Darlithwraig yn sefyll o flaen myfyrwyr mewn darlithfa

Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn bron £60,000 gan Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI) i arwain prosiect arloesol gyda'r nod o wella amodau'r gweithle i academyddion benywaidd sydd â chyflyrau iechyd meddwl.

Gan weithio mewn cydweithrediad â Phrifysgol Sheffield, bydd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar nodi heriau a darparu atebion ymarferol i greu amgylchedd academaidd mwy cynhwysol.

Meddai arweinydd y prosiect, Dr Hadar Elraz, Uwch-ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol ac Ymddygiad Sefydliadol ym Mhrifysgol Abertawe: "Er gwaethaf ymrwymiadau cynyddol i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI), mae menywod yn y byd academaidd—yn enwedig y rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl—yn parhau i brofi rhwystrau sylweddol. Mae dwysáu gwaith, gwahaniaethau rhwng y rhywiau mewn hyrwyddo a chydnabyddiaeth, ac ableddiaeth systemig yn cyfrannu at lefelau uchel o straen, gorflinder, ac allgáu. Er hyn, mae polisïau Adnoddau Dynol ac EDI presennol yn aml yn methu â mynd i'r afael â'r heriau croestoriadol hyn, gan adael llawer o academyddion heb gymorth digonol."

"Mae bwlch gwybodaeth mawr o hyd ynglŷn â sut mae profiadau iechyd meddwl yn croestorri â dwysáu gwaith ym myd addysg uwch y DU, yn enwedig ar gyfer academyddion sy'n uniaethu fel menywod. Bydd y prosiect hwn yn mynd i'r afael â'r bwlch hwnnw ac yn adeiladu ar fy ymchwil ddiweddar, a dynnodd sylw at y cymorth cyfyngedig yn y gweithle sydd ar gael ar gyfer iechyd meddwl academyddion benywaidd. Trwy ddarparu argymhellion clir sy'n seiliedig ar dystiolaeth i brifysgolion a llunwyr polisi, ein nod yw gwella polisïau ac arferion yn y gweithle mewn ffyrdd ystyrlon a pharhaol."

Mae'r meysydd ymchwil allweddol yn cynnwys:

• Nodi strategaethau effeithiol ar gyfer y gweithle sy'n galluogi academyddion benywaidd â chyflyrau iechyd meddwl i lwyddo.

• Tynnu sylw at arferion gorau sydd eisoes ar waith ac asesu eu heffaith.

• Datblygu argymhellion polisi ymarferol ar gyfer timau AD, yr uwch-arweinyddiaeth, a chyrff cyllido i ysgogi newid ystyrlon.

Bydd yr ymchwil yn cynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws gydag academyddion benywaidd, gweithwyr proffesiynol AD, a llunwyr polisi ledled y DU. Bydd canfyddiadau'n cael eu rhannu trwy adroddiadau polisi, cynadleddau academaidd, a gweminarau i sicrhau eu bod yn cyrraedd penderfynwyr allweddol.

Yn bwysig, bydd y prosiect hefyd yn olrhain sut mae sefydliadau yn gweithredu ei argymhellion dros gyfnod o 18 mis i fesur effaith yn y byd go iawn.

Meddai Dr Elraz: "Mae'r ymchwil hon yn gam hanfodol wrth fynd i'r afael â'r rhwystrau systemig y mae academyddion benywaidd sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn eu hwynebu. Trwy symud y ffocws o unigolion i bolisïau’r gweithle, ein nod yw darparu atebion ymarferol sy'n meithrin amgylchedd academaidd mwy cynhwysol a chefnogol.

"Gyda'r pwyslais cynyddol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn addysg uwch, nawr yw'r amser i sefydliadau gymryd camau ystyrlon. Trwy gydweithio â llunwyr polisi, gweithwyr proffesiynol AD, a staff academaidd, rydym yn gobeithio ysgogi newid go iawn sy'n gwella diwylliant gweithle a lles meddyliol."

Gyda chefnogaeth gan UKRI, Ymddiriedolaeth Wellcome, a grwpiau eiriolaeth ledled y sector, bydd yr astudiaeth hon yn dylanwadu ar ddiwylliant a pholisi yn y gweithle ar draws byd addysg uwch y DU. Bydd yn darparu map ffordd clir i brifysgolion ar gyfer gweithredu, gan sicrhau bod iechyd meddwl a thegwch rhyweddol yn cael eu blaenoriaethu mewn ffyrdd parhaol ac effeithiol.

Gall academyddion benywaidd sydd â diddordeb yn yr astudiaeth hon gofrestru trwy lenwi'r ffurflen mynegi diddordeb.

Rhannu'r stori