
70 mlynedd o ddaearyddiaeth yn Abertawe - daeth dros gant o bobl i'r ddarlith a oedd ar agor i bawb.
Mae arbenigwr byd-eang ar danau gwyllt, Yr Athro Stefan Doerr, wedi traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe am ei waith, gan nodi 70 mlynedd o adran ddaearyddiaeth y Brifysgol.
Y pwnc oedd ‘Climate change and the global ‘wildfire crisis’ – unravelling myths from realities’.
Daeth dros gant o bobl i'r ddarlith a oedd ar agor i bawb.
Mae'r Athro Doerr yn gweithio yn adran ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe. Mae'n Athro mewn gwyddor tanau gwyllt, gan astudio effeithiau tân ar dirweddau, priddoedd a dŵr, ynghyd â phatrymau a thueddiadau tân byd-eang. Ef yw Prif Olygydd International Journal of Wildland Fire.
Fel awdurdod byd-eang ar danau gwyllt, mae ef wedi cynnig sylwadau arbenigol yn eang yng nghyfryngau'r DU ac yn rhyngwladol ar y tanau yn Los Angeles a lleoedd eraill.
Dyfarnwyd gwobr Murchison nodedig iddo'n ddiweddar gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol ar gyfer ei arbenigedd byd-eang mewn deall tanau gwyllt.
Dros y 70 mlynedd diwethaf, mae rhwng 20,000 a 25,000 o fyfyrwyr wedi graddio o adran ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe.
Yn ei diwrnodau cynnar, roedd diddordebau'r adran yn canolbwyntio'n bennaf ar ddaearyddiaeth ffisegol a chartograffeg. Heddiw, mae ei diddordebau ymchwil yn fwy amrywiol ac maent yn amrywio o ddaearyddiaeth ddiwylliannol, gymdeithasol ac economaidd i'r hinsawdd a newid amgylcheddol, rhewlifeg ac arsylwi ar y ddaear.
Mae'r adran bellach yn cynnig cynlluniau Daearyddiaeth Ffisegol a Daearyddiaeth Ddynol gwahanol ynghyd â Geowyddoniaeth Amgylcheddol a Gwyddor yr Amgylchedd a'r rhaglenni Argyfwng Hinsawdd. Mae'n cynnig cynlluniau ôl-raddedig a addysgir ynghyd â chanran sylweddol o fodiwlau iaith Gymraeg.
Mae cyrsiau maes yn un o uchafbwyntiau astudio Daearyddiaeth o hyd. Dros y blynyddoedd, mae myfyrwyr Abertawe wedi symud ymlaen i Ddyfnaint, Cernyw, Ynys Manaw, Iwerddon, Awstria, Mallorca, Vancouver, Efrog Newydd a Sikkim. Mewn ychydig fisoedd, bydd myfyrwyr Daearyddiaeth yn mynd i Wlad yr Iâ, Ynysoedd Scilly, Berlin, Vancouver a rhanbarth Eifel yr Almaen.
Meddai Dr Angharad Closs Stephens, pennaeth adran ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe:
“Mae tanau gwyllt yn un o brif broblemau ein hoes ac mae'r ddarlith hon yn gyfle unigryw i'r cyhoedd glywed gan un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd.
Darlith ac ymchwil yr Athro Doerr yw'r enghraifft ddiweddaraf o sut – dros y 70 mlynedd diwethaf – mae daearyddiaeth yn Abertawe wedi bod yn canolbwyntio ar broblemau hynod bwysig.
O'r 1960au, pan chwaraeodd daearyddwyr Abertawe ran ganolog ym Mhrosiect Cwm Tawe Isaf, sef menter arloesol a adenillodd yr ardal ar ôl ei difrod ôl-ddiwydiannol, gan baratoi'r ffordd ar gyfer y gwaith adfer rydym yn ei weld yno heddiw, i brosiectau sy'n gwella rhagfynegiadau'r hinsawdd a'r tywydd, a deall beth sy'n digwydd mewn rhanbarthau pegynol heddiw, mae ein gwaith yn cael effaith yn lleol ac yn fyd-eang”.
Mae'r adran ddaearyddiaeth yn ymgymryd ag ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang drwy amrywiaeth o blatfformau a mentrau, gan gynnwys Canolfan NERC CLASSIC mewn Arsylwi ar y Ddaear, taith Jotunheimen, The Millennium Project, y Ganolfan ar gyfer Ymchwil i Bolisi Mewnfudo, Partneriaeth Ymchwil Coedwigoedd Glaw De-ddwyrain Asia yn Nanum, y Sefydliad Ymchwil i Weithredu ar yr Hinsawdd ac, yn fwyaf diweddar, y Ganolfan ar gyfer Ymchwil i Danau Gwyllt a arweinir gan yr Athro Stefan Doerr.