
Cystadlodd 39 o fyfyrwyr o Abertawe a oedd yn hanu o 11 o wledydd ledled y byd, gan astudio 10 o bynciau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Toiled bio-drawsnewidydd sy'n creu biodanwydd o faw dynol yw'r syniad a enillodd rownd Abertawe "Invent for the Planet", cystadleuaeth ddylunio ryngwladol ar gyfer myfyrwyr sy’n ddyfeiswyr.
Cynhelir y gystadleuaeth gan Brifysgol Texas A&M ac mae ar agor i 50 o brifysgolion sy'n cymryd rhan mewn 24 o wledydd yn fyd-eang. Prifysgol Abertawe yw'r unig brifysgol yn y DU a gafodd ei gwahodd i gymryd rhan.
Mae myfyrwyr ym mhob prifysgol yn gweithio mewn timau lleol ac yn dewis her fyd-eang. Roedd yr heriau eleni'n cynnwys atebion carbon is ar gyfer y sector ynni, tai cynaliadwy ar gyfer ardaloedd tlawd, ac atebion i liniaru newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo.
Mae'r myfyrwyr yn cael 48 awr i ymchwilio i'w her a dyfeisio rhywbeth newydd. Mae'n rhaid iddynt greu prototeip a datblygu cyflwyniad cryno i'w roi gerbron panel o feirniaid o academyddion a chynrychiolwyr byd diwydiant.
Mae’r beirniaid yn dewis tîm buddugol a gaiff ei ystyried am le yn y rownd derfynol fyd-eang a gynhelir yn Tecsas rhwng 8 ac 20 Ebrill.
Cystadlodd 39 o fyfyrwyr o Abertawe a oedd yn hanu o 11 o wledydd ledled y byd, gan astudio 10 o bynciau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Roedd y tîm buddugol – o'r enw Waste2Watts – yn cynnwys chwe myfyriwr: Maya Williams, 2il flwyddyn daearyddiaeth; Jack Boswell Brown, blwyddyn 1af peirianneg sifil; Ethan Dickinson, 3edd flwyddyn peirianneg drydanol; Rhys Rodrigues, MSc mewn Peirianneg Awyrofod; a Mayah Anakwa a Sar Sainbayar, 2il flwyddyn peirianneg gemegol.
Yr her a ddewiswyd ganddynt oedd tai diogel a chynaliadwy i bobl mewn tlodi. Mae biliwn o bobl ledled y byd yn byw mewn slymiau: mwy nag 20% o boblogaeth y byd. Mae angen dybryd am ffyrdd arloesol, cost-effeithiol o ddarparu tai, gan roi i’r bobl hyn fynediad at lanweithdra, dŵr diogel ac amodau byw cynaliadwy.
Datblygodd tîm Waste2Watts doiled bio-drawsnewidydd sy'n creu biodanwydd o faw dynol.
Byddai eu cynnyrch yn gwella glanweithdra ac yn helpu i atal clefydau rhag cael eu lledaenu yn y dŵr. Byddai hefyd yn dal methan i gynhyrchu pŵer ar gyfer cartrefi, yn creu gwrtaith i'w ddefnyddio mewn amaethyddiaeth leol ac yn creu cyfleoedd am gyflogaeth. Mae eu dyluniad yn defnyddio deunyddiau sydd ar gael yn lleol neu sydd wedi'u hailgylchu'n lleol y gellir, yn eu tro, eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu wedyn.
Yn ystod y gystadleuaeth cynhyrchodd y tîm brototeip cynnar o'r toiled ac roedd y beirniaid o'r farn bod ganddo'r potensial i fod yn gynnyrch dichonol. Bydd tîm Mentergarwch y Brifysgol, sydd â hanes cadarn o gefnogi cwmnïau newydd myfyrwyr, hefyd yn gallu cynnig cyngor ar ddatblygu'r syniad ymhellach.
Sylwadau gan fyfyrwyr a gymerodd ran yn Invent for the Planet:
Jack Boswell Brown, myfyriwr Peirianneg Sifil yn y flwyddyn 1af ac aelod o'r tîm buddugol:
"Gwnes i gyflwyno cais i gymryd rhan oherwydd roeddwn i eisiau'r cyfle i weithio ar brosiect a fyddai'n llesol i'r amgylchedd a phobl mewn tlodi. Mwynheais i'r profiad yn fawr - cwrddais i â phobl wych a gwnes i wella fy sgiliau rheoli prosiect a chyflwyno."
