Lansio'r bartneriaeth: (o'r chwith i'r dde) Deeptee K Bungaree Gooheeram, Uchel Gomisiwn y DU; Dhiren Ponnusamy, Medine; yr Athro Paul Boyle, Prifysgol Abertawe; Charlotte Pierre, Uchel Gomisiynydd y DU; yr Athro Lisa Wallace, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe; yr Athro Jayne Cutter, Ysgol Iechyd

Lansio'r bartneriaeth: (o'r chwith i'r dde) Deeptee K Bungaree Gooheeram, Uchel Gomisiwn y DU; Dhiren Ponnusamy, Medine; yr Athro Paul Boyle, Prifysgol Abertawe; Charlotte Pierre, Uchel Gomisiynydd y DU; yr Athro Lisa Wallace, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe; yr Athro Jayne Cutter, Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Prifysgol Abertawe; yr Athro Dhanjay Jhurry, Uniciti.

Rhaglen gradd nyrsio atodol sydd newydd ddechrau yw'r un cyntaf o lawer o fuddion y disgwylir iddynt ddeillio o bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Abertawe ac Uniciti, hyb addysg rhyngwladol ym Mauritius sydd newydd gael ei lansio'n swyddogol. 

Mae'r rhaglen yn galluogi nyrsys ym Mauritius sydd eisoes wedi ennill diploma i astudio ar raglen a gyflwynir gan ddarlithwyr o Abertawe a fydd yn cynnwys dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Yn y pen draw, byddant yn ennill gradd anrhydedd mewn nyrsio gan gynyddu eu statws a'u sgiliau. 

Mae'n enghraifft o sut bydd y bartneriaeth newydd yn gwella gofal iechyd ac yn cryfhau Uniciti a Phrifysgol Abertawe fel ei gilydd.

Gofynnodd tîm Uniciti i Brifysgol Abertawe fod yn bartner gofal iechyd iddynt oherwydd ei chryfder adnabyddus ym maes addysg gofal iechyd.  Mae'r rhaglen Nyrsio yn Abertawe yn un o'r 10 orau yn y DU ac mae'r Ysgol Feddygaeth yn y 5ed safle yn y DU yn ôl The Sunday Times.

Nod Uniciti yw dod yn ganolfan rhagoriaeth ranbarthol am ddatblygu sgiliau arbenigol ym maes gofal iechyd, nid yn unig ar ynys Mauritius ond ar gyfer cyfandir Affrica cyfan ac ardal Cefnfor India.

Mae dwy flynedd o gynllunio a chydweithio agos wedi arwain at y rhaglen newydd a'r bartneriaeth ehangach, sy’n cynnwys cyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) a PGCert mewn Addysg ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol.  Cafodd y bartneriaeth ei lansio’n swyddogol yn ystod ymweliad diweddar gan dri o arweinwyr Prifysgol Abertawe – yr Is-ganghellor, y Deon Cysylltiol Rhyngwladol ar gyfer Meddygaeth a Gwyddor Bywyd a Phennaeth yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Yn ystod yr ymweliad, bu’r tîm yn ymweld ag ysbytai lleol a chawsant gyfle i drafod anghenion gofal iechyd ac addysg yn uniongyrchol ag arweinwyr nyrsio ym Mauritius. 

Mae hyn yn cyd-fynd ag un o flaenoriaethau allweddol Uniciti a Phrifysgol Abertawe wrth iddynt ddatblygu eu rhaglenni ar y cyd, sef sicrhau y byddai’r cynnwys yn diwallu anghenion pobl y rhanbarth.  Er enghraifft, mae gan Mauritius un o’r cyfraddau diabetes uchaf yn y byd felly cafodd hyn ei ystyried wrth gynllunio DPP. 

