Mae ymchwilwyr o brifysgolion Abertawe a Deakin wedi canfod bod anifeiliaid y môr, gan gynnwys mamaliaid, adar ac ymlusgiaid, yn nofio mewn dyfnderoedd perthynol tebyg wrth deithio, a phan nad ydynt yn bwyta, i arbed egni.
Bu Dr Kimberley Stokes, yr Athro Graeme Hays a Dr Nicole Esteban o brifysgolion Abertawe a Deakin yn arwain ymchwil ar draws chwe sefydliad mewn pum gwlad, gan gymharu dyfnderoedd nofio sawl rhywogaeth o grwbanod y môr, pengwiniaid a morfilod. Roeddent i gyd yn teithio mewn dyfnderoedd o’r arwyneb a oedd yn cyfateb i deirgwaith maint eu cyrff er mwyn nofio yn y man delfrydol sy'n golygu bod llai o donnau'n cael eu ffurfio ar yr arwyneb, gan leihau'r pellter fertigol a deithir.
Mae rhai anifeiliaid lled-ddyfrol, megis mincod, yn nofio ar yr arwyneb lle mae'r tonnau a gynhyrchir yn achos gwastraff ynni sylweddol. Fodd bynnag, disgwylir i adar, mamaliaid ac ymlusgiaid sy'n teithio pellteroedd mawr dros eu bywydau addasu i leihau'r ynni a ddefnyddir wrth deithio, yn enwedig ar deithiau hir.
Mae wedi bod yn hysbys ers amser bod llusgiant ychwanegol o ganlyniad i greu tonnau'n lleihau pan fo gwrthrych yn teithio mewn dyfnderoedd mwy na theirgwaith ei ddiamedr, ond bu'n anodd cymharu dyfnderoedd teithio anifeiliaid gwyllt oherwydd problemau wrth eu holrhain.
Yn yr astudiaeth newydd hon a gyhoeddwyd yn Proceedings of the National Academy of Sciences (PNAS), cofnodwyd dyfnderoedd nofio agos at yr arwyneb ar gyfer pengwiniaid bach a chrwbanod pendew o fewn 1.5 centimedr, ynghyd â data symudiad a fideo o gamerâu ar yr anifeiliaid. Cafodd hyn ei gymharu â data o loerenni yn olrhain mudiadau pellter hir crwbanod gwyrdd a data o astudiaethau eraill am bengwiniaid a morfilod. Canfuwyd bod yr anifeiliaid hyn yn nofio mewn dyfnderoedd optimaidd ar sail ffiseg, naill ai wrth 'gymudo' i ardal porthi yn y gwyllt neu'n mudo dros bellteroedd hwy pan nad oeddent yn bwyta. Mae'r addasiad hwn yn helpu i leihau cost teithio i anifeiliaid ac mae ganddo oblygiadau ar gyfer rheoli cadwraeth drwy leihau nifer y marwolaethau o ganlyniad i wrthdaro â chychod a sgil-ddalfa wrth bysgota.
Meddai Dr Kimberley Stokes o Brifysgol Abertawe, prif awdur yr astudiaeth:
"Wrth gwrs bod enghreifftiau lle mae ffactorau eraill yn dylanwadu ar ddyfnder nofio anifail, er enghraifft chwilio am ysglyfaeth, ond roedd hi'n gyffrous sylweddoli bod yr holl enghreifftiau a gyhoeddwyd o anifeiliaid y môr sy'n anadlu aer, pan nad oeddent yn bwyta, yn dilyn y patrwm a ragfynegwyd. Yn anaml mae hyn wedi cael ei gofnodi oherwydd yr anhawster wrth gasglu data am ddyfnder gan anifeiliaid sy'n mudo dros bellteroedd hir, felly roedd hi'n wych cael digon o enghreifftiau i ddangos perthynas gyffredin rhwng dyfnder nofio a maint cyrff mewn anifeiliaid ar draws y sbectrwm maint, o 30 cm i oddeutu 20 m o hyd."
Gellir darllen yr astudiaeth lawn yma.