
Mewn cam arloesol tuag at atal colli clyw a achosir gan wrthfiotigau, dyfarnwyd £125,000 i academydd o Brifysgol Abertawe gan Academi'r Gwyddorau Meddygol.
Mae Dr Emma Kenyon, darlithydd mewn Niwrowyddoniaeth, wedi cael ei chydnabod fel rhan o fenter gwerth £7.6 miliwn drwy raglen Springboard yr Academi, sy'n cefnogi ymchwilwyr gyrfa gynnar i fynd i'r afael â heriau iechyd brys.
Gall rhai gwrthfiotigau sy'n achub bywydau a ddefnyddir i drin heintiau bacteriol difrifol niweidio celloedd gwallt cain y cochlea, gan arwain at golli clyw parhaol, gan na all y celloedd hyn adfywio.
Bydd Dr Kenyon a'i thîm yn archwilio sut mae'r cyffuriau hyn yn mynd i mewn ac yn achosi difrod i gelloedd gwallt, gan dargedu atebion i'w hamddiffyn a diogelu clyw’r claf.
Meddai Dr Kenyon: "Bydd ein prosiect yn archwilio sut gall newid mynegiant Rab GTPases penodol, rydym yn gwybod eu bod yn rheoli cludiant yn y gell (yn gwneud yn siŵr bod pethau'n symud i'r lle iawn ar yr adeg iawn), wella goroesiad celloedd gwallt ar ôl triniaeth â gwrthfiotigau.
"Byddwn ni hefyd yn archwilio a yw cyfansoddion rydym yn gwybod eu bod yn amddiffyn celloedd gwallt hefyd yn newid mynegiant Rab GTPase gyda'r nod o gadw clyw cleifion."
Mae'r rownd ddiweddaraf hon o gyllid gan yr Academi wedi'i dyfarnu i 62 o wyddonwyr addawol ar draws 41 o sefydliadau'r DU, gyda chefnogaeth gan Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y DU, Wellcome, a'r British Heart Foundation.
Mae'n nodi degawd o ddyfarniadau Springboard, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad i £43.8 miliwn ers lansio'r cynllun yn 2015.
Meddai'r Athro James Naismith FRS FRSE FMedSci, Is-lywydd (Anghlinigol) yn Academi'r Gwyddorau Meddygol: "Dyma'r buddsoddiad mwyaf erioed ac mae'n dangos ein hymrwymiad diwyro i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil. Drwy gefnogi'r ymchwilwyr dawnus hyn sydd ar ddechrau eu gyrfa, rydym yn mynd i'r afael â heriau iechyd brys heddiw ac hefyd yn cryfhau statws y DU fel arweinydd byd-eang mewn ymchwil feddygol. Mae ehangder ac uchelgais prosiectau a ariennir gan raglen Springboard yr Academi yn rhyfeddol - o ddeall ymddygiadau yfed pobl ifanc yn eu harddegau i ymchwilio i pam mae clefyd Alzheimer yn effeithio'n anghymesur ar fenywod.
"Mae pob un sy'n cael dyfarniad Springboard yn dod â safbwyntiau newydd a dulliau arloesol a fydd, yn y pen draw, yn arwain at ganlyniadau iechyd gwell i gleifion a'r cyhoedd. Mae'r Academi yn falch o ddarparu'r adnoddau ariannol a'r cymorth datblygu gyrfa y mae eu hangen i helpu'r gwyddonwyr rhagorol hyn i sefydlu eu gyrfaoedd ymchwil annibynnol."
Meddai Gweinidog Gwyddoniaeth y DU, yr Arglwydd Vallance: "Gall ymchwil a gefnogir gan raglen Springboard helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau iechyd mwyaf dybryd, fel ymwrthedd gwrthficrobaidd a chanser, drwy roi cyfle i ymchwilwyr gyrfa gynnar ledled y DU brofi eu syniadau.
"Drwy'r rhaglen hon, rydym yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr i arwain eu hymchwil arloesol eu hunain fel y gall y DU barhau i fod yn arloeswr ym maes gwyddoniaeth feddygol."