Gall hyd eich bysedd fod yn gliw allweddol i'ch arferion yfed alcohol, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae tystiolaeth bod steroidau rhyw cyn-eni yn cael effaith ar yfed alcohol felly penderfynodd arbenigwyr o Brifysgol Abertawe a chydweithwyr o Brifysgol Feddygol Lodz ddefnyddio sampl o fyfyrwyr ar gyfer eu hymchwil i'r pwnc.
Mae eu canfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi gan y cyfnodolyn o fri, yr American Journal of Human Biology. Canfuwyd perthnasoedd rhwng yfed llawer o alcohol a bysedd modrwy hir o'u cymharu â mynegfysedd. Dengys hyn fod lefel uchel o destosteron cyn-geni o'i gymharu ag oestrogen yn gysylltiedig â myfyrwyr sy'n yfed llawer o alcohol.
Meddai'r Athro Manning, o'r tîm ymchwil Chwaraeon Cymhwysol, Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth (A-STEM) yn Abertawe: "Mae yfed alcohol yn broblem gymdeithasol ac economaidd mawr. Felly, mae'n bwysig deall pam mae defnydd alcohol yn dangos gwahaniaethau sylweddol ar draws unigolion."
Defnyddiodd yr astudiaeth sampl o 258 o gyfranogwyr - 169 ohonynt yn fenywod - a dangosodd fod y cyfraddau yfed alcohol yn amrywio rhwng y rhywiau. O'u cymharu â menywod, mae dynion yn dangos cyfraddau uwch o yfed alcohol a marwolaethau o gamddefnyddio alcohol.
Meddai: "Mae patrwm fel yr un hwn yn awgrymu bod hormonau rhyw, megis testosteron ac oestrogen yn chwarae rhan. Cymhareb bysedd (2B:4B: ystyrir bod hyd mynegfys a bys modrwy cymharol yn arwydd o destosteron (bys modrwy) ac oestrogen (mynegfys) buan.
"Gwyddom fod gan gleifion sy'n ddibynnol ar alcohol fysedd modrwy hir iawn o'u cymharu â'u mynegfysedd, sy'n awgrymu testosteron uchel o'i gymharu â’u cysylltiad oestrogen cyn-geni. Fel y disgwylir, roedd y cysylltiadau'n gryfach mewn dynion na mewn menywod."
Nawr mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd eu casgliad yn cynnig dealltwriaeth well o'r ffactorau sy'n gysylltiedig â'r patrwm yfed alcohol, o ymatal i ddefnydd achlysurol i ddibyniaeth niweidiol.
Dyma'r papur diweddaraf sydd wedi amlygu gwaith yr Athro Manning yn y maes cymhareb bysedd. Mae ymchwil flaenorol wedi archwilio sut gall cymhareb bysedd ddarparu gwybodaeth allweddol am ganlyniadau ar ôl cael Covid-19, yn ogystal â defnydd o ocsigen mewn pêl-droedwyr.
Gallwch ddarllen y papur yma: Alcohol Consumption Pattern Dependent on Prenatal Sex-Steroids? A Digit Ratio (2D:4D) Study Among University Students