Nid yw newid hinsawdd bellach yn fygythiad pell; mae'n realiti uniongyrchol, sy'n effeithio ar gymunedau, ecosystemau ac economïau ledled y byd.
Mae prifysgolion mewn sefyllfa unigryw i arwain y ffordd wrth fynd i'r afael â'r her fyd-eang hon a chreu dyfodol mwy cynaliadwy – nid yn unig drwy eu hymdrechion ymchwil, ond hefyd yn y ffordd y maent yn gweithredu, yn addysgu ac yn ymgysylltu â'u cymunedau. Mae'r argyfwng hinsawdd yn gofyn am ymateb cyfunol, gwybodus, ac mae prifysgolion wrth wraidd yr ymdrech hon.
Mae ymchwil ac arloesi a gynhelir gan ein prifysgolion yn dylanwadu ar ein dealltwriaeth ehangach o wyddor hinsawdd ac yn ein helpu i ddatblygu atebion i'r argyfwng hinsawdd. Mae llawer o brifysgolion Cymru ar flaen y gad yn yr ymdrechion hyn, boed hynny drwy hyrwyddo atebion ynni adnewyddadwy, dulliau dal carbon a thechnolegau gwyrdd, neu ddatblygu dulliau cynaliadwy o ymdrin ag amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu. Mae'r mentrau hyn yn ymwneud â mwy nag ymchwil; maen nhw'n trosi syniadau'n gymwysiadau yn y byd go iawn sy'n gallu helpu i liniaru — ac efallai gwrthdroi— niwed hinsoddol ac ecolegol.
Er enghraifft, yma ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn cydweithio â chyrff anllywodraethol, llywodraethau a rhanddeiliaid ar strategaethau adfer morwellt yn y DU. Mae ecosystemau morwellt yn hanfodol gan eu bod yn dal carbon ac yn amddiffyn arfordiroedd rhag llifogydd, gan chwarae rhan sylweddol wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae'r gwaith hwn yn enghraifft o sut mae ymchwil dan arweiniad prifysgolion yn mynd i'r afael â heriau amgylcheddol a hefyd yn cynnig atebion y gellir eu rhoi ar waith ar raddfa fwy, sydd â'r potensial i'w mabwysiadu'n fyd-eang.
Yn Abertawe, rydym yn cymryd o ddifrif ein cyfrifoldeb i uwchsgilio arweinwyr cynaliadwyedd a llunwyr penderfyniadau'r dyfodol, gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau y mae eu hangen i arwain newid a gweithio mewn sectorau gwyrdd datblygol. Rydym yn cynnig hyfforddiant Llythrennedd Carbon i fyfyrwyr a staff fel ei gilydd, gan roi'r wybodaeth y mae ei hangen arnynt i leihau allyriadau ar lefel leol ac eirioli dros arferion cynaliadwy. Mae'r rhaglenni hyn yn sicrhau bod graddedigion - yn ogystal ag ennill eu graddau - yn gadael â'r sgiliau a'r wybodaeth i sbarduno newid amgylcheddol yn eu gyrfaoedd a'u cymunedau.
Y tu hwnt i'n gweithgareddau ymchwil ac addysgu, mae prifysgolion hefyd yn arwain drwy esiampl drwy ein gweithrediadau campws cynaliadwy. Mae myfyrwyr heddiw yn chwarae rhan hanfodol wrth ddal sefydliadau'n atebol: mae 91% ohonynt yn galw ar eu prifysgolion i gymryd camau gweithredol o ran yr hinsawdd ac mae 74% o fyfyrwyr rhyngwladol yn ystyried ymdrechion amgylcheddol wrth ddewis ble i astudio. Adlewyrchir hyn mewn tuedd ehangach yn ein sector addysg uwch, wrth i brifysgolion ledled y byd ymrwymo i nodau datblygu cynaliadwy, gwaredu eu buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil a blaenoriaethu atebion ynni adnewyddadwy.
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch o'n Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd uchelgeisiol, a'n nod yw cyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2035.
I ategu hyn, rydym wedi cymryd camau breision sylweddol drwy osod dros 2,000 o baneli solar, datblygu adeiladau sy'n barod am sero net, a buddsoddi mewn technolegau ynni-effeithlon fel goleuadau LED clyfar a phympiau gwres ffynhonnell aer ar draws ein hystad. Mae mentrau o'r fath yn dangos sut y gall campysau eu hunain weithredu fel microcosmau cymunedau cynaliadwy, gan ddarparu patrwm gweithio ar gyfer mabwysiadu technolegau gwyrdd ar raddfa fwy mewn ardaloedd trefol a gwledig fel ei gilydd.
Rydym yn falch o fod yn un o sylfaenwyr y Gynghrair Nature Positive Universities. O draeth a thwyni Campws y Bae i goetir, dolydd a gerddi Parc Singleton, mae campysau ein prifysgol yn cynnal bywyd gwyllt ac ecosystemau amrywiol. Mae ein prosiectau cadwraeth, megis datblygu dolydd blodau gwyllt, rheoli Twyni Crymlyn fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac ennill statws Aur am fod yn gyfeillgar i wenyn a draenogiaid, yn dangos sut y gellir cynllunio ardaloedd trefol yn feddylgar i gefnogi bioamrywiaeth.
Rydym yn deall ei bod yn amhosibl i unrhyw un sefydliad ddatrys yr argyfwng hinsawdd ar ei ben ei hun. Mae gweithredu'n effeithiol yn gofyn am gydweithio â sefydliadau lleol a rhanbarthol i sicrhau bod ymdrechion cynaliadwyedd yn cael eu cydlynu, yn effeithiol ac mewn modd y gellir eu rhoi ar waith ar raddfa fwy. Rydym wedi gweld yn uniongyrchol effaith sylweddol Partneriaethau Natur Lleol yma yn Abertawe, gan gydweddu mentrau bioamrywiaeth ag ymdrechion rhanbarthol a manteisio ar arbenigedd partneriaid fel BugLife a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae ymdrechion Prifysgol Abertawe yn dangos potensial sefydliadau addysg uwch i fod yn hybiau arloesi, dysgu a gweithredu. Drwy ein hymchwil arloesol, ein gweithrediadau cynaliadwy a thrwy addysgu arweinwyr y dyfodol, mae gan brifysgolion y gallu i lunio polisi ac ymarfer. Yn y frwydr i atal yr argyfwng hinsawdd, mae arweinyddiaeth a gweledigaeth prifysgolion yn hanfodol wrth adeiladu dyfodol cynaliadwy a gwydn i bawb