Mae Dr Aimee Grant, uwch-ddarlithydd mewn iechyd y cyhoedd ym Mhrifysgol Abertawe, wedi'i chydnabod gan yr elusen anabledd genedlaethol Sense, am ei gwaith yn archwilio profiadau pobl awtistig yn ystod beichiogrwydd - maes lle sy’n brin o ymchwil y cafodd ei hysbrydoli i ymchwilio iddo ar ôl ei beichiogrwydd ectopig trawmatig ei hun.
Gwobrau Sense, sydd nawr yn eu 21ain flwyddyn, yw dathliad blynyddol yr elusen o bobl ag anableddau cymhleth a'r rhai hynny yn eu bywydau sy'n eu cefnogi, i gydnabod eu cyflawniadau.
Yn ddefnyddiwr cadair olwyn, cafodd Dr Grant ddiagnosis o awtistiaeth yn 2019, a blwyddyn yn ddiweddarach cafodd feichiogrwydd ectopig ac roedd angen llawdriniaeth frys arni. Roedd y profiad hwn hyd yn oed yn fwy anodd iddi yn sgil ward a oedd yn llawn goleuadau llachar, sgyrsiau swnllyd ac aroglau cryf o gannydd a phersawr, ac yn y diwedd gwnaeth hi ryddhau ei hun o'r ysbyty yn erbyn cyngor meddygol.
Ond roedd y profiad hwn wedi ysbrydoli Dr Grant i ddechrau ei hymchwil a'i fideos “Autistic pregnancy, birth and beyond: your questions answered”, lle mae arbenigwyr ar awtistiaeth yn ateb pryderon cyffredin, wedi'u gwylio filoedd o weithiau. Mae ei ffocws nawr wedi ehangu, ac ar hyn o bryd mae hi'n arwain prosiect wyth mlynedd o hyd i ddeall profiadau iechyd atgenhedlu pobl awtistig, o ddechrau eu mislif yr holl ffordd at y menopos. Ei nod yw cynnal 1,000 cyfweliad yn ystod y prosiect ac mae hi’n arwain y prosiect ar y cyd â chyngor cymunedol o 11 o bobl awtistig.
Mae Dr Grant yn credu y gall ei hymchwil arloesol helpu pobl awtistig sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad at driniaeth pan maent yn sâl. Mae hi hefyd yn gobeithio y bydd yn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i ddeall y gwahaniaethau rhwng cleifion awtistig ac anawtistig yn well.
Meddai Dr Grant:
"Mae cymaint o gamddealltwriaeth am awtistiaeth ac anghenion pobl awtistig, rwy'n gwneud popeth y gallaf i chwalu'r mythau niweidiol. Rwyf wrth fy modd bod ein gwaith wedi'i gydnabod gan Sense ac i gael fy enwi'n Ymgyrchydd y Flwyddyn.
"Mae arnom angen gofal mamolaeth sy'n bodloni gofynion pobl awtistig yn well ac rwy'n credu gall ein hymchwil wneud pobl awtistig yn fwy gwybodus am arwyddion rhybudd yn ystod beichiogrwydd, megis gwaedu. Rydw i hefyd yn gobeithio y bydd yn helpu staff mewn gwasanaethau mamolaeth drwy roi adnoddau iddynt rannu â chleifion.
"Mae'r problemau mae pobl awtistig yn eu hwynebu yn real. Dywedodd deg o bobl wrthyf eu bod ar fin rhoi genedigaeth, ond nad oedd staff mamolaeth yn eu credu, oherwydd bod pobl awtistig yn aml yn arddangos poen mewn ffordd wahanol. Cafodd un person yn fy astudiaeth amser anodd iawn wrth iddi ddioddef camesgoriad; roedd y sefyllfa mor ddrwg yr oedd hi'n gwaedu am chwe mis ac roedd hi'n poeni am gymhlethdodau, ond nid oedd hi'n gallu wynebu mynd yn ôl i'r ysbyty.
"Nid ydym yn gofyn am newidiadau mawr na rhai drud. Byddai credu adroddiadau o boen yn gwella profiadau o roi genedigaeth yn fawr iawn. Byddai diffodd y golau mawr a defnyddio golau bach yng nghornel ystafell, neu ddiffodd sŵn bîp rheolaidd y monitor a'i wylio yn lle hynny, wneud i bobl deimlo'n llawer mwy cyfforddus."
Meddai Richard Kramer, Prif Weithredwr Sense:
"Mae Dr Aimee Grant wedi cymryd profiad personol anodd iawn ac wedi'i ddefnyddio i ysbrydoli ymchwil a fydd yn newid bywydau - ac o bosib yn achub bywydau - ar gyfer llawer o bobl awtistig. Mae ei fideos am feichiogrwydd pobl awtistig wedi tawelu meddyliau miloedd o wylwyr ac mae'r ffordd y mae hi'n cynyddu ymwybyddiaeth yn y proffesiwn meddygol o anghenion pobl awtistig yn ardderchog. Mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi mai hi yw Ymgyrchydd y Flwyddyn Sense."