Dyn yn eistedd ar soffa gyferbyn â pherson arall.

Amlygodd astudiaeth gan Brifysgol Abertawe'r angen brys am gymorth i deuluoedd sy'n wynebu plentyn yn cam-drin rhiant (CPA).

Er gwaethaf ffocws cynyddol ar ymchwil i CPA yn y blynyddoedd diwethaf, mae diffyg dealltwriaeth o'r ymyriadau sydd ar gael i deuluoedd yr effeithiwyd arnynt, sy'n cynnwys plant sy'n defnyddio trais ond hefyd eu rhieni, eu brodyr/chwiorydd ac aelodau o'r teulu estynedig.

Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn Safer Communities, gwerthusodd ymchwilwyr ddyluniad a chyflwyniad y Rhaglen Parallel Lines (PLP), rhaglen atal CPA a ddatblygwyd gan Media Academy Cymru (MAC).

Wedi'i harwain gan Dr Gemma Morgan gyda Dr Joseph Janes, mae'r astudiaeth yn canolbwyntio'n unigryw ar brofiadau a lleisiau rhieni a phlant sydd wedi cwblhau'r Rhaglen, yn ogystal â'r staff sy'n ei darparu - safbwyntiau sydd wedi cael eu hesgeuluso’n hanesyddol yn sgil natur cudd CPA.

Meddai Nick Corrigan, Prif Swyddog Gweithredol Media Academy Cymru: "Mae CPA yn niwed cudd sydd ddim yn cael ei drafod yn sgil cywilydd diangen ac ofn ei fod yn ddangosydd o rieni'n bod yn rhieni gwael. Oherwydd y natur gudd hon, yn aml, mae rhieni'n dioddef am gyfnod sylweddol o amser ac yn dioddef lefelau sylweddol o drais cyn iddynt gael cymorth.

"Dechreuodd MAC ddatblygu’r Rhaglen Parallel Lines i amlygu'r broblem a newid y drafodaeth o fod yn niwed sydd ddim yn cael ei drafod i drafodaeth lle gall rhieni ddysgu nad ydynt ar eu pennau eu hunain, nad yw CPA am fod yn rhieni gwael a lle gall rhieni feithrin empathi a sgiliau cymdeithasol gwell. Siarad am CPA mewn amgylcheddau diogel, gonest a chefnogol yw'r cam cyntaf i leihau'r poen a'r stigma sy'n gysylltiedig â CPA a’u dod i ben gobeithio."

Darganfu’r ymchwilwyr, drwy ystod o gyfweliadau, arolygon ar-lein, arsylwadau ac adolygu ffeiliau, bod gan y PLP botensial mawr i helpu teuluoedd i wella eu perthnasoedd a datblygu strategaethau i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol trais mewn amgylchedd diogel a therapiwtig.

Mae eu canfyddiadau'n galw am angen dybryd am gymorth mwy arbenigol, gan bwysleisio y dylai ymyriadau flaenoriaethu dull ‘rhoi'r plentyn yn gyntaf’ a chael eu cyflwyno mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y berthynas ac sy’n seiliedig ar gryfder.

Maen nhw hefyd yn nodi bod angen ymchwil bellach i amlygu'r arfer gorau ar gyfer ymyriadau sy'n anelu at gefnogi teuluoedd sy'n dioddef CPA.

Meddai Dr Gemma Morgan: "Mae'r canfyddiadau'n amlygu'r pwysigrwydd i deuluoedd sy'n dioddef o CPA gael lleoedd therapiwtig lle gallent adfer eu perthnasoedd a chanolbwyntio ar eu cryfderau mewn amgylchedd diogel ac anfeirniadol."

Er bod ymyriadau sy'n canolbwyntio ar y berthynas yn addawol, mae'r tîm yn cydnabod eu bod yn dod â'u heriau eu hunain.

Mae ymyriadau CPA yn gofyn am weithwyr arbenigol sy'n hyfforddedig mewn llywio deinameg y teulu ac yn gallu teilwra eu dulliau i ddiwallu anghenion penodol pob teulu, gyda dull un ateb sy'n addas i bawb yn annhebygol o fod yn effeithiol.

Mae'r tîm yn gobeithio bydd yr wybodaeth hon yn darparu arweiniad gwerthfawr i ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi wrth ddatblygu mwy o ymatebion cadarnhaol i CPA, gan helpu i gynnal a gwella'r perthnasoedd rhwng plant a'u teuluoedd yng Nghymru a thu hwnt.

Darganfyddwch fwy am yr ymchwil yn The Conversation.

Rhannu'r stori