Bydd gêm fwrdd newydd o'r enw Legless in London, yn seiliedig ar ymchwil gan hanesydd o Abertawe, yn dod â diwylliant a hanes anabledd yn fyw mewn ffordd bwysig a hygyrch.
Mae'r gêm yn galluogi chwaraewyr i gael profiad o'r heriau a’r cyfleoedd yr oedd pobl y trychwyd eu his-aelodau yn eu hwynebu yn Llundain Fictoraidd.
Drwy'r gêm, mae pob chwaraewr yn chwarae fel trychedig ac yn ceisio cyflawni nodau bywyd fel prynu eiddo, dod o hyd i gariad neu gyflawni uchelgeisiau personol. Mae chwaraewyr yn llywio eu ffordd drwy strydoedd Fictoraidd, y farchnad aelodau prosthetig, y clafdy, a lleoliadau amrywiol sy'n rhoi cyfleoedd iddynt gyflawni eu nodau.
Mae'r gêm yn seiliedig ar ymchwil gan Dr Ryan Sweet, arbenigwr mewn hanes anabledd, a chan ei lyfr Prosthetic Body Parts in Nineteenth-Century Literature and Culture. Mae llawer o gymeriadau, aelodau prosthetig, lleoliadau, a senarios y gêm yn cael eu hysbrydoli gan ei ymchwil.
Cynhyrchir y gêm gan Focus Games ar y cyd â Dr Sweet a Phrifysgol Abertawe, a chyhoeddir y newyddion i gyd-fynd â Mis Hanes Anabledd, a gynhelir tan 20 Rhagfyr 2024.
Gwnaeth y tîm ddylunio’r gêm mewn ffordd gynhwysol, gan ymgysylltu'n agos â grŵp ffocws o aelodau'r gymuned anabl, gan gynnwys Celfyddydau Anabledd Cymru.
Mae hygyrchedd hefyd wrth wraidd y dyluniad gyda nodweddion fel:
- Rheolau hawdd eu deall.
- Ffontiau hygyrch mawr a gwahaniaethiad deuol ar ddarnau'r gêm.
- Capsiynau fideo er mwyn esbonio, a fersiynau digidol o asedau'r gêm sy'n addas i ddarllenwyr sgrîn ar gael drwy godau QR a www.leglessinlondon.com.
Meddai Dr Ryan Sweet o Brifysgol Abertawe, dylunydd Legless in London:
"Nod y gêm yw rhoi cynrychioliadau mwy cadarnhaol a chynnil o bobl anabl ac anabledd mewn gemau pen bwrdd.
Bu hanes anabledd heb ei gynrychioli'n ddigonol mewn gemau pen bwrdd hyd yn hyn ac, yn yr ychydig gemau lle mae pobl anabl yn cael eu portreadu, mae'r rhain yn aml yn broblemus ac yn seiliedig ar stereoteipiau.
Bydd y gêm yn ffordd hwyl a gafaelgar o helpu chwaraewyr i brofi bywyd fel trychedig a myfyrio ar sut roedd pobl anabl ac yn cael eu trin mewn cymdeithas a sut maent yn cael eu trin heddiw.
Erbyn hyn rydyn ni wedi profi'r gêm gyda thros 80 o ddefnyddwyr, ac rydyn ni wedi cael adborth unfrydol gadarnhaol."
Mae Legless in London wedi cael ei rhyddhau a gellir ei harchebu ymlaen llaw cyn ei danfon ym mis Chwefror 2025. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.leglessinlondon.com
Mae'r gêm yn ddarostyngedig i gytundeb masnacheiddio rhwng y Brifysgol a Focus Games Ltd. Fe'i cefnogwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.