
Prif Swyddog Gweithredol BCSA, Jonathan Clemens, gyda'r myfyrwyr Esther Ijeli, Charlotte Chow a Soumya Singh yn derbyn eu gwobr gan y Prif Weinidog Eluned Morgan.
Sicrhaodd tîm o fyfyrwyr peirianneg sifil Abertawe y safle cyntaf mewn cystadleuaeth fawreddog i ddylunio ac adeiladu pont wedi'i gwneud yn gyfan gwbl o ddeunyddiau ailgylchadwy o’r cartref.
Roedd y gystadleuaeth, a drefnwyd gan Gymdeithas Gwaith Dur Adeiladu Prydain (BCSA), yn beirniadu nid yn unig gallu pontydd i ddal y nifer uchaf o ganiau ffa pob, ond hefyd y deunyddiau arloesol a ddefnyddwyd.
Roedd pont fuddugol myfyrwyr Abertawe yn dal 197 can o ffa pob, sy'n cyfateb i 92kg o bwysau. Defnyddiodd y tîm ddeunyddiau ailgylchadwy amrywiol, gan gynnwys cylchgronau wedi'u rholio a chaniau tun, i adeiladu'r prif drawst, ceblau gwefru wedi torri i glymu trawstiau gyda'i gilydd, a jariau gwydr, wedi'u llenwi â gwydr wedi'i falu, i gefnogi’r pwysau y naill ben i’r llall.
Cafodd dau dîm arall o Abertawe eu gosod yn yr ail a'r trydydd safle, sy’n nodi llwyddiant ysgubol i'r brifysgol. Gwahoddwyd y tri i'r Senedd i ddathlu eu llwyddiant gyda'r Prif Weinidog Eluned Morgan.
Meddai myfyriwr ail flwyddyn, Soumya Singh, a oedd yn rhan o'r tîm buddugol: "Roedd Eluned Morgan yn llawn cyffro i glywed ein bod wedi ennill gan mai hi yw’r Prif Weinidog benywaidd cyntaf yng Nghymru, ac roedd fy nhîm yn cynnwys menywod yn unig. Roedd hyn yn teimlo fel cyflawniad mawr i ni fel menywod mewn STEM."
Yn ymuno â Soumya yn y tîm llwyddiannus oedd Esther Ijeli a Charlotte Chow.
Yn ystod eu hamser yn y Senedd a chyn iddynt dderbyn eu gwobr, cafodd y myfyrwyr gyfle i ddysgu am hanes dur Cymru.
Meddai Soumya: "Roedd hwn yn brofiad craff iawn, ac fe wnaethom ennill sgiliau amrywiol fel gwaith tîm effeithiol, dysgu am ddatblygiadau cynaliadwy, rheoli amser yn ogystal â'r hyder i fynd i'r afael â phroblemau gydag atebion creadigol."
Ychwanegodd Esther: "Roedd yn anrhydedd i mi gymryd rhan oherwydd ei fod yn addysgiadol ac yn fuddiol i'm nodau academaidd. Roedd y cyfle i ddysgu gan fy nghydweithwyr a'r hyfforddwr am yr anawsterau o weithredu mewn lleoliad galwedigaethol yn hynod ysbrydoledig. Fe wnes fwynhau'r digwyddiad yn fawr.''
Roedd yr Athro Oubay Hassan a'r Athro Cysylltiol Xiaojun Yin, o'r adran Peirianneg Sifil, yng nghwmni'r timau.
Meddai’r Athro Hassan: "Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr am greu’r bont model ailgylchadwy arloesol fuddugol. Mae eu hymroddiad, eu creadigrwydd, a'u dealltwriaeth ddofn o ymddygiad strwythurol yn eu gosod ar wahân. Cyflawniad gwych mewn peirianneg gynaliadwy!"
Dysgwch fwy am beirianneg sifil yn Abertawe