Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00371
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£32,982 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
4 Gorff 2024
Dyddiad Cyfweliad
12 Gorff 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rydym yn cyhoeddi swydd newydd am flwyddyn i Diwtor Addysgu mewn Ecoleg y Môr a Newid yn yr Hinsawdd yn Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe. Dyma gyfle gwych i ymuno ag adran fywiog sy'n tyfu a thîm hynod lwyddiannus o academyddion sy'n addysgu ac yn ymchwilio, ac ennill profiadau allweddol i wella eich CV.

 

Yn Adran y Biowyddorau, rydym yn cynnig 3 chynllun gradd israddedig wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Bioleg Frenhinol, mewn bioleg y môr, sŵoleg a bioleg, a chyrsiau Meistr a addysgir ac ymchwil poblogaidd sy'n cwmpasu ystod eang o bynciau, o Ecoleg Fyd-eang a Chadwraeth i Systemau Morol a Dŵr Croyw, i Gynnyrch Naturiol ac Adnoddau Amgylcheddol.  Mae ein hadran ym Mharc Singleton hardd, yn wynebu'r traeth, ac mae'n agos at ardaloedd naturiol syfrdanol gan gynnwys Penrhyn Gŵyr, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro, sy'n wych ar gyfer addysgu ein cyrsiau maes.  Mae gennym gyfleusterau modern gwych, gan gynnwys ein llong catamaran 18m newydd ar gyfer ymchwil ac addysgu, a'r Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy (CSAR) sy'n ganolfan flaenllaw yn y DU. Hefyd, mae'r gwerthusiad REF diweddaraf wedi dyfarnu bod 100% o'n hamgylchedd ymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n rhagori'n rhyngwladol.  

Yn y swydd hon, byddwch yn cyfrannu at addysgu ein graddau BSc ac MSc mewn Ecoleg y Môr a Newid yn yr Hinsawdd, gan gynnwys drwy addysgu modiwlau ar fioleg newid yn yr hinsawdd, sgiliau proffesiynol bioleg y môr, ecoleg gefnforol a chyrsiau maes, gan gynnwys cyrsiau maes ecoleg drofannol forol dramor. Un o nodau allweddol swyddi cyfnod penodol yn Adran y Biowyddorau hefyd yw gwella'n feirniadol CV a chyflogadwyedd ymgeiswyr llwyddiannus ac felly cewch eich mentora gan academyddion profiadol.

Mae'r swydd yn gofyn am PhD yn y Biowyddorau (neu fod ar fin cwblhau hynny) a meysydd cysylltiedig, y gallu i ddarparu addysgu a dysgu myfyrwyr o safon, ac ymrwymiad i wella profiad cyffredinol myfyrwyr

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr