Myfyrwyr y tu allan i Arena Abertawe

Abertawe yw'r ddinas fwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru, yn ôl astudiaeth gan y Complete University Guide (CUG), sy'n ddibynadwy ac yn annibynnol.

Mae'r CUG wedi cyhoeddi ei dablau diogelwch rhag troseddu diweddaraf, gan ymchwilio i ddata sydd ar gael i'r cyhoedd i helpu myfyrwyr i deimlo'n hyderus wrth iddynt ddechrau ar fywyd prifysgol.

Mae'r tablau'n dangos y cyfraddau troseddu yn erbyn y cyhoedd yn nhrefi a dinasoedd y DU gyda dwy neu fwy o brifysgolion, gyda chyfartaledd treigl troseddau dros dair blynedd fesul 1,000 o'r boblogaeth.

Mesurwyd pob tref neu ddinas yn ôl tri chategori o droseddau – bwrgleriaeth ddomestig, lladrata eiddo personol a thrais sy'n achosi anaf i rywun – gan arwain at sgôr a safle cyffredinol.

Yn ogystal â bod y ddinas fwyaf diogel i fyfyrwyr yng Nghymru, mae Abertawe hefyd yn y seithfed safle ar draws y DU, gan ei gosod ymysg y deg lleoliad Prifysgol mwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr.

Meddai'r Athro Deborah Youngs, Dirprwy Is-ganghellor Addysg ym Mhrifysgol Abertawe: "Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymrwymedig i greu amgylchedd diogel, cefnogol a chynhwysol lle gall myfyrwyr ledled y byd ffynnu yn ystod eu taith yn y brifysgol.

"Yn adnabyddus am ei chymuned gynnes a chroesawgar, rydym yn falch o weld Abertawe'n cael ei chydnabod fel dinas ddiogel a bywiog, gan ei gwneud yn lle perffaith i fyfyrwyr fyw, dysgu a thyfu".

Gweler Tabl Diogelwch rhag Troseddu llawn The Complete University Guide.

Rhannu'r stori