Lansiodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, y BioHYB Cynhyrchion Naturiol (NP BioHUB) ym Mhrifysgol Abertawe yn swyddogol ddydd Iau 7 Tachwedd.
Nod y cyfleuster arloesol yw hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy a gwella biodechnoleg werdd yng Nghymru.
Wedi'i ariannu gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) â buddsoddiad o £4.5m, bydd y BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn arwain arloesedd mewn defnyddio cynhyrchion naturiol ar draws amaethyddiaeth, cynhyrchion fferyllol, a gweithgynhyrchu, gan feithrin arferion iachach, gwyrddach a mwy cynaliadwy.
Mae'r ganolfan newydd hon yn ychwanegiad hanfodol at sector biodechnoleg y DU, gan wneud Cymru’n arweinydd yn y maes hwn wrth gyfrannu at ddatblygiad economaidd cynaliadwy.
Mae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn defnyddio arbenigedd enwog Prifysgol Abertawe mewn biodechnoleg algaidd a microbaidd, yn ogystal â'i hadnoddau peirianneg a dadansoddol uwch, i drawsnewid ymchwil arloesol yn gynnyrch gweladwy.
Yn ystod y digwyddiad, cafodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, daith o amgylch cyfleusterau labordai’r Brifysgol o’r radd flaenaf, cwrdd â thîm y prosiect, ac ymgysylltu â phartneriaid diwydiannol a rhanddeiliaid cymunedol.
Fel yr unig ganolfan yn rhaglen Cyflymu Economïau Gwyrdd Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n canolbwyntio ar fiodechnoleg, mae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn cynnig cyfle unigryw i Gymru arwain ar atebion ar sail natur a chryfhau'r fioeconomi. Bydd y fenter hon yn meithrin datblygiad cynhyrchion cynaliadwy a hefyd yn creu llwybrau i fusnesau Cymru ragori mewn marchnadoedd byd-eang newydd, gan hybu gwerthiannau a thwf.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: "Roedd yn bleser gen i ymweld â Phrifysgol Abertawe a gweld y gwaith ardderchog sy'n mynd rhagddo yma. Bydd y cyllid gan UKRI, wedi'i gefnogi gan Lywodraeth y DU, yn helpu i droi ymchwil arbenigol yn gynnyrch arloesol a all gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy.
"Mae'r prosiect yn cyflogi ac yn hyfforddi pobl leol, gan helpu i feithrin ffyniant yn Abertawe a'r rhanbarth ehangach, a chyfrannu at nod Llywodraeth y DU i dyfu'r economi yng Nghymru ac ar draws y DU."
Meddai'r Athro Dan Eastwood, arweinydd prosiect y BioHYB Cynhyrchion Naturiol:"Mae lansiad Canolfan Economi Werdd y BioHyb Cynhyrchion Naturiol UKRI yn arwydd o amser cyffrous o ran arloesedd a datblygiad cynhyrchion a phrosesau mwy cynaliadwy o gelloedd byw ac yn helpu i adeiladu ar ein cryfderau ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ym Mhrifysgol Abertawe. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'n partneriaid diwydiannol a dinesig i gyflwyno porth biotechnoleg werdd yn ne Cymru â chyrhaeddiad rhyngwladol a buddion lleol."