'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin' o Lyfr Du Caerfyrddin (Llyfrgell Genedlaethol Cymru).

'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin' o Lyfr Du Caerfyrddin (Llyfrgell Genedlaethol Cymru).

Mae'r farddoniaeth gynharaf am Myrddin, ar gael i'r cyhoedd am y tro cyntaf ac mae'n datgelu, yn groes i'r gred boblogaidd, nad oedd yn ddewin ond yn fardd ac yn broffwyd â diddordeb mawr yn y byd naturiol.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae tîm o academyddion wedi golygu a chyfieithu dros 100 o gerddi am y dyn chwedlonol, rhai'n dyddio yn ôl i'r 10fed ganrif.

Mae'r cerddi, a gasglwyd o dros 500 o lawysgrifau canoloesol yng Nghymru, wedi cael eu casglu, eu cymharu a'u trefnu ac maen nhw bellach ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan prosiect Barddoniaeth Myrddin.

Mae'r prosiect, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC), yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Meddai Alexander Roberts, Rheolwr Data Ymchwil a'r Dyniaethau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe: “Roedd hi'n bleser pur i dîm y Dyniaethau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe gydweithio â chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd i ddatblygu a chynnal yr adnodd hwn o ysgolheictod digidol mynediad agored.

"Mae Prifysgol Abertawe'n gyffrous ei bod wedi gwireddu'r weledigaeth o ddatblygu fersiwn ddigidol ddwyieithog gyfoes o Farddoniaeth Gymraeg am Myrddin, ond hefyd mae'n blatfform uchel ei broffil a fydd yn galluogi ysgolheigion testunol eraill, yn y Brifysgol ac yn rhyngwladol, i gyflwyno cynnwys tebyg. Bydd cyfarwyddiadau, ffynonellau a chôd ar gael yn fuan ar gymuned data ymchwil agored Prifysgol Abertawe, gan sicrhau hygyrchedd a'r gallu i'w ailddefnyddio i bawb".

Gwnaeth yr academyddion olygu cyfanswm o 102 o gerddi, gan gynnwys 4,450 o linellau ar draws 519 o lawysgrifau. Mae'r casgliad yn cynnwys saith cerdd gynnar o bwys mewn llawysgrifau canoloesol a 95 cerdd ddiweddarach sydd wedi goroesi o'r cyfnod modern cynnar.

Mae'r tîm ymchwil hefyd wedi archwilio'r berthynas rhwng cerddi Cymraeg am Myrddin a'r traddodiad Arthuraidd ehangach, a gafodd ei boblogeiddio ledled Ewrop gan Sieffre o Fynwy, a oedd y cyntaf i gysylltu ffigurau Arthur a Myrddin.

Meddai Dr David Callander, o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd: "Mae Myrddin yn ffigwr llenyddol sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ond er gwaethaf hyn, mae rhai o'r cerddi cynharaf amdano wedi bod yn ddirgelwch tan nawr. Mae ein gwaith ymchwil sy'n archwilio tarddiad y cymeriad yn datgelu, yn wahanol i'r syniad poblogaidd bod Myrddin yn ddewin, fod y llenyddiaeth gynharaf amdano'n ei bortreadu fel bardd a phroffwyd sy'n adrodd am ddyfodol Ynys Prydain.

"Mae chwedl Myrddin yn rhan enfawr o ddiwylliant Cymru a Phrydain. Ond mae llawer mwy i'w ddarganfod. Mae gallu darllen a chael dealltwriaeth o lenyddiaeth a ysgrifennwyd gannoedd o flynyddoedd yn ôl yn rhoi'r cyfle i ni gysylltu'n ddyfnach â'n treftadaeth, yn ogystal â dangos i'r byd hanes llenyddol cyfoethog y gallwn ymfalchïo ynddo".

Ychwanegodd yr Athro Ann Parry Owen o'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: “Mae wedi bod yn fraint o'r mwyaf i ni gydweithio â chydweithwyr yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd a'r Dyniaethau Digidol ym Mhrifysgol Abertawe ar y prosiect pwysig hwn, gan archwilio gyda'n gilydd y corff tra diddorol hwn o farddoniaeth a briodolir i Myrddin, a llunio a gweithredu adnodd digidol ar-lein cyffrous sy'n torri tir newydd.”

I ddysgu mwy am Brosiect Barddoniaeth Myrddin a chael gweld y cerddi, ewch i wefan Prosiect Barddoniaeth Myrddin.

Rhannu'r stori