Llun agos o streipiau enfys fertigol

Mae'r Forest Stripes yn dangos sut mae digonedd o’r rhywogaethau sy'n dibynnu ar goedwigoedd wedi gostwng rhwng 1970 a 2018. Ceir un streipen ar gyfer pob blwyddyn ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae maint poblogaeth rhywogaethau sy'n dibynnu ar goedwigoedd wedi gostwng 79% ar gyfartaledd. Mae'r Forest Stripes yn gydweithrediad rhwng WWF, Prifysgol Reading, Prifysgol Derby a ZSL, Cymdeithas Sŵoleg Llundain, rhan o'r teulu Climate Stripes ehangach.

Mae gan Brifysgol Abertawe rôl allweddol yn yr alwad i weithredu ddiweddaraf sy'n amlinellu'r camau mae'n hanfodol i lywodraethau eu cymryd er mwyn achub coedwigoedd y byd.

Mae Global Forest Vision 2030: Priority actions for governments in 2025, dan arweiniad y Forest Declaration Assessment byd-eang, newydd gael ei ryddhau i ddarparu arweiniad, brys mawr ei angen, i sut gall llywodraethau gyflymu ymdrechion i wrthdroi colled coedwigoedd ar raddfa fawr yn fyd-eang cyn uwchgynhadledd yr hinsawdd COP30 i'w chynnal ym Mrasil ym mis Tachwedd.

Mae'n darparu gweledigaeth o'r hyn y gall arweinwyr y byd ei wneud eleni i fabwysiadu ymagwedd fwy cyfrifol at reoli coedwigoedd y byd, gan gynnwys:

  • Cydweithio i gyflawni nodau coedwigoedd ag uchelgais newydd, gan eu hintegreiddio mewn cynlluniau cenedlaethol ar yr hinsawdd a bioamrywiaeth ac yng nghanlyniadau cynadleddau sydd ar ddod;
  • Cynyddu cymorth ariannol i goedwigoedd yn sylweddol;
  • Sicrhau hawliau i dir a chefnogi ymreolaeth pobloedd brodorol a chymunedau o dras Affricanaidd;
  • Nodi ac arallgyfeirio cymorthdaliadau sy'n niweidio coedwigoedd ac ecosystemau, gan eu cyfeirio at drawsnewid i systemau bwyd cynaliadwy, pontio i fioeconomi a rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy;
  • Cryfhau llywodraethu yn y sector defnydd tir, gan gynnwys fframweithiau cyfreithiol, gorfodi'r gyfraith, tryloywder ac atebolrwydd.

Mae Prifysgol Abertawe wedi darparu cymorth gwyddonol arbenigol a throsi gwybodaeth i sicrhau bod y galwadau hyn yn seiliedig ar dystiolaeth hanfodol.

Un darn o dystiolaeth a ddefnyddir yn yr adroddiad newydd yw'r Forest Pathways Report a luniwyd ar y cyd gan Abertawe a'r WWF. Hwn oedd glasbrint cyntaf y byd ar atal a gwrthdroi datgoedwigo byd-eang.

Meddai'r Athro Mary Gagen: “Mae Global Forest Vision 2030 yn alwad newydd i weithredu gan grŵp o sefydliadau cymdeithas sifil ac ymchwil sy'n canolbwyntio ar goedwigoedd, fel ni yn Abertawe, sy'n gofyn i lywodraethau gydweithio i atal a gwrthdroi datgoedwigo byd-eang.

“Yn 2021 pan gynhaliodd y DU gyfarfod COP26 yn Glasgow, ymrwymodd 140 o arweinwyr y byd i atal colli coedwigoedd erbyn 2030. Roedd hynny'n achlysur balch iawn ac roedd hi'n wych ei fod wedi digwydd mewn COP a gynhaliwyd yn y DU. Fodd bynnag, ers hynny mae cyfraddau colli coedwigoedd wedi cynyddu bob blwyddyn - i'r gwrthwyneb i'r addewid.”

Esboniodd fod 6.37 miliwn hectar o goedwigoedd wedi’u colli yn 2023 yn unig - sy'n gyfwerth â 9 miliwn o gaeau pêl-droed.

Meddai'r Athro Gagen: “Mae'r Global Forest Vision yn amlinellu set o gamau gweithredu blaenoriaeth ac yn gofyn i'r arweinwyr byd hynny ddechrau gweithredu'n ddi-oed a chyflymu'r broses o atal datgoedwigo er mwyn i ni gyflawni'r nod byd-eang hollbwysig hwnnw erbyn 2030. Mae hyn yn gyfrifoldeb pawb, nid lleoedd trofannol pell yn unig - mae'r nwyddau rydyn ni'n eu mewnforio i'r DU yn gyfrifol am ddatgoedwigo dramor hefyd.

“Mae angen ardal o dir dramor sy'n gyfwerth â 40 y cant maint Cymru i dyfu'r cynhyrchion rydyn ni'n eu mewnforio i Gymru bob blwyddyn - pethau fel coco ar gyfer siocled, porthiant i gynhyrchu cig eidion a lledr, planhigfeydd olew palmwydd a chynhyrchion fel rwber naturiol. Coedwigoedd glaw trofannol fydd llawer o'r tir hwnnw.”

Darganfod mwy am ein hymchwil am Dyfodol Cynaliadwy, Ynni a'r Amgylchedd

 

Rhannu'r stori