Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu doethuriaeth er anrhydedd i'r biolegydd bywyd gwyllt, y gwneuthurwr ffilmiau, y cyflwynydd, a'r archwiliwr Lizzie Daly.
Cyflwynwyd yr anrhydedd yn ystod seremoni raddio'r gaeaf y Brifysgol ddydd Mercher 11 Rhagfyr, gan gydnabod ei chyfraniadau rhagorol i gadwraeth, cyfathrebu gwyddonol ac archwilio.
Dechreuodd taith Lizzie mewn bioleg bywyd gwyllt pan oedd hi'n chwe mlwydd oed a phenderfynodd ei bod am astudio eliffantod. Gwnaeth y brwdfrydedd cynnar hwn ddylanwadu ar ei llwybr academaidd a phroffesiynol. Ar ôl cwblhau ei gradd israddedig ym Mhrifysgol Caerwysg, dilynodd Lizzie radd meistr drwy ymchwil ym Mhrifysgol Bryste ac ar hyn o bryd mae'n cwblhau gradd PhD ran-amser ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil ddoethurol yn defnyddio technoleg tagio i astudio symudiad anifeiliaid gwyllt mewn tirweddau sy'n newid. Mae Lizzie hefyd yn Gymrawd Addysgu Academaidd ac Allgymorth ym Mhrifysgol Abertawe.
Fel anturiaethwr a gwyddonydd, mae Lizzie wedi gwthio ffiniau archwilio, gan ymgymryd â nifer o deithiau mewn amgylcheddau eithafol, gan gynnwys Cylch yr Arctig. Mae ei gwaith yn y rhanbarthau anghysbell hyn yn cynnwys ffilmio bywyd gwyllt fel mwsg-geirw a morfilod danheddog wrth gofnodi effeithiau hinsawdd begynol sy'n newid. Yn 2022, cwblhaodd daith lethol, gan redeg 140km ar ei phen ei hun drwy Gylch Arctig y Ffindir, gan wynebu tymheredd mor isel â -35 °C.
Mae cyflawniadau Lizzie yr un mor nodedig ym maes cyfleu gwyddoniaeth, gan ddefnyddio ei sgiliau fel cyflwynydd a gwneuthurwr ffilmiau i ddod â straeon bywyd gwyllt i gynulleidfaoedd byd-eang. Yn 2019, gwnaeth ei chyfarfyddiad feirol â slefren wythgoes enfawr wrth blymio oddi ar arfordir Cernyw ddangos ei hymrwymiad i gadwraeth forol. Ers hynny, mae hi wedi cynnal digwyddiadau mawr, gan gynnwys Gwobrau'r Gronfa Lles Anifeiliaid Ryngwladol (yr IFAW) a Gwobrau Panda yn Wildscreen, ac wedi cyfweld â ffigyrau blaenllaw fel Al Gore a Lewis Pugh yn ystod uwchgynhadledd hinsawdd COP26.
Mae ei chredydau ar y sgrîn yn cynnwys BBC One, BBC Wales, Animal Planet, a mwy. Mae ei phrosiectau diweddar yn cynnwys cyfres sydd ar ddod, Deep Dive North America, lle mae'n cydweithio â sefydliadau ymchwil forol yr Unol Daleithiau i archwilio bywyd morol Gogledd America.
Yn ogystal â'i gwaith yn y cyfryngau, mae Lizzie yn eiriolwr dros gadwraeth, gan wasanaethu fel llysgennad ar gyfer y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Sefydliad Jane Goodall y DU, a Gŵyl Wyddoniaeth Norwich. Hefyd, hi yw noddwr benywaidd cyntaf ORCA, sefydliad sy'n ymroddedig i gadwraeth mamaliaid morol.
Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd Lizzie ei llyfr bywyd gwyllt cyntaf i blant, Life in the Wild, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl sy'n dwlu ar fyd natur.
Wrth dderbyn ei doethuriaeth er anrhydedd, meddai Lizzie: "Mae’r wobr hon yn anrhydedd anhygoel gan fod Prifysgol Abertawe wedi bod yn rhan enfawr o’m taith fel gwyddonydd, ac hefyd fel rhywun sydd â brwdfrydedd mawr dros y byd naturiol ac eisiau arddangos yr hyn sydd gennym yma yng Nghymru. Mae’n anrhydedd go iawn ac rwy’n teimlo’n eithriadol o lwcus i’w chael."