Mae teulu bellach yn dathlu cyflawniad academaidd cyfunol - pedwar doctor sydd oll wedi graddio o Brifysgol Abertawe. Am gyflawniad!
Dr Matthew Kelly yw'r aelod diweddaraf o'i deulu i gael y teitl ar ôl ennill ei radd PhD mewn Daearyddiaeth Economaidd mewn seremoni a gynhaliwyd ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe.
Ymunodd rhieni Matthew, yr Athrawon Steven a Diane Kelly o'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd â Matthew ar y llwyfan wrth iddo dderbyn ei ddyfarniad.
Cwrddodd y pâr ym Mhrifysgol Abertawe ym 1979 pan ddechreuon nhw astudio ar gyfer eu graddau PhD mewn Geneteg. Ar ôl priodi a sefydlu gyrfaoedd academaidd llwyddiannus, bu ganddynt swyddi academaidd ym Mhrifysgolion Sheffield ac Aberystwyth cyn dychwelyd i Abertawe yn 2004 pan sefydlwyd yr Ysgol Feddygaeth - penodwyd yr Athro Steven Kelly'n arweinydd ymchwil a phenodwyd yr Athro Diane Kelly'n Ddarllenydd i ddechrau.
Roeddent wrth eu boddau pan gyflwynodd eu mab hynaf Tom gais am le yn yr Ysgol Feddygaeth, gan fynd ymlaen i fod y trydydd Dr Kelly pan fu ymhlith y garfan gyntaf erioed o fyfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion i raddio yn 2014 o Abertawe. Mae Tom bellach yn feddyg teulu yng Nghaerdydd.
Yn y cyfamser, mae Matthew wedi dilyn eu holion troed, gan ddod i Abertawe i astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth. Mae ei ymchwil ym maes Cyllid yr Hinsawdd wedi arwain at ei rôl bresennol ym Manc Datblygu Cymru.
Meddai'r Athro Steven Kelly: "Mae'n bleser mawr gen i weld Matthew yn ymuno â ni fel Dr Kelly arall. Mae'n wych ein bod ni i gyd wedi cael y cyfle hwn i astudio yn Abertawe ac mae gan bob un ohonon ni atgofion melys am fywyd yn y ddinas a'r Brifysgol.
Fyddwn i ddim erioed wedi rhagweld hyn pan ddes i'r campws i ddechrau fel myfyriwr israddedig. Yn sicr mae bywyd yn llawn syrpreisys!"
Meddai'r Athro Diane Kelly: "Mae'n bleser mawr gen i weld Matthew yn dathlu ei ddyfarniad PhD. Rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn fel teulu i gyrraedd y garreg filltir hon. Mae gan Steve a minnau atgofion arbennig iawn am Brifysgol Abertawe ac mae wedi bod yn wych gallu rhannu hyd yn oed mwy o atgofion â'n dau fab."
Dywedodd Dr Matthew Kelly: "Hoffwn i ddweud diolch yn fawr iawn i Brifysgol Abertawe gan na fyddwn i’n bodoli hebddi! Fy rhieni i oedd y genhedlaeth gyntaf yn eu teuluoedd i fynd i'r Brifysgol ac mae fy mrawd i a minnau wedi elwa o hyn mewn llu o ffyrdd. Mae wedi bod yn fraint astudio yn Abertawe ac rwy'n ddiolchgar am y cyfleoedd mae wedi'u rhoi i mi - diolch o galon Brifysgol Abertawe!”
Bydd cysylltiad y teulu â Phrifysgol Abertawe'n parhau. Bellach mae gan Steven a Diane rolau Emeritws yn y Gyfadran a byddant yn ymwneud â sawl papur ymchwil proffil uchel ym maes sytocromau microbaidd P450 ac ymwrthedd gwrthffyngol.