Mae miloedd o fyfyrwyr yng Nghymru a Lloegr wedi cyrraedd carreg filltir bwysig wrth iddynt dderbyn canlyniadau eu harholiadau Safon Uwch. I lawer, bydd dathlu haeddiannol wrth iddynt sicrhau eu lleoedd yn y brifysgol. Ond gall eraill wynebu ansicrwydd.
I'r rhai na lwyddodd i ennill y graddau disgwyliedig a'r rhai a ragorodd ar eu disgwyliadau neu sy'n ailfeddwl am eu dewis o brifysgol a chwrs, gall hwn fod yn gyfnod o gyffro a phryder.
I fyfyrwyr sydd heb gael cynnig gan brifysgol neu sy'n ailystyried eu hopsiynau, mae'r system Glirio'n cynnig cyfle gwerthfawr i gyflwyno cais am gyrsiau mewn prifysgolion sydd â lleoedd gwag o hyd. Yn ystod Clirio ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymateb i filoedd o ddarpar fyfyrwyr sy'n ystyried astudio gyda ni. Pan fyddant yn cysylltu â ni maent yn aml yn ofidus ac wedi'u drysu ac mae angen cyngor arnynt. Hoffwn i dawelu meddwl unrhyw un sy'n ystyried ymuno â'n prifysgol y bydd ein tîm derbyn myfyrwyr yn eu cynorthwyo i asesu eu holl opsiynau o ran cwrs. Nid canlyniadau arholiadau yw'r unig beth sydd gan ymgeisydd i'w gynnig ac mae'r ymagwedd hon yn llywio ein proses dderbyn. Rydym yn cymryd amser i ystyried profiad blaenorol, potensial a dyheadau ymgeiswyr ochr yn ochr â'u graddau.
Rydym hefyd am sicrhau myfyrwyr sy'n meddwl am ddod i Abertawe ein bod yn ymrwymedig i ddarparu profiad dysgu ac addysgu rhagorol iddynt. Rydym yn cynnig amgylchedd addysgol ardderchog drwy ddefnyddio'r dulliau addysgu gorau, a chaiff ein myfyrwyr eu haddysgu gan arbenigwyr sy'n arweinwyr yn eu meysydd academaidd. Mae'n bosib hefyd y caiff myfyrwyr gyfle i weithio ar brosiectau ymchwil arloesol gydag arbenigwyr blaenllaw, sy'n cyfoethogi eu dysgu ac yn cyfrannu at ymchwil newydd. Mae eu profiad yn y brifysgol yn meithrin datblygiad sgiliau hanfodol, megis meddwl yn feirniadol, datrys problemau a chyfathrebu, sy'n amhrisiadwy yn y gweithlu.
Wrth gwrs, mae dewis prifysgol yn benderfyniad pwysig sy'n cynnwys mwy na ffactorau academaidd yn unig. Mae newid i fywyd yn y brifysgol yn gam mawr, ac mae'n hanfodol i fyfyrwyr ddewis sefydliad sy'n cynnig cymorth cadarn pan fydd ei angen arnynt. Mae Prifysgol Abertawe'n ymroddedig i wneud y broses o addasu i fywyd yn y brifysgol yn hwylus a sicrhau bod gwasanaethau cymorth cynhwysfawr ar gael i fyfyrwyr, gan gynnwys cymorth academaidd, cyngor ariannol, arweiniad ar gyflogadwyedd ac adnoddau lles.
Mae'n bosib bod gan rai myfyrwyr amheuon am werth gradd prifysgol, yn enwedig gan ystyried heriau economaidd a naratifau beirniadol gwleidyddol ac yn y cyfryngau cymdeithasol. Credaf, yn fwy nag erioed, fod manteision addysg uwch yn parhau'n sylweddol ac yn argyhoeddiadol; ac mae tystiolaeth ddiweddar yn cefnogi'r farn hon. Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan Universities UK y llynedd, mae 73% o raddedigion o'r farn mai addysg brifysgol a sicrhaodd y swyddi roeddent am eu cael. Ar ben hynny, mae sefyllfa ariannol 85% o fenywod a 75% o ddynion yn well ar ôl iddynt gwblhau eu graddau, hyd yn oed ar ôl ystyried trethi, benthyciadau myfyriwr ac enillion wedi'u gohirio wrth iddynt astudio.
Y tu hwnt i fanteision ariannol, mae addysg uwch yn cynnig cyfleoedd cyfoethog am ddatblygiad personol. Mae mwy i fywyd yn y brifysgol na chronni gwybodaeth; mae hefyd yn cynnwys twf personol, ehangu gorwelion, gwneud ffrindiau newydd o gefndiroedd gwahanol a chodi dyheadau. Yn Abertawe, bydd ein myfyrwyr newydd yn dod ar draws cymuned gynhwysol a chyfeillgar o staff a myfyrwyr.
Mae cyfleoedd hefyd i gael profiadau newydd, o gymryd rhan mewn chwaraeon neu gymdeithasau myfyrwyr, gwirfoddoli, lleoliadau gwaith neu astudio dramor. Gall astudio dramor fod yn brofiad trawsnewidiol, gan alluogi myfyrwyr i ymdrochi mewn diwylliannau gwahanol ac elwa o safbwyntiau unigryw.
Mae Prifysgol Abertawe'n arddangos manteision niferus addysg uwch. Yn y 25ain safle yn y DU ac yn brifysgol orau Cymru yn ôl Guardian University Guide 2024, ac un o'r 300 o brifysgolion gorau'n fyd-eang ar gyfer 2024, mae Abertawe'n ymfalchïo mewn darparu profiad addysgol o ansawdd uchel. Ar ben hyn, roedd 95% o raddedigion ein prifysgol mewn cyflogaeth neu’n ymgymryd ag astudiaethau pellach 15 mis ar ôl graddio, yn ôl yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) y llynedd. Mae'r ystadegyn hwn yn tanlinellu effeithiolrwydd rhaglenni addysgol Abertawe a rhagolygon gyrfa cryf ei graddedigion.
Felly, wrth i fyfyrwyr wynebu'r adeg allweddol hon, rwy'n eu hannog i ystyried Prifysgol Abertawe ar gyfer amgylchedd cefnogol a gwobrwyol sy'n cynnig addysgu ardderchog a chyfleoedd am dwf personol a phroffesiynol. Drwy astudio gyda ni, gall myfyrwyr feithrin eu doniau a datblygu'n raddedigion medrus a fydd yn barod i wneud cyfraniadau ystyrlon at gymdeithas a chyflawni eu potensial personol.