Lee Trundle

Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu gradd anrhydeddus i’r eicon pêl-droed o glwb Dinas Abertawe, Lee Trundle.

Cyflwynwyd yr anrhydedd yn ystod seremoni raddio'r gaeaf y Brifysgol ddydd Llun 9 Rhagfyr, gan anrhydeddu ei etifeddiaeth barhaus a'i ddylanwad sylweddol ar y ddinas a'i chymuned.

Dros bedair blynedd gofiadwy yn chwarae i Ddinas Abertawe rhwng 2003 a 2007, creodd Lee argraff arbennig ar gefnogwyr gyda'i greadigrwydd, ei sgil a'i allu i sgorio goliau. Sgoriodd 78 gôl drawiadol mewn 146 gêm. Bu’n nodweddiadol am ei ddawn a'i berfformio ar y cae, gan gipio calonnau cefnogwyr ac ennill lle unigryw yn niwylliant pêl-droed Prydain. Bu Lee’n ymddangos yn rheolaidd ar raglenni teledu fel Soccer AC, a daeth yn un o'r chwaraewyr mwyaf adnabyddus y tu allan i'r Uwch-gynghrair.

Ganwyd Lee yn Huyton, Lerpwl, a dechreuodd ei daith bêl-droed ymhell o'r sbotolau, gan chwarae yn system ddi-gynghrair Lloegr gyda chlybiau a oedd yn cynnwys Burscough, Chorley, a Stalybridge Celtic. Yn 2000, symudodd i dîm Uwch-gynghrair Cymru Y Rhyl a fu’n nodi dechrau ei gysylltiad â phêl-droed Cymru. Ar ôl gadael Dinas Abertawe, ymunodd â chlwb Dinas Bryste, cafodd gyfnodau benthyg yn Leeds United a dychwelodd i Abertawe, ac yn ddiweddarach chwaraeodd i Gastell-nedd, lle sgoriodd 26 gôl mewn 59 gêm.

Er i Lee ymddeol o bêl-droed proffesiynol yn 36 oed, oherwydd ei angerdd am y gêm dychwelodd i'r cae gyda chlwb Tref Llanelli, lle enillodd ddyrchafiadau gefn wrth gefn. Ers hynny mae ei yrfa barhaol wedi cynnwys ymddangosiadau i glybiau Cymru fel Sir Hwlffordd, Trefelin BGC, Rhydaman, a Mumbles Rangers, gan gadarnhau ei etifeddiaeth fel un o arweinwyr pêl-droed Cymru.

Ym mis Gorffennaf 2013, cymerodd gyrfa Lee gyfeiriad arall pan ddychwelodd i Stadiwm y Liberty ar y pryd, lle cafodd ei benodi'n Llysgennad Clwb Dinas Abertawe, rôl y mae ef wedi bod wrth ei fodd ynddi ers hynny. Mae ei ddiffuantrwydd a'i frwdfrydedd, yn enwedig wrth weithio gyda'r gymuned, yn cael effaith gadarnhaol ar y prosiectau sy'n cael eu cyflawni ar draws y ddinas a thu hwnt.

Wrth dderbyn ei ddyfarniad er anrhydedd, meddai Lee: "Mae'n anrhydedd llwyr derbyn y wobr uchel ei bri hon a hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb ym Mhrifysgol Abertawe. Pan symudais i Abertawe am y tro cyntaf yn 2003, ni allwn fyth fod wedi dychmygu y byddai'r ddinas hon yn gartref i mi ac y byddwn yn teimlo cymaint o gysylltiad a chariad tuag at y lle. Er y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn fy adnabod am fy nghampau ar y cae pêl-droed, mae fy ymrwymiad i Abertawe a'i chymuned yn mynd yn llawer dyfnach. Rwy'n falch iawn o alw'r ardal hon yn gartref i mi bellach ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio yn y gymuned a'r Brifysgol wrth symud ymlaen."

Rhannu'r stori