
Mae tîm ymchwil cydweithredol sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe wedi archwilio fframwaith y polisi ynghylch hawliau cyfranogol plant mewn ysgolion cynradd yng Nghymru, gan gyhoeddi eu canfyddiadau mewn brîff polisi newydd.
Mae Prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion, sydd wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn herio'r broblem o drosi bwriad polisi i ymarfer addysg, gyda ffocws ar hawliau cyfranogiad plant ifanc mewn dosbarthiadau ac ysgolion.
Mae brîff polisi cyntaf y prosiect yn nodi cwblhau ei gam cychwynnol, sef cynnal dadansoddiad cynhwysfawr o ddeddfwriaeth addysgol Cymru a dogfennau polisi o 1999 i 2023.
Mae'r gwaith hwn wedi arwain at dri argymhelliad allweddol:
- Dylai polisi addysgol yng Nghymru yn y dyfodol barhau i ystyried hawliau cyfranogol plant.
- Dylai plant gael eu hadnabod fel pobl sy'n meddu ar hawliau nawr, nid yn unig pan fyddant yn ddinasyddion yn y dyfodol.
- Mae angen mwy o arweiniad sy'n ystyried sut mae hawliau cyfranogol plant yn cael eu dangos mewn ymarfer addysg.
Mae brîff y polisi a chyhoeddiadau cysylltiedig yn adnoddau gwerthfawr i addysgwyr, arweinwyr ysgolion, a llunwyr polisi sy'n ymroddedig i feithrin amgylchoedd dysgu cynhwysol a chyfranogol i blant ifanc.
Dywedodd Dr Jacky Tyrie, Cyd-Ymchwilydd y Prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion ac Uwch-ddarlithydd mewn Addysg ac Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Abertawe: "Yn dilyn dadansoddi tirwedd y polisi, mae'n amlwg er bod ymrwymiad cryf i hawliau cyfranogol plant ym mholisi Cymru, mae bylchau sylweddol wrth ei weithredu ac mae angen mwy o arweiniad ynghylch 'hawl plant i gael eu clywed' mewn ysgolion".
Mae Prifysgol Abertawe yn un o nifer o sefydliadau sy'n cydweithredu ar y prosiect hwn, sy'n rhan o Raglen Ymchwil Addysg, ac yn ymuno â Phrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE), Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ychwanegodd Dr Alison Murphy, Cyd-Ymchwilydd y prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion a Darlithydd yn Yr Athrofa: Canolfan Addysg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: "Dangosodd ein dadansoddiad ymrwymiad polisi cryf yng Nghymru i hawliau cyfranogol plant. Fodd bynnag, mae bwlch yn parhau i fodoli rhwng bwriadau'r polisi ac arferion ar lawr dosbarth. Nod y brîff hwn yw pontio'r bwlch hwnnw drwy ddarparu mewnwelediadau y gellir gweithredu arnynt i addysgwyr a llunwyr polisi".
Darllenwch y brîff polisi llawn.
Dysgwch fwy am y Prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion.