae gan wledydd mwy datblygedig yn economaidd, fel Estonia, Latfia a Lithwania, fwy o gapasiti o ran offer delweddu diagnostig a radiotherapi, yn ogystal â mwy o oncoleg ymbelydredd ac adnoddau dynol. Mae ganddynt hefyd gyfraddau goroesi canser gwell.
  • Mae gan wledydd y Baltig allu EBRT a nifer yr oncolegwyr sy'n uwch na'r cyfartaledd, tra bod gan wledydd yn Nwyrain Ewrop a Chanolbarth Asia gapasiti is o ran offer therapi ymbelydredd a lefelau staffio is ym maes therapi ymbelydredd. Fodd bynnag, nid yw mwy o gapasiti o ran offer bob amser yn arwain at lefelau goroesi gwell. Er enghraifft, mae gan Georgia gapasiti offer therapi ymbelydredd sy'n uwch na'r cyfartaledd rhanbarthol ond mae ganddi'r gyfradd uchaf o ran marwolaethau canser hefyd. Yn ôl y tîm, mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cael digon o staff hyfforddedig.
  • Y gwledydd sydd â'r Cynnyrch Domestig Gros (GDP) isaf a'r galluoedd EBRT isaf, fel Kazakhstan, Azerbaijan, Uzbekistan, Kyrgyzstan a Tajikistan, sydd â'r cyfraddau hysbysedig isaf o ran marwolaeth canser. Cred ymchwilwyr fod hyn yn debygol oherwydd diffyg offer delweddu diagnostig yn y gwledydd hyn, gan achosi i lawer o gleifion canser fynd heb ddiagnosis. I gefnogi hyn, y gwledydd sydd â'r GDP uchaf a'r capasiti EBRT uchaf sydd â'r cyfraddau hysbysedig uchaf o ran marwolaeth ond yr MIR (sef y gyfradd marwolaethau-achosion) fwyaf ffafriol ar gyfer canser.

Meddai Dr Richard Hugtenburg, prif awdur yr astudiaeth a ffisegydd meddygol yn Ysbyty Singleton ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: "Mae gan bob un o'r gwledydd a arolygwyd gennym adnoddau gwahanol iawn ar gyfer darparu radiotherapi, ond mae gan bron bob un ohonynt brinder ffisegwyr meddygol, technolegwyr therapi ymbelydredd, a pheirianwyr i gynnal offer. Mae angen ehangu cyfleoedd addysgol a hyfforddiant ar frys.

"Roedd y gweithdai yn gyfle i rannu strategaethau ym maes addysg a datblygu technoleg. Cyflwynais yng ngweithdy 2022 yn Almaty, Kazakhstan a siaradais am ein datblygiadau yn narpariaeth radiotherapi yn y DU, gan gynnwys cyfranogiad Ysbyty Singleton yn y treial Fast forward sy’n ymwneud â'r fron. Dangosodd y treial hwnnw y gellid lleihau ymweliadau cleifion yn ddiogel o 15 i 5 niwrnod, ac fe'i cyflwynwyd i'r mwyafrif o gleifion yn ystod COVID-19.

"Mae canser yn her fyd-eang, ac mae datblygiadau technolegol a gwyddonol â'r potensial i fod o fudd i wledydd incwm isel a chanolig, yn ogystal â mynd i'r afael â'r amrywiaeth eang o ran ansawdd gofal mewn gwledydd incwm uchel."

Meddai'r ymchwilydd arweiniol Yr Athro Manjit Dosanjh, athro gwadd ym Mhrifysgol Rhydychen: "Mae gwella cyfraddau goroesi canser ar gyfer y gwledydd yn yr astudiaeth Access to Radiotherapy Technologies (ART) yn galw am ymagwedd aml-haen sy'n cynnwys creu capasiti dynol a thechnegol, gwella cyfraddau canfod canser a gwella hygyrchedd at bob math o ofal canser a'i safon. Oherwydd y gwahaniaethau mawr yn yr adnoddau sydd ar gael, mae angen i bob gwlad ddatblygu cynllun penodol i wella ei rhaglen ganser".

Cynhaliwyd yr astudiaeth gan y Corfflu Arbenigol Canser Rhyngwladol (ICEC) ac fe'i harweinir gan arbenigwyr canser byd-eang o Brifysgol Rhydychen a Phrifysgol Abertawe, yn y DU; Yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA), Awstria;  Canolfan Ganser y Brenin Hussein, Gwlad Iorddonen; Prifysgol Cyril a Methodius, Skopje, Gogledd Macedonia; Prifysgol Abuja, Nigeria; a Sefydliad Rhyngwladol De-Ddwyrain Ewrop ar gyfer Technolegau Cynaliadwy (SEEIIST) ynghyd â chynrychiolwyr o wledydd yr astudiaeth ART;

Y gwledydd a archwiliwyd oedd Estonia, Latfia, Lithwania, Moldofa, Wcráin, Armenia, Azerbaijan, Georgia, Kazakhstan, Kyrgyzstan, Tajikistan, ac Uzbekistan.

Rhannu'r stori