Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00336
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
7 Awst 2024
Dyddiad Cyfweliad
15 Awst 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

I atgyfnerthu ein Tîm Iechyd y Cyhoedd a Gofal Iechyd Sylfaenol amrywiol a phrofiadol, mae'r Ysgol yn chwilio am unigolyn sy'n Ymwelydd Iechyd Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol sy'n gallu gwella profiad dysgu ein myfyrwyr yn sylweddol drwy addysgu a pharhau i ddatblygu'r cwricwlwm.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus helpu i gryfhau'r cysylltiadau rhwng ein rhaglenni astudio amrywiol a'n rhanddeiliaid allweddol, yn enwedig Byrddau Iechyd lleol. Bydd tîm y staff addysgu'n rhannu ac yn hyrwyddo arfer addysgu da a'u nod yw datblygu dulliau addysgu arloesol i ennyn diddordeb ac ysbrydoli myfyrwyr.

Disgwylir i ddeiliad y swydd hon gyfrannu at addysgu a goruchwylio myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ynghyd â chyfrannu at raglenni eraill ar draws yr Ysgol pan fydd angen, yn ogystal â rhannu cyfrifoldebau gweinyddol ac academaidd y sefydliad.

Meini Prawf Hanfodol

  1. Cofrestriad cyfredol gyda'r NMC fel Ymwelydd Iechyd Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol ar ran 3 o'r gofrestr.
  2. Gradd MSc mewn Nyrsio (Ymwelwyr Iechyd) Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol neu gyfwerth.
  3. Gwybodaeth gyfoes am weithio mewn lleoliad gofal iechyd cymunedol/sylfaenol neu brofiad o hyn.
  4. Mae cymhwyster addysgu cydnabyddedig yn ddymunol.
  5. Lefel gwybodaeth a phrofiad ardderchog ynghyd â dealltwriaeth eglur o faterion sy'n gysylltiedig â sgiliau clinigol mewn ymarfer Ymwelwyr Iechyd.
  6. Y gallu i gynllunio, cyflwyno ac addasu addysgu personol drwy ddefnyddio arddull/dull addas i gyflawni’r amcanion dysgu a nodwyd ar draws y maes pwnc.
  7. Y gallu i ddefnyddio dulliau addysgu arloesol gan gynnwys dysgu cyfunol ac efelychu.
  8. Tystiolaeth o addysgu, mentora neu oruchwylio myfyrwyr (mewn amgylchedd addysgol a/neu glinigol).
  9. Dangos ymwybyddiaeth o ymchwil bresennol yn y maes a/neu ymarfer cyfredol gyda dealltwriaeth eglur o'r materion sy'n ymwneud ag Ymwelwyr Iechyd.
  10. Tystiolaeth o ledaenu canfyddiadau ymchwil yn fewnol ac yn allanol neu’r gallu i wneud hyn.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysgu ac Ysgolheictod. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi’u tangynrychioli yn y byd academaidd a byddem yn croesawu ceisiadau gan ddynion yn benodol ar gyfer y swydd hon. Hefyd mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi’u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn.Penodir ar sail teilyngdod bob amser. 

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr