Mae ymchwil sy'n helpu'r CU a llysoedd ledled y byd i asesu tystiolaeth o ffonau symudol wrth erlyn troseddau rhyfel ac achosion hawliau dynol eraill, wedi ennill gwobr uchel ei bri sy'n amlygu effaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Gwobr Dathlu Effaith 2024, a gynhelir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn cydnabod effaith gymdeithasol ehangach yr ymchwil a ariennir gan yr ESRC mewn prifysgolion yn y DU.
Enw'r prosiect, a arweinir gan arbenigwr cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe, yw "Strengthening the use of open-source research in human rights investigations".
Mewn byd lle mae ffonau symudol mor gyffredin, mae gwrthdrawiadau'n cael eu recordio fwyfwy gan lygad-dystion a'u lanlwytho i'r rhyngrwyd. Mae'r lluniau, y recordiadau a’r fideos ffynhonnell agored hyn yn cynnig potensial enfawr ar gyfer ymchwiliadau hawliau dynol a threialon erchylltra torfol.
Fodd bynnag, mae heriau ynghlwm wrth ddod o hyd i'r wybodaeth hon, gwirio ei bod yn ddilys, sicrhau nad oes rhagfarn ynddi, ac o ran y symiau enfawr o ddata, prosesu a chatalogio tystiolaeth.
Mae'r Athro Yvonne McDermott Rees o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe'n esbonio:
"Un o'r prif broblemau wrth ddefnyddio tystiolaeth o'r rhyngrwyd yw bod y ffynhonnell yn aml yn anhysbys - ydy'n perthyn i'r unigolyn a wnaeth ei phostio neu ydy wedi cael ei hail-bostio o gyfrif arall? Ydy'n gamwybodaeth neu wedi cael ei chambriodoli, er enghraifft fideo sy'n honni dod o Gaza yn 2024, pan gafodd ei recordio yn Syria yn 2017 mewn gwirionedd? Yn aml mae platfformau'n dileu'r metadata sy'n cynnwys gwybodaeth am amser, dyddiad a lleoliad y ffilmio, gan ei wneud yn fwy anodd ei wirio."
"Hefyd, gyda miloedd o oriau o ddeunydd, gall ymchwiliadau ffynhonnell agored gynhyrchu setiau data enfawr. Mae angen i ymchwilwyr allu hidlo'r wybodaeth fwyaf perthnasol a sicrhau bod modd ei chadw yn unol â safonau cyfreithiol."
Enw'r prosiect hwn yw OSR4Rights, a chafodd ei ariannu gan grant Ymchwil Drawsnewidiol yr ESRC rhwng 2018 a 2021. Ei nod yw cryfhau'r defnydd a'r ddealltwriaeth o wybodaeth ffynhonnell agored gan ymchwilwyr, cyfreithwyr a barnwyr wrth geisio cyfiawnder ar gyfer troseddau yn erbyn hawliau dynol.
Mae'r tîm amlddisgyblaethol yn cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe, Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain, Prifysgol Heriot-Watt, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Califfornia, Berkeley, Human Rights Watch a HM Software.
Mae gwaith y tîm eisoes wedi cael effaith. Er enghraifft, datblygodd offer technegol i wneud ymchwiliadau'n fwy effeithlon a systematig. Roedd y rhain yn cynnwys offeryn i ganfod iaith casineb a FireMap, sy'n galluogi ymchwilwyr i fapio patrymau tanau, megis llosgi pentrefi. O'r blaen, byddai ymchwilwyr yn tynnu cipluniau â llaw o wybodaeth ar-lein ac yn ei storio, ond mae'r offeryn archifo awtomatig yn awtomeiddio'r broses, gan gofnodi'r wybodaeth a diogelu'r gadwyn dystiolaeth.
Ar ben hyn, darparodd y tîm hyfforddiant ac arweiniad i sefydliadau - gan gynnwys cyrff canfod ffeithiau'r CU, Europol, ymchwilwyr o Syria, y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, INTERPOL ac aelodau staff Cyngres yr Unol Daleithiau, yn ogystal â barnwyr a chyfreithwyr yn Irac, Wcráin, ac o lysoedd rhyngwladol yn Yr Hag - ar werthuso cryfderau a gwendidau gwybodaeth ffynhonnell agored.
Ychwanegodd yr Athro McDermott Rees:
"Mae cynnwys yr ymchwil yn ennill y Wobr hon yn gydnabyddiaeth am effaith y gwaith hollbwysig mae tîm OSR4Rights wedi'i wneud. Mae'r gwaith hwnnw yn gymorth i ymchwilwyr, cyfreithwyr a barnwyr sy'n ceisio sicrhau atebolrwydd am droseddau yn erbyn hawliau dynol. Ond y buddiolwyr yn y pen draw yw llygad-dystion i erchyllterau, sydd yn aml yn cymryd risgiau personol enfawr i recordio a rhannu tystiolaeth ar-lein, a dioddefwyr y troseddau hynny sy'n chwilio am gyfiawnder."
Meddai Cadeirydd Gweithredol yr ESRC, Stian Westlake:
"Y wobr Dathlu Effaith yw ffordd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol o gydnabod cyflawniadau arbennig economegwyr a gwyddonwyr cymdeithasol rhagorol y DU.
Rwy'n falch bod y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi ariannu'r prosiectau gwerthfawr hyn, a bod gennym gyfle i ddathlu'r effaith sylweddol a gyflawnir."
Bydd gwaith pawb ar y rhestr fer yn cael ei gynnwys mewn ffilm a byddan nhw wedi cael hyfforddiant cyfryngau.
Bydd yr enillwyr yn cael £10,000 i'w wario er mwyn hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth, ymgysylltu â'r cyhoedd neu weithgareddau cyfathrebu eraill.