Llun o Holly Williams yn gwisgo cap a gŵn ar ddiwrnod ei seremoni raddio.

Mewn stori dorcalonnus ond llawn ysbrydoliaeth am wydnwch, mae menyw wedi graddio yn dilyn marwolaeth drasig ei gŵr ychydig wythnosau cyn iddi fynd yn ôl i'w hastudiaethau ar ôl absenoldeb mamolaeth.

Dechreuodd Holly Williams, 32, o Bort Talbot, ei hyfforddiant nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe yn 2020 yn ystod y pandemig.

"Roedd hi'n anodd i mi ganolbwyntio ar ddarlithoedd ar-lein. Roeddwn i hefyd yn poeni y byddwn yn dal Covid-19 wrth weithio a'i drosglwyddo i fy nheulu. Serch hynny, pan roeddwn i ar absenoldeb mamolaeth roeddwn i'n gallu canolbwyntio ar fy meichiogrwydd a'm traethawd olaf," meddai Holly. "Roeddwn i'n ffodus i gael llawer o help gan fy ngŵr a'm mam, ac oherwydd hynny roedd hi'n haws cydbwyso popeth.

Ar ôl eisiau bod yn nyrs ers oedran ifanc, roedd Holly yn benderfynol o barhau â'i hastudiaethau ar ôl genedigaeth ei thrydydd plentyn.

Yn anffodus, ym mis Ionawr, bum wythnos cyn iddi fwriadu dychwelyd, wynebodd Holly dorcalon annychmygadwy pan fu farw ei gŵr, Jordan Lee Powell, mewn damwain beic modur y tu allan i'w cartref.

"Roedd e'n gyfnod anodd iawn, ond fe wnaeth fy mhlant fy nghadw i fynd. Roeddwn i eisiau dangos iddyn nhw, pa bynnag heriau rydych chi'n eu hwynebu, nad oes rhaid iddyn nhw eich trechu. Yn hytrach, gallan nhw fod yn ysbrydoliaeth ar gyfer yr hyn sy'n wirioneddol bwysig.” meddai Holly.

"Yr hyn oedd yn bwysig i mi oedd cwblhau fy nghwrs fel y gallwn i gael swydd roeddwn i'n ei mwynhau, lle gallwn i hefyd adeiladu dyfodol mwy disglair ar gyfer fy nheulu."

Gyda chefnogaeth ei hanwyliaid, yn enwedig ei mam, Paula Williams, ailddechreuodd Holly ei hastudiaethau, gan gynnal ei graddau a lleoliad gwaith yn Uned Ddadwenwyno Calon Lan yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

"Roedd yr arweinwyr clinigol a'r staff eraill mor gefnogol ac yn deall fy sefyllfa. Roedden nhw'n gwneud i mi deimlo'n ddigon cyfforddus i fod yn agored a siarad am unrhyw beth a oedd yn fy mhoeni."

Yn union fel yr oedd hi'n dechrau ailadeiladu ei bywyd fel mam sengl i dri — Jayden-Mark, 10, Isabelle, 6, ac Ivy-rose, un oed — roedd Holly yn wynebu caledi anhygoel arall: marwolaeth ei ffrind annwyl.

"O fewn chwe mis, roeddwn i wedi colli dau o'r bobl agosaf yn fy mywyd," rhannodd Holly, "ond, unwaith eto, roeddwn i'n lwcus i gael pobl i bwyso arnyn nhw."

"Roedd fy mentor academaidd ym Mhrifysgol Abertawe, Sarah Tait, yn gefnogol iawn, fel yr oedd fy ngoruchwyliwr, Lauri Morris, yn Ysbyty Cefn Coed Gwelfor. Roedden nhw'n anhygoel, bob amser yn galw heibio i wneud yn siŵr fy mod i'n iawn a gweld sut roeddwn i'n ymdopi â phopeth ac yn ei brosesu."

O ganlyniad i'w holl waith caled, cyflawnodd Holly ei nod yr wythnos hon.

Graddiodd gyda BSc mewn Nyrsio (Iechyd Meddwl) yn ystod seremoni ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, wrth i'w mam wylio'r foment arbennig hon o'r gynulleidfa.

Er gwaethaf ymdeimlad o dristwch i'r rhai hynny a oedd yn absennol o'r dathliadau, mae Holly yn hynod falch o'i thaith, sydd wedi ei harwain i sicrhau swydd yn Ward F yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

Mae'n gobeithio, drwy rannu ei stori, y gall ysbrydoli eraill i beidio â rhoi'r gorau iddi.

"Siaradwch â rhywun a cheisiwch gymorth pan fydd ei angen arnoch. Daliwch ati. Gydag ymddiriedaeth a dyfalbarhad, gall pethau anhygoel ddigwydd, hyd yn oed ar ôl colled fawr."

Rhannu'r stori