Dwy ddynes yn sefyll o flaen adeilad.

Dr Julia Peconi gyda Dr Pamela Mathura yn ystod ei hymweliad â Phrifysgol Abertawe.

Gallai disgyblion ysgol yng Nghymru a Chanada elwa o well diogelwch yn erbyn yr haul yn y dyfodol, diolch i bartneriaeth drawsiwerydd newydd.

Mae'r ymchwilydd Dr Julie Peconi o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe nawr yn gweithio gyda chydweithwyr yn Alberta i rannu gwybodaeth a datblygu strategaethau i helpu i wella diogelwch yn yr haul mewn ysgolion cynradd yn y ddwy wlad.

Digwyddodd y cydweithrediad ar ôl i Dr Peconi dderbyn Grant Partneriaeth Cymru Fyd-eang, y mae hi wedi'i ddefnyddio i archwilio gweithgareddau cydweithio gyda chyd-ymchwilwyr diogelwch yn yr haul yn ei gwlad enedigol, Canada.

Ar ôl ymweld ag Alberta ei hun, mae hi wedi lletya Dr Pamela Mathura, o Wasanaethau Iechyd Alberta ac Adran Feddygaeth Prifysgol Alberta, am ymweliad ag Abertawe lle'r oedd y ddwy ohonynt wedi parhau i lunio cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Dr Peconi yw Prif Ymchwilydd Sunproofed, astudiaeth gwmpasu sy'n defnyddio cyfuniad o ddulliau i ymchwilio i ddiogelwch haul mewn ysgolion cynradd yng Nghymru a leolir yn Uned Dreialon Abertawe. Datgelodd fod llai na hanner yr ysgolion wedi rhoi polisi diogelwch haul ar waith i'w disgyblion a bod anghysondeb o ran presenoldeb polisi ledled Cymru. 

Er ei bod yn llawer haws atal canser y croen na'r rhan fwyaf o ganserau eraill, mae un o bob pump o bobl yn debygol o ddatblygu'r clefyd yn ystod eu hoes yn y DU, ac mae'n hysbys bod plentyndod yn adeg hollbwysig er mwyn osgoi gormod o gysylltiad â phelydrau uwchfioled yr haul, sef prif achos canser y croen. 

Meddai: "Pan oeddwn i yn Edmonton roedd modd i mi gyflwyno canfyddiadau astudiaeth Sunproofed i ddermatolegwyr a gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol yn ogystal â thaflu syniadau am y ffyrdd gwahanol y gallem weithio gyda'n gilydd. Mae'r gwaith rydym wedi'i wneud yng Nghymru yn atgyfnerthu'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn Alberta ac mae wedi bod yn wych dod at ein gilydd i rannu arbenigedd."

Meddai Dr Mathura: "Darparodd y daith i Abertawe gyfle i ymgysylltu ag arbenigwr dermatoleg sy'n rhan weithredol o ymgyrchoedd iechyd yr haul yng Nghymru a Chydlynydd Ysgol Iach. Rhannodd y ddau ohonynt ddulliau ymarferol sydd ar waith mewn ysgolion, sy'n cyd-fynd yn agos â'r gwaith rydym wedi'i gwblhau yn ysgolion Edmonton. Mae'r cydweithrediad yn gyfle cyffrous i archwilio potensial cyfuno ymdrechion i gyflawni canlyniadau effeithiol yn y dyfodol."

Mae'r bartneriaeth yn gweld yr ymchwilwyr yn rhannu profiad, offer a dulliau casglu data i wella'r dirwedd ar gyfer diogelwch haul mewn ysgolion cynradd yn y ddwy wlad.

Wrth symud ymlaen, mae'r tîm yn bwriadu datblygu deunydd addysgol ar gyfer yr ystafell ddosbarth i wella gwybodaeth a dealltwriaeth plant o ddiogelwch yn yr haul ac yna astudio effeithiolrwydd ac effaith y caiff y deunyddiau addysgol hyn ar ymddygiadau diogelwch haul myfyrwyr.

Ychwanegodd Dr Peconi, er gwaethaf tystiolaeth glinigol gryf sy'n cefnogi manteision ymddygiadau diogelwch haul o oedran ifanc, mae angen addysg yn benodol o ran y mynegai UV a phryd dylid defnyddio eli haul. 

Meddai: "Mae datblygu arferion a gwybodaeth diogelwch haul yn ystod yr ysgol gynradd yn hanfodol ac mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod rhaglenni mewn ysgolion yn allweddol o ran gwaith atal.

"Roeddwn eisiau gweithio gyda'r tîm yn Alberta oherwydd bod ymchwil yno wedi arwain at ddatblygu a threialu ymyriadau oedd yn dangos gwell parodrwydd diogelwch haul ymysg plant oedran ysgol.

"Trwy ddod â'n harbenigedd a’n gwybodaeth amrywiol am ddiogelwch yn yr haul mewn ysgolion cynradd ynghyd, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu cymryd ymagwedd amlddisgyblaethol at y broblem gymhleth hon. Ein nod yw y bydd yr ymdrech gydweithredol hon yn darparu mwy o wybodaeth ac yn cyrraedd poblogaeth ehangach, gan ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer diogelwch yn yr haul mewn ysgolion cynradd yn y ddwy wlad.

 

Rhannu'r stori