
Bydd bywgraffiad newydd yn datgelu mwy am y dyn a ysbrydolodd Richard Burton gan drawsnewid ei fywyd o'i wreiddiau ostyngedig i enwogrwydd llwyfan a sgrîn.
Bydd Behind the Scenes: The Dramatic Lives of Philip Burton gan yr hanesydd a'r bywgraffydd adnabyddus Angela John, Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe, yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai. Mae'n archwilio'r berthynas rhwng Richard Jenkins ifanc, mab i löwr o Bontrhydyfen, a'r athro a sylwodd ar botensial ei fyfyriwr.
Mae’r llyfr yn cael ei gyhoeddi’n amserol wrth i'r ffilm newydd, Mr Burton, gyda Toby Jones yn serennu yn y brif rôl, agor mewn sinemâu ledled y wlad ar 4 Ebrill. Mae canmlwyddiant geni Richard Burton yn cael ei ddathlu eleni hefyd gyda rhaglen o ddigwyddiadau arbennig.
Philip Burton, a fu farw yn 90 oed ym 1995, oedd yn gyfrifol am drawsnewid ei ddisgybl yn Richard Burton ac, yn wir, roedd yn bresennol y tu ôl i'r llenni am weddill bywyd yr actor.
Dywedodd yr Athro John: "Cafodd yr unigolyn ysbrydoledig hwn effaith drawsnewidiol ar lawer o bobl ifanc ym Mhrydain ac America. Mae ymchwilio i’w fywyd ac ysgrifennu amdano a’i angerdd am y theatr, wedi bod yn gyffrous ac yn agoriad llygad."
Fel ei protégé mwyaf adnabyddus, ganwyd Philip Burton i deulu glofaol tlawd. Ochr yn ochr ag addysgu, bu’n actio, yn ysgrifennu ac yn cynhyrchu dramâu cyn dod yn gynhyrchydd radio gyda’r BBC. Bu'n gweithio ar bron 200 o raglenni radio, gan annog newydd-ddyfodiaid a chynhyrchu gwaith gan Dylan Thomas.
Gan newid trywydd ei fywyd yn llwyr yng nghanol y 1950au, symudodd Philip Burton i'r Unol Daleithiau lle daeth yn gyfarwyddwr cyntaf ysbrydoledig Academi Cerdd a Drama America yn Efrog Newydd. Cafodd ddinasyddiaeth Americanaidd a theithiodd ar draws yr Unol Daleithiau, yn cyflwyno darlithoedd gafaelgar ar Shakespeare. Erbyn diwedd ei fywyd roedd ei arbenigedd a'i anogaeth wedi galluogi nifer o actorion ac awduron uchelgeisiol i ffynnu ar ddwy ochr Cefnfor yr Iwerydd.
Cyfarfu'r Athro John, a anwyd ym Mhort Talbot, â Richard Burton am y tro cyntaf ym 1969. Mae ei llyfr yn tynnu nid yn unig ar ei gwybodaeth uniongyrchol am ei gefndir ond hefyd ar amrywiaeth eang o ffynonellau gan gynnwys Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe. Ceir tystiolaeth gan bobl a oedd yn adnabod Philip Burton, ei bapurau nas gwelwyd gan y cyhoedd o'r blaen yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd ar gyfer y Celfyddydau Perfformio a ffotograffau prin o'i fywyd.
Mae'r llyfr newydd eisoes wedi ennill cymeradwyaeth merch Richard Burton, Kate, a'i ddisgrifiodd fel "adroddiad gwych o fywyd fy nhad-cu, Philip Burton".
Dywedodd: "Gyda’i ymchwil fanwl a’i arddull ysgrifennu hyfryd, mae'n adrodd stori bwerus athro a newidiodd fywydau ei ddisgyblion, yn enwedig fy nhad.”
Dywed Toby Jones fod y llyfr yn adfer antur gyfoethog, syfrdanol Philip Burton â gofal manwl a manylion diddorol. Dywedodd yr awdur a'r darlledwr Geraint Talfan Davies: "Mae Angela John wedi gwneud cymwynas â hanes trwy ddod â Philip Burton allan o gysgod ei ddisgybl mwyaf disglair, ac mewn rhyddiaith mor gain."
Ychwanegodd Michael Sheen: "Mae stori Philip Burton yn hir ddisgwyliedig - a does neb gwell i'w hadrodd na'r ddihafal Angela John."
Datblygodd Behind the Scenes o The Actors' Crucible: Port Talbot and the Making of Burton, Hopkins, Sheen and All the Others (Parthian), llyfr yr Athro John yn 2015.
Arweiniodd ei gwaith diweddaraf at dreulio amser ar y set gyda chast a chriw Mr Burton ac yn y cyfnod cyn ei hagoriad, bydd yr Athro John yn trafod â chyfarwyddwr y ffilm, Marc Evans, ar raglen Front Row ar BBC Radio 4 nos Fercher, 2 Ebrill.
Mae hi hefyd yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb ar ôl i’r ffilm gael ei dangos yn Abergwaun nos Sul, 6 Ebrill a bydd yn sgwrsio â'r hanesydd Dai Smith ar gyfer Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe ddydd Mercher, 9 Ebrill yn Eglwys y Tabernacl yn y Mwmbwls. Archebwch nawr
Ymhlith y digwyddiadau eraill sydd ar ddod mae sgwrs yn y Plaza, Port Talbot, ddydd Gwener, 25 Ebrill a sesiwn holi ac ateb arall yng Nghapel Bethel ym Mhontrhydyfen ddydd Sadwrn, 2 Awst.