
Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol newydd i'w huwch-dîm arweinyddiaeth, sy'n gyfrifol am Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol.
Mae'r Athro Charlotte Rees, sy'n dod yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr yn ne Cymru, yn ymuno â'r Brifysgol ar ôl iddi ddod o Brifysgol Newcastle, Awstralia, lle roedd hi'n Bennaeth Ysgol y Gwyddorau Iechyd, y Coleg Iechyd, Meddygaeth a Lles.
Mae gan yr Athro Rees dros 20 mlynedd o brofiad fel ymchwilydd ym maes addysg y proffesiynau meddygol ac iechyd ac mae hi wedi arwain timau ymchwil addysg a rhyngddisgyblaethol mewn prifysgolion yn Awstralia ac yn yr Alban.
Meddai'r Athro Rees,
“Mae'n fraint gennyf ymuno â Phrifysgol Abertawe fel y Dirprwy Is-ganghellor newydd ar gyfer y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Rwy'n ymroddedig i gydweithio â myfyrwyr, cydweithwyr a phartneriaid Prifysgol Abertawe i fynd i'r afael â'r heriau y mae'r byd Addysg Uwch yn y DU yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ynghyd â gwella profiad y myfyrwyr, ansawdd ac effaith ymchwil a phartneriaethau ym myd diwydiant neu'r gymuned. Gan fy mod i'n dod o brifysgol mewn rhanbarth arfordirol yn Ne Cymru Newydd, Awstralia, sy'n debyg i Abertawe mewn llawer o ffyrdd, rwyf hefyd yn awyddus i feithrin cydweithrediadau rhyngwladol."
“Cefais fy ngeni ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae gennyf gysylltiadau cadarn â phenrhyn Gŵyr, oherwydd fy mod i wedi ymweld â Llangynydd a Rhosili'n rheolaidd ers blynyddoedd fy arddegau. Hefyd, mae gennyf lawer o deulu a ffrindiau yn ne Cymru. Rwyf wedi dysgu llawer gan fy nghydweithwyr cynfrodorol yn Awstralia am bwysigrwydd cysylltiadau â thir a dyfrffyrdd, pobl a diwylliant. Felly, rwyf wrth fy modd fy mod i'n dychwelyd i Gymru gyda fy nheulu”.
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle:
“Rydyn ni'n croesawu'r Athro Rees yn gynnes i'n cymuned ym Mhrifysgol Abertawe. A hithau’n meddu ar hanes ardderchog fel academydd ac arweinydd, edrychwn ymlaen at ei chroesawu fel rhan o'n Huwch-dîm Arweinyddiaeth.”