Roby Karan Singh, MSc mewn Cyfrifiadureg:
"Roeddwn i'n dwlu ar bob eiliad! Cymerais i ran yn fy mlwyddyn gyntaf a gwnes i wirioneddol wella fy sgiliau cyflwyno a siarad yn gyhoeddus. Eleni, gwnes i hefyd ddatblygu fy sgiliau siarad yn gyhoeddus, gweithio mewn tîm a rheoli amser."
Siana Deakins, blwyddyn 1af Gwyddor Amgylcheddol a'r Argyfwng Hinsawdd ac aelod o'r tîm a ddaeth yn ail:
"Roedd Invent for the Planet yn ddiddorol ac yn llawer o hwyl. Dwi bob amser yn meddwl am syniadau newydd a rhoddodd y digwyddiad gyfle i mi ddatblygu un am benwythnos cyfan. Drwy'r digwyddiad, gwnes i ddysgu i gael ffydd yn fy ngalluoedd fy hun a dysgais i lawer am arweinyddiaeth a gwaith tîm. Dwi'n siŵr y bydd yn brofiad da am fy helpu i sicrhau swydd yn y dyfodol!"
William Hutchings, blwyddyn 1af Peirianneg Electronig a Thrydanol:
"Roedd Invent for the Planet yn brofiad gwych. Roedd y digwyddiad yn ddifyr iawn a datblygais i lawer o sgiliau fel ymchwil, gwaith tîm a siarad yn gyhoeddus. Ar ddechrau'r digwyddiad, ychydig iawn o sgiliau oedd gen i a gadawais i â sgiliau a fydd yn ddefnyddiol ar hyd fy mywyd.
Meddai Dr Caroline Coleman-Davies, Arweinydd y Bartneriaeth Strategol gyda Texas A&M a chyd-drefnydd ar gyfer Invent for the Planet:
"Mae Invent for the Planet yn rhoi cyfle unigryw i gyfranogwyr weithio gyda myfyrwyr o bynciau, disgyblaethau a grwpiau blwyddyn eraill ar her o'r byd go iawn o'u dewis. Mae Abertawe wedi bod yn rhan o'r digwyddiad ers iddo gael ei sefydlu yn 2018, a bob blwyddyn, mae mwy a mwy o'n myfyrwyr yn mynegi diddordeb mewn cymryd rhan. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i'n partner hirdymor, Prifysgol Texas A&M, am roi cyfle i fyfyrwyr Abertawe fod yn rhan o'r digwyddiad cyffrous hwn.”
Meddai Kelly Jordan, Uwch-Swyddog Entrepreneuriaeth a chyd-drefnydd ar gyfer Invent for the Planet:
"Mae Invent for the Planet yn rhoi cyfle i fyfyrwyr Abertawe ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd, rhoi eu gwybodaeth peirianneg a gwyddonol ar waith mewn sefyllfa ymarferol a pharatoi eu hunain i gael effaith ystyrlon ar y byd. Dyma un o nifer o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Dîm Mentergarwch Abertawe sydd â'r nod o feithrin entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr, ac mae eu cyflwyniadau yn y rownd derfynol yn dangos y cynnydd trawiadol sy'n bosib mewn 48 awr yn unig."
Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil, ac un o feirniaid y gystadleuaeth:
“Rydyn ni wrth ein boddau mai ni oedd yr unig brifysgol yn y DU a wahoddwyd i gymryd rhan yn Invent for the Planet. Mae Abertawe yn ymfalchïo yn ei gallu i ddenu'r myfyrwyr gorau a mwyaf dawnus, a gwnaeth y digwyddiad hwn amlygu eu sgiliau creadigol ac entrepreneuraidd. Roedd y syniadau, y prototeipiau a'r cyflwyniadau gwnaethon nhw eu creu mewn 48 awr yn unig yn hynod drawiadol, a hoffwn i ganmol yr holl fyfyrwyr am eu cyflawniadau."
Noddwyd y digwyddiad eleni gan EBIF (Engineers in Business Fellowship) a'r Academi Frenhinol Peirianneg.