
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu sut mae cael eu hatal rhag defnyddio technoleg ddigidol yn creu rhwystrau ychwanegol i bobl sydd â hanes troseddol yng Nghymru, gan gyfyngu ar eu gallu i gael mynediad at wasanaethau cymorth hanfodol, dod o hyd i waith, a meithrin cysylltiadau cymdeithasol.
Gwnaeth yr Astudiaeth gan Brifysgol Abertawe, a gyhoeddwyd yn Health & Justice, archwilio sut mae 41 o bobl yn y system gyfiawnder yn cyrchu ac yn defnyddio technoleg ddigidol ac mae’n datgelu bod allgáu digidol yn cymryd sawl ffurf, gan gynnwys:
- Mynediad cyfyngedig at ddyfeisiau: Dywedodd rhai cyfranogwyr nad ydynt yn berchen ar dechnoleg ddigidol hanfodol, fel ffonau clyfar, gliniaduron, neu lechi, sy'n cyfyngu ar eu gallu i fanteisio ar o wasanaethau modern.
- Tlodi data: I'r rhai sy'n berchen ar ddyfeisiau, mae llawer yn dal i gael trafferth cael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth ar-lein oherwydd eu hanallu i fforddio data symudol neu Wi-Fi.
- Cymhwysedd digidol isel: Mae diffyg sgiliau digidol sylfaenol yn atal cyfranogwyr rhag defnyddio technoleg yn effeithiol, nid yn unig i gael mynediad at wasanaethau a chymorth ond hefyd i ymgymryd â thasgau pob dydd sy'n gysylltiedig â bywyd modern.
Meddai'r prif awdur Dr Gemma Morgan, Uwch- ddarlithydd mewn Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol: "Mae ein hymchwil yn dangos nad yw allgáu digidol yn ymwneud â diffyg dyfeisiau yn unig - mae'n ymwneud â'r anallu i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas.
"Mae pobl yn y system cyfiawnder troseddol yn cael eu hymyleiddio ymhellach gan rwystrau digidol, sy'n cyfyngu ar eu mynediad at wasanaethau a allai gefnogi eu lles a'u hatal rhag mynd ymlaen i aildroseddu."
Mae'r astudiaeth yn pwysleisio bod mannau ar-lein ac all-lein yn chwarae rôl allweddol wrth lunio cynhwysiant cymdeithasol ac ymatal rhag troseddu - y broses o symud i ffwrdd o ymddygiad troseddol ac ailadeiladu bywyd cadarnhaol – ac mae’r tîm yn gwneud sawl argymhelliad allweddol, gan gynnwys:
- Gwella mynediad digidol: Sicrhau bod gan bobl yn y system cyfiawnder troseddol fynediad at dechnoleg ddigidol fforddiadwy a dibynadwy (e.e. ffonau clyfar a llechi) i fanteisio ar wasanaethau ac adnoddau cymorth.
- Ymgorffori hyfforddiant sgiliau digidol: Cynnig rhaglenni hyfforddi wedi'u teilwra i wella llythrennedd digidol, gan alluogi pobl i ddefnyddio technoleg yn effeithiol i’w cynorthwyo i ymatal rhag troseddu ac i wella cynhwysiant cymdeithasol.
- Cydnabod anghenion digidol mewn polisi system cyfiawnder troseddol: Ymgorffori mynediad a chymhwysedd digidol fel elfennau craidd ymyriadau a pholisïau sydd â’r nod o leihau aildroseddu.
Heb gymorth wedi'i dargedu, mae pobl yn y system cyfiawnder troseddol yn wynebu ymyleiddio pellach. Mae pontio'r gagendor digidol yn hanfodol ar gyfer gwella canlyniadau i'r unigolion hyn, hyrwyddo ymatal rhag troseddu, a meithrin cynhwysiant cymdeithasol hirdymor.
Meddai Dr Morgan: "Nid yw technoleg ddigidol bellach yn foethusrwydd - mae'n hanfodol ar gyfer ymdopi â bywyd modern. Mae ein casgliadau'n dangos bod yn rhaid blaenoriaethu darparu mynediad at offer digidol a gwella sgiliau digidol mewn cymorth i ymatal rhag troseddu er mwyn rhwystro pobl yn y system cyfiawnder troseddol rhag cael eu gadael ar ôl."
Gallwch ddarllen y papur yma: Understanding the access to and use of digital technology by people in the criminal legal system: empirical findings from Wales