Mae’r rhaglen atodol wedi cael ei chymeradwyo gan Gyngor Nyrsio Mauritius a’r Cyngor Addysg Uwch, ac mae rhaglenni eraill yn mynd drwy’r broses gymeradwyo ar hyn o bryd.  Uchelgais y bartneriaeth yw ehangu’r portffolio o raglenni ar draws gofal iechyd a meddygaeth yn y blynyddoedd i ddod. 

Dyma rai o’r buddion sydd eisoes yn cael eu cynnig gan y bartneriaeth:

  • Y rhaglen atodol amser llawn, blwyddyn o hyd, sydd newydd ddechrau, gan uwchraddio diploma nyrsio i radd. Mae hyn yn galluogi nyrsys sydd eisoes yn gweithio i wella eu sgiliau heb gael toriad mawr yn eu gyrfaoedd.
  • Tystysgrif ôl-raddedig mewn Addysg ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol – bydd y cwrs rhan-amser hwn yn gwella sgiliau a statws nyrsys o Mauritius a’r rhanbarth ehangach sydd eisoes wedi ennill gradd, gan eu galluogi i addysgu myfyrwyr ar raglenni nyrsio.
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus i nyrsys – bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant mewn meysydd penodol, megis gofal diabetes, sy’n targedu anghenion poblogaeth y rhanbarth.

Effaith fwyaf amlwg y rhaglenni newydd hyn fydd cryfhau arweinyddiaeth gofal iechyd a hybu proffil nyrsio ym Mauritius a’r gwledydd cyffiniol.  Yn fwy cyffredinol, bydd y bartneriaeth yn meithrin cydweithio rhyngwladol rhwng Mauritius ac Abertawe, gan gynnig potensial am gyfnewid staff a myfyrwyr, yn ogystal â chyfrannu at nodau Datblygu Cynaliadwy’r CU ym maes gofal iechyd.

Gall y bartneriaeth helpu i atgyfnerthu statws Uniciti fel canolbwynt rhanbarthol o bwys ar gyfer hyfforddiant.

I Brifysgol Abertawe, bydd yn creu refeniw i atgyfnerthu’r sefydliad, yn ogystal â chreu cyfleoedd i ddysgu gan bartneriaid ym Mauritius a’r rhanbarth.

Tanlinellwyd pwysigrwydd y fenter hon gan Dhiren Ponnusamy, prif swyddog gweithredol Medine, y sefydliad sy’n gyfrifol am Hyb Addysg Rhyngwladol Uniciti:

“Mae’n bleser mawr gennym groesawu Prifysgol Abertawe i Hyb Addysg Rhyngwladol Uniciti. Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein huchelgais i hyrwyddo Mauritius fel canolbwynt rhagoriaeth addysgol yn y rhanbarth. Drwy gynnig rhaglenni academaidd uwch a chyrsiau DPP sy’n diwallu anghenion newidiol gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, rydym yn cyfrannu at ddatblygiad gweithwyr cymwysedig talentog sy’n gallu cael effaith gadarnhaol, yn lleol ac yn rhanbarthol.”

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

“Mae’n fraint gennym sefydlu ein hunain ym Mauritius drwy Hyb Addysg Rhyngwladol Uniciti, sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr at wireddu’r prosiect hwn.   Drwy’r fenter hon, gallwn ddefnyddio ein harbenigedd academaidd er budd pobl Mauritius a’r rhanbarth ehangach, drwy gyfrannu at hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chymwysedig, drwy raglenni sy’n seiliedig ar sgiliau modern ac arloesol.”

Roedd Charlotte Pierre, Uchel Gomisiynydd Prydain i Mauritius, yn bresennol yn y lansiad a dywedodd mewn postiad ar X:

"Rydym yn falch o lansio partneriaeth newydd rhwng @Prif_Abertawe a @medineducation. Mae Prifysgol Abertawe yn cyflwyno cymhwyster nyrsio a gydnabyddir yn rhyngwladol i Mauritius, gan gynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr ym Mauritius. Mae hwn yn barhad y Bartneriaeth Fasnach Strategol rhwng y DU a Mauritius".

Rhannu'r stori