Dau berson mewn cwch pwmpiadwy yn gwirio platfform wedi'i angori yng nghanol afon.

Mae prosiect ym Mhrifysgol Abertawe i wella dealltwriaeth o ymddygiad pysgod yn afonydd a moroedd Cymru wedi derbyn hwb ariannol gwerth £657,000.

Mae'r ymchwil i bysgodfeydd wedi cael ei hariannu ar ôl cyflwyno cais llwyddiannus i raglen ariannu amgylcheddol fawreddog, dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru.

Fe'i henwyd yn un o'r prosiectau a ddewiswyd i elwa o rownd ddiweddaraf Cronfa Rhwydweithiau Natur. Wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r Gronfa yn helpu Llywodraeth Cymru i weithio tuag at nod Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang 30 wrth 30. Mae hyn yn anelu at ddiogelu a rheoli 30 y cant o amgylcheddau morol, dŵr croyw a daearol y blaned erbyn 2030 yn effeithiol.

Mae tîm Abertawe, sydd wedi'i leoli yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, bellach yn defnyddio'r cyllid i helpu i dagio acwstig brithyll môr, eogiaid a gwangod ar afon Tywi ac afon Gwy, yn ogystal â rhywogaethau morol gan gynnwys morgathod, draenogiaid môr a chŵn pigog. Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi cynnal amrywiaeth fawr o dderbynyddion acwstig ym Môr Hafren i olrhain symudiadau pysgod ledled y sianel, gan gynnwys pysgod wedi'u tagio gan ymchwilwyr o brifysgolion eraill.

Bydd hyn yn helpu i wella dealltwriaeth o batrymau mudo a gwerthuso risgiau datblygiadau morol fel gorsaf bŵer Hinkley Point ac ynni adnewyddadwy morol.

Dechreuodd staff olrhain pysgod yn 2019 ac maent wedi gwirioni gyda’r ffaith y bydd y cyllid yn caniatáu iddynt adeiladu ar eu gwaith presennol yn Abertawe a’i ddatblygu a pharhau i weithio ar y prosiect hwn tan fis Mawrth 2028. 

Cefnogwyd y cais gan fwy na 30 o sefydliadau, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Natural England, Ymddiriedolaeth Eogiaid yr Iwerydd, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Hela a Bywyd Gwyllt, diwydiant a grwpiau cadwraeth a physgodfeydd lleol.

Meddai Cyfarwyddwr y Prosiect, Dr David Clarke: "Mae'r cyllid hwn yn hanfodol bwysig i'n hymchwil barhaus ar ddiogelu rhywogaethau allweddol.  Bydd yn cefnogi astudiaethau mudo sy'n edrych ar symudiadau eogiaid Cefnfor yr Iwerydd, brithyll môr a gwangod wedi'u tagio yn acwstig. Bydd hyn yn ein galluogi i ddeall risgiau ynni adnewyddadwy morol i'r rhywogaethau hyn.

"Bydd hefyd yn ein galluogi i ddatblygu a mireinio technegau lliniaru - atal pysgod acwstig - i amddiffyn yr asedau naturiol pwysig hyn yn well."

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Mae'r rownd ddiweddaraf hon o ddyfarniadau yn dangos uchelgais y Gronfa Rhwydweithiau Natur a phwysigrwydd cysylltu pobl â'r byd naturiol ar stepen eu drws.

"Mae amddiffyn a chryfhau ein treftadaeth naturiol yn flaenoriaeth allweddol i ni yn y Gronfa Dreftadaeth. Er mwyn cwrdd â'r heriau sy'n wynebu ein cynefinoedd a'n bywyd gwyllt, mae angen dull cynaliadwy, cydweithredol ar gyfer adfer natur. Felly, rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu'r Gronfa Rhwydweithiau Natur."

 

Rhannu'r